Gai Toms

Gai Toms close up copy

Cyfweliad gan Bleddyn Williams / Interview by Bleddyn Williams

Ffotos:  Alwyn Jones a Helen Macateer / 

** Please scroll for English translation **

Lle? : Dros y wê.

Pryd? : Medi 1af, 2015

Mae Gai Toms ar fîn rhyddhau ei 3ydd albwm ar Recordiau SBENSH – ‘The Wild, the Tame and the Feral’. Tydi 3 albwm ddim yn swnio’n llawer, ond sbiwch ar ei ddisgograffi cyn y blynyddoedd Sbensh, rhwng Anweledig a Mim Twm Llai mae digon o ganeuon  ar gyfer sawl record ‘goreuon’! Oni’n ffêsbwcio un noson, a dod ar draws cais i wneud cyfweliad efo’r dyn am ei albwm newydd. Fel hogyn o Pesda… dwi wedi ymddiddori yn y byd pop/roc Cymraeg ers blynyddoedd, felly’n pasio’r prawf i holi’r cyfansoddwr o Blaena’. Ges i link i’r albwm drwy soundcloud, agorais potel o wîn, a tanio’r cwestiynau ar ebost.  Dyma’r canlyniad:

O le gesti’r siwt?

Nes i brynu’r siwt ar gyfer priodas fy chwaer yn y 90’au hwyr! Oni’n sdiwdant yn Aberystwyth ar y pryd a’r unig ffordd oni’n gallu fforddio’r siwt oedd i agor cyfrif efo Burtons. Nath y siwt fy rhoi mewn dylad a gafodd effaith ar fy credit history am gyfnod, debt collectors a ballu!

Pam dewis ysgrifennu mewn Saesneg yn lle gynta?

Mae lot o fobl yn gofyn! Sgwennais fy nghân gynta yn Saesneg, ‘Angel’ efo Jo Buck (Anweledig) ar gyfer cystadleuaeth yn yr ysgol. Doedd o’m yn ‘ddewis’ rili, dwi wastad wedi ymbalfalu efo geiriau Saesneg ond jest heb deimlo’n gyfforddus efo nhw, tan rwan. Mae rhai pobl yn meddwl mod i’n canu’n Saeseg oherwydd y bollocks PRS ‘na, a mod i’n chwilio am fwy o royalties. Mae’r pobl yma wedi methu’r pwynt yn llwyr, dwi jest isio’r albwm allan yna, ar yr awyr neu ddim.  Ond, i ateb y cwestiwn (mewn trefn) 1. Mae’r caneuon yn bodoli, dwi isio nhw allan yna. 2. Hyn a hyn o bethau alli di wneud yn y Gymraeg yn unig, mae’r albwm yma jest yn ddrws yn y coridor. 3. Oes dal stigma efo Cymry Cymraeg yn canu’n Saesneg?!

Gai Toms JBond2 copy

Sut brofiad oedd o i ysgrifennu mewn Saesneg? Odd o’n dod yn hawdd i chdi?

Fel udus i, dwi wedi ymbalfalu efo fo ers tro, efallai mai rwan dwi’n cael y gafael arni. Dysgwr hwyr! Mae’n grefft wahanol i’r Gymraeg ond eto mae’r ddau yn bowsio oddiar eu gilydd ar adegau hefyd e.e. y gân Sea & Mountain… y dywediad ‘môr a mynydd’ yn y Gymraeg, dwi’n teimlo bod y dywediad wedi effeithio teimlad y gân. I ddechra, cân am Feirionnydd oedd o, wedyn mi drodd yn gân am berthynas ‘môr a mynydd’, yn hytrach na chân am y tirwedd. Mae prosesau fel hyn yn helpu rhoi hunaniaeth Cymraeg / Cymreig i’r caneuon Saesneg… ac yn broses ddifyr hefyd.

Ma na ddipyn o gyfeirio at natur mewn ambell gan ac yn lot o dy sdwff blaenorol, di hynny’n bwrpasol? Rhyw themau yn rhedeg trwy bopeth yn y cefndir?

Wrth gwrs, mae’n anodd anwybyddu natur tydi? Da ni’n rhan ohono… da ni gyd yn fflachlwch o’r gofod. Ond, os ti isio ateb chydig agosach i’r ddaear… mae’r cynhefin dwi ynddo wastad yn effeithio arnaf, foed o’n gefn gwlad neu’n ddinesig. Dwi’n gobeithio bydd elfennau o’r albwm yn rhoi profiad i’r gwrandawr o fywyd yma yng Ngwynedd… nid yn llythrennol, jest o safbwynt y delweddau a’r tirwedd, heb fod yn rhy ‘werinol’ ac ystrydebol.

Gai Toms Haul1 copy

Ma na rhyw feiban Elvis Costello ar ambell i drac. Ydy o’n rhiwyn ti’n gwrando ar, oedd o’n bwrpasol?

Wedi ti ddeud hynna rwan, bydd raid i mi wrando mwy arno. Dwi’n deall yn iawn be ti feddwl, falla bo ni efo’r un dyheadau? Yn frodyr ysbrydol? Hefyd, mae o’n cymysgu arddulliau cerddorol, rywbeth dwi neud yn aml, ond dim gymaint ar yr albwm yma… dwi’n teimlo bod na gysondeb yn swn yr albwm yma, i’w gymharu a Bethel felly, oedd hwna’n hollol aml-arddull.

Hoff iawn o “Career Suicide”, ydio’n dy boeni di y bydd rhyddhau album uniaith Saesneg yn rhyw fath o career suicide o fewn rhai cylchoedd cerddorol cul yng Nghymru?

Diolch! Mae’r gân yn un tafod yn y boch am fynd ar raglenni teledu fel Can i Gymru ac X Factor ac ati, felly (gan mod i wedi cystadlu, ac ennill) mae’r career suicide wedi digwydd yn barod yn fy marn i! Cyfnod o desperation! Gall dadla hefyd mod i ddim yn sgwennu caneuon mor ‘catchy’ yn y Gymraeg ddim mwy chwaith… a bod hynny’n ‘career suicide’ o fewn ei hun, pwy a wyr?! Sneb yn crafu dan wyneb cerddoriaeth Gymraeg di mynd… mae sgyrsiau, adolygiadau a chyfweliadau mor arwynebol a boring tydi nhw ddim i weld yn siapio’n diwylliant cynhenid. Efallai bod canu’n Saesneg yn ffordd o chwilio am adborth gwell, ryw ffordd o fesur llwyddiant, neu’r methiant! Dwi jest yn gobeithio neith pobl dderbyn a dehongli’r albwm am ei gynnwys, yn hytrach na mynd ymlaen am ba iaith mae o ynddi. Dwi cael ymateb ffafriol hyd yn hyn, yn enwedig gan pobl llawr gwlad.

Gai Toms rhoi copy

Ma lot yn troi at acen Saesneg / Americanaidd pan yn canu yn Saesneg, ti amlwg heb. Dewis oedd huna, ta felna di’r unig ffordd fedri di ganu?

Dwi’n meddalu fy ‘R’s weithia yn yr albwm ond dim drwyddi… ond oni swnio ‘tha nob! Nes i chwarae’r album i Mam, y peth cynta udodd hi oedd, “Pam nei di’m canu efo acen American? Swnio well felna sti…”! Allai dychmygu’r glust Einglaidd yn cael trafferth efo’r acen, ond mae acen Saesneg Gwynedd (yn ogystal a’r iaith Gymraeg ei hun) yn rhan o’n tirwedd sonig, felly yn rhan o dirwedd sonig Prydain a’r byd. Os di ydi’r ‘Naziaid diwylliant’ isio acen ‘Eingl-Americanaidd’ hawdd i’r glust, tydi’r albwm yma ddim iddyn nhw yn anffodus.

Pwy di’r Tai Chi woman? Sgen ti lot o brofiad o ferchaid oriental?

Es i nôl Chinese o ‘Taste Garden’ yn Blaenau un tro, a gadael fy enw am yr archeb, “… my name is Gai”, nath y ddynes biso chwerthin yn fy ngwynab! ‘Gai’ yn Cantonese ydi cyw iar! Nes i ffeindio allan wedyn mai Toms yn Cantonese ydi ‘soup’… dwi wedi meddwl galw’r band yn ‘Croutons’, Gai Toms a’r Croutons! Os fyswn i’n canu caneuon comedy yn unig, fyswn i’n ei ddefnyddio. Dyna ydi mhrofiad i o genod oriental arnai ofn Bledd. Nol i’r gân, mynd a Django y ci am dro ar y traeth oni, a gwelais dynes yn gwneud Tai Chi yn ei gardd. Yr un pryd, oedd pobl ar y traeth yn ffraeo bod tywod wedi mynd dros eu picnic… roedd y gwrthgyferbyniad yn hyfryd! Hey presto.. cân! Mae’r albwm yn llawn gwrthgyferbyniadau, dwi licio hynny mewn caneuon.

O le yn Nghymru mae Dai Serpula yn dod, cyfenw od i Gymro.

Boom! Bledd, ti’n hileriys. ‘Die’ dio y lembo! Serpula Lycramans ydi’r enw Lladin ar ‘dry rot’… ges i o yn y stiwido / capel (Bethel), diawl o beth! Mae’r gân o safbwynt y pitch pine a ddaeth o America i Gymru i’r capeli. Mae Adam Quaeck (aka Titus Monk) yn ymddangos ar hon fel ryw ysbryd shamanaidd yn gwaredu’r ‘diafol’ o’r capel. Yr un pryd, yn swnio fel ysbryd America frodorol yn galw’r goeden yn ôl.

Ar ôl Brython Shag pam ti di dewis mynd yn ol at gyfansoddi ar ben dy hyn? Di cal llond bol o Ceri C? ; )

Ha!! Dwi nabod Ceri C ers 1976… da ni fel y cwpl na ar Father Ted, ffrindia gora un munud a ffraeo munud wedyn. Be sy gwylltio fi ydi pobl yn dod ata i yn cwyno am y petha ma’n ddeud/neud ar noson allan… fatha mod i efo ryw awdurdod drosto. Rhyngdda fo a’i betha! Ond, un peth dwi yn gwbod, mae o’n dderyn prin efo calon anferth… a dwi’n i garu o! Mae o jest angen mwy o ddisgyblaeth pan mae o yng ngwydd front men eraill o’r SRG (…dwi di cychwyn ffrae arall wan! Ha!).

O safbwynt y cyfansoddi, oni wedi cychwyn yr albwm yma cyn i Brython Shag ffurfio. Byddaf yn sgwennu caneuon tra fyddai’n fyw, foed o’n waith solo, band, theatr, ffilm, teledu, jingls… wbath! Mae cyfnodau yn mynd a dod, mae’r cyfansoddwr yn aros.

WTF GT cover

Bydd ‘The Wild, the Tame and the Feral’ allan ar Recordiau SBENSH, Medi 14eg, 2015.

CD ar gael o http://www.sbensh.com am £7.99 (+£1.50 pp) neu lawrlwythwch o iTunes.

Bydd copiau mewn ambell i siop recordiau / llyfrau hefyd!

(English translation)

Where? : On the net

When?: September 1st, 2015.

Gai Toms is about to release his 3rd album on SBENSH Records, titled ‘The Wild, the Tame and the Feral’. 3 albums doesn’t sound like much, but check out the pre-Sbensh years discography, from Anweledig’s ska – rock to the folk persona of Mim Twm Llai there’s plenty of material for a few ‘best of’ compilations! On Facebook I came across a request to interview the songwriter from Blaenau Ffestiniog, as a Bethesda lad… I’ve been a follower of Welsh music for years, so I got the stripes! I got a soundcloud link to his album, opened a bottle of wine, the fired some questions to him. Here’s the result: 

Where did you get the suit?

I got the suit for my sisters wedding in the late 90’s. I was a student in Aberystwyth at the time and the only way I could afford the suit was to sign up for a Burtons credit card. The suit got me into debt and gave me a bad credit record… debt collectors and all.

You’ve always written in Welsh, why have you chosen English now?

Everybody asks that! I wrote my very first song in English, ‘Angel’ with Jo Buck (Anweledig) for a school competition. It wasn’t a ‘choice’ really, I’ve always dabbled with English words but haven’t felt comfortable with them, until now. Some people think I write in English now because of the PRS bollocks (PRS/BBC/EOS debate about Welsh royalties, 2009 – 2012) and that I’m looking for more royalties. They’re missing the point, I just want the music out there… airplay or not! To answer the question (in order) 1. The music exists, I want it out there. 2. There’s only so much you can achieve singing in Welsh only, this album is just a door in the corridor. 3. Is there still stigma about Welsh speakers singing in English?!

Does writing in English come easy?

As I said, I’ve dabbled with it for years, I think I’ve got the hang of it now. Late learner! In comparison to Welsh, It’s a totally different craft / framework of thinking, sometimes they bounce off each other e.g. the song ‘Sea & Mountain… in Welsh it’s a saying – ‘môr a mynydd’, which is the equivalent of the saying ‘making a mountain out of a mole hill’, so the literal Welsh meaning has somehow affected the song style. To begin with it was a song about Meirionethshire and it’s landscape, then… due to the Welsh meaning it’s turned into a song about a turbulent relationship. Processes like this help give my songs a Welsh identity… as well as being an interesting process.

There are many nature references in your songs, as well as your previous music, do you do this on purpose? Is there a theme?

Of course, we can’t escape nature, we’re part of it… we’re made of stardust. But, for an answer closer to home… I’m always affected by the environment, be it country side or an urban setting. I hope people will have a Gwynedd (North West Wales) experience when listening to this… not literally, but abstractly and from a landscape perspective without being too ‘folky’ and stereotype.

There’s an Elvis Costello vibe on some tracks. Do you listen to him?

Now you’ve said that, I’ll have to listen some more! Elvis and I must share the same musical intentions, like some kind of spiritual / music brothers. Who knows?! I know he plays many music styles, he’s also very lyrical… I’m similar. But this album has a consistency compared to my previous album ‘Bethel’, that album was totally multi genre.

I like “Career Suicide”, does it worry you that singing in English might be ‘career suicide’ in some narrow minded Welsh language music circles?

Thanks! ‘Career Suicide’ is a tongue in cheek jibe at people going on TV programmes like Can i Gymru (Song for Wales, S4C) and X Factor etc, I’m one… therefore I’ve already committed the career suicide, ha!! (GT competed in Can i Gymru 3 times, won in 2012). It was desperation. I don’t write catchy Welsh tunes much these days either, you could argue that as career suicide too. The thing with the Welsh language scene is, no one scratches the surface… talks, reviews and interviews are so vague and boring, it’s impossible to measure success, or failure. Maybe I’m looking for better feedback through English. I just hope people will accept and perceive the album for it’s content, not for the language it’s in.

A lot of artists put on an English / American accent when they sing in English, you obviously haven’t. Was that a decision, or is that the only way you can sing in your second language?

I soften the ‘R’s in some instances but not throughout, I sounded like a knob doing that! I played the album to Mam, the first thing she said was, “…why don’t you sing with an American accent, sound better like that you know!” (in Welsh). I can imagine some Anglo ears having difficulty with the accent, but the Gwynedd English accent (along side the Welsh language itself) is part of our sonic landscape, therefore part of the British sonic landscape… the world’s sonic landscape! If ‘Culture Nazi’s’ want a typical Anglo-American accent, this album is not for them unfortunately.

Who’s the Tai Chi Woman? Do you have much experience with oriental women?

I once got a Chinese take away in the ‘Taste Garden’ in Blaenau, I left my name for the order, “…my name is Gai”, the girl behind the counter started pissing herself laughing! ‘Gai’ in Cantonese is chicken! I found out later that Toms in Cantonese is soup…. I have thought of naming the band ‘The Croutons’, Gai Toms & The Croutons! If I sang comedy songs I’d go for it, but it doesn’t quite suit the music. So, yes… that’s my experience of oriental women so far. Back to the song, I was walking Django the dog on the beach and saw a woman doing Tai Chi in her beach house garden, all calm and peaceful. At the same time, there were people on the beach quarrelling about the sand getting into their picnic, the contradiction was beautiful. Hey presto, a song! The album is full of contradictions, I like that in songs.

Dai Serpula, strange Welsh surname, where’s he from?

Boom! Bledd, you’re hilarious! It’s ‘Die’ you plonk! Serpula Lycramans is the latin name for ‘dry rot’, I had a case of it in the studio (old chapel), what a nightmare! The song is from the wood’s perspective, the American pitch pine that were used in our chapels during the Methodist revival. Adam Quaeck (aka Titus Monk) gives a haunting special appearance, like a shaman exorcizing the ‘demon’ from the chapel, like a native American spirit calling the pitch pine back to where it belongs.

After Brython Shag (Gai’s other band) why have you chosen to go back to writing solo? Had enough of Ceri C (Brython Shag / Anweledig singer)?!

Ha!! I know Ceri C since 1976… we’re like that couple on Father Ted, friends one minute, arguing the other minute. What get’s me is people coming up to me complaining about the thing he says/does on nights out… as if I had some kind of authority over him. But, one thing I do know… he’s got a heart of gold and I love him, he just needs more discipline in front of other frontmen… (I’ve stared another argument now! Ha!).

Back to the writing, I started this album before Brython Shag formed, but anyway, I’m going to write and compose until I’m able to solo, band, theatre, film, tv, jingles… anything! Times come and go, the songwriter stays.

The ‘The Wild, the Tame and the Feral’ is out on Recordiau SBENSH, Sept 14th, 2015.

CD from http://www.sbensh.com for £7.99 (+£1.50 pp) or download from iTunes.

Also available from various record / book shops.

Advertisements

Gareth Bonello / The Gentle Good

IMG_1863

Lle / Where? Canton, Caerdydd / Cardiff.

Pryd / When? 6.3.14

Croeso i Brythonicana cyntaf 2014! Ymddiheuriadau am yr oedi ers yr un diweddaraf, cofiwch mai cyfrwng guerilla ydi hwn! Pwy gwell i groesawy goleuni haul y Gwanwyn yn ol? Y dyn ei hun, Mr Gareth Bonello, aka The Gentle Good. Davey Graham Cymraeg? Bert Jansch Caerdydd? John Fahey Celtaidd? Pah! Peidiwch a bo’n wirion… hen bryd i ni ddehongli a derbyn ein artistiaid fel yr ydynt. Wrth gwrs, mae ysbrydoliaethau ymhobman ac anodd yw peidio a gwneud cymhariaethau, ond… wrth anwybyddu’r ‘fframwaith cymhariaethol’ gwelwn dalent gwreiddiol go iawn. Ers ddyddiau Anhrefn yn Ewrop a ton ‘Cool Cymru’ y 90’au, rydym yn gweld mwy a mwy o artistiaid o Gymru yn llwyddo dros y ffin, ac yn rhyngwladol, yn ogystal ac adref. Mae The Gentle Good yn un o’r rhai sydd ar flaen y gad yma. Cyn bo hir (roi fet arni!) bydd adran gerdd Prifysgol Cymru yn gwneud astudiaethau ar waith y gwr hwn! Wedi llwyddiant ysgubol yr albwm ‘Tethered for the Storm’ (Gwymon 2011) dyma ni albwm newydd – ‘Y Bardd Anfarwol’ (Bubblewrap 2012), albwm gysyniadol yn cyfuno dau ddiwylliant mor bell i ffwrdd, eto… mor agos. Mwynhewch Brythonicana ar ei newydd wedd!

 

Welcome to the 1st Brythonicana of 2014! Also, the 1st in video format. Bilingual too! Apologies for the delay since the last one, this is voluntary / guerilla media after all! (have I coined a new term here – ‘Voluntilla Media’?!). As we welcome the light of Spring and look forward to the warmth of Summer, who better than Mr Gareth Bonello, aka The Gentle Good, to keep us company. The Welsh Davey Graham? The Cardiff Bert Jansch? The Cetlic John Fahey? Pah! It’s time for us to appreciate and accept the fact that we have world class music artists in Wales who stand on their own two feet. OK, evergreen influences guide us in all aspects of life and it’s hard not to make comparisons, but take away the ‘comparison framework’ what we really see is raw talent. Since the European post-punk Anrhefn days and the wave of ‘Cool Cymru’ bands in the 90’s… today, we see more and more Welsh artists succeeding beyond Offa’s Dyke, as well as on home turf, and that’s a pretty cool thing considering the current post post-modern digital music industry climate that we’re in. The Gentle Good seems to be at the forefront of this new wave of Welsh artists going beyond the comfort zone. Gazing into the Brythonicana crystal ball… I see University students writing essays on this guy’s work! After the success of the 20011 album ‘Tethered for the Storm’ (Gwymon 2012) we now have his latest release – ‘Y Bardd Anfarwol’ (The Immortal Bard), a concept album merging two cultures so far apart, yet so close. Enjoy Brythonicana in it’s new format!

 

 

Kizzy Crawford

1

Wel… rhaid dweud, mae 2013 wedi bod yn flwyddyn a hanner i gerddoriaeth Cymreig. O’r triongl anghydfod cymleth rhwng y PRS, BBC ac EOS i’r ton newydd o fandiau Cymreig yn lwyddo dros y ffîn… o ‘frethyn’ gwyl Swn, Womex a NO.6 i ‘wlân’ gigs tafarndai swnllyd a gwyliau bychain… o raglenni teledu fel Ochr 1, Stiwidio Gefn ag Acapela i raglenni Radio Cymru / Wales (…yn enwedig C2!)… o’r sylw prin ac arwynebol yn ein papurau cenedlaethol i flogs guerilla gwirfoddol, heb anghofio Selar wrth gwrs! Mae’r cyfryngau hyn yn hanfodol i gynnal unrhyw sîn gan roi chydig mwy o hygrededd i hud ein diwylliant. Ydi wir… mae’r SRG, neu ‘byd cerddorol Cymru’ (beth bynnag ydych yn ei alw) yn feicrocosm arbennig o fewn ecosystem diwylliannol ehangach y byd, aderyn prin a’i blu lliwgar yn crafu byw ar weddillion yr adar sglyfaethus, a hynny mewn anialwch o aur! Mae’n ymddangos hefyd bod modd rhoi sglein ar eich adenydd os ydych yn gallu rheoli’ch amser a llenwi ffurflenni grantiau… ond, nid pob cerddor sy’n meddianu’r sgiliau swyddfa hyn, yn ogystal, mae’r berthynas ansefydlog rhwng cyllid a chreu yn bwnc orthrychol iawn. Er yr holl glwydi, gwendidau, gwahaniaethau, dadlau, arddulliau … sdim os nac onibai bod safon cerddoriaeth Cymru yn arbennig o dda, gyda thon newydd o artistiaid hyderus yn ymddangos fel madarch hud yn ein caeau gwyrdd, fel wyn yn prancio mysg ein preiddiau profiadol. Yn wir… bydd gwanwyn 2014 yma cyn i chi allu dweud ‘tangnefedd i’r twrci’… oes gwanwyn cerddorol cystal a ’13 ar y ffordd? Pwy a wyr!? Rhoddaf y gair olaf i un o’n sêr mwyaf talentog newydd… Kizzy Crawford!

Blwyddyn Newydd Dda,  a diolch o galon am ddarllen Brythonicana 2013.

Llongyfarchiadau ar yr EP mewydd ‘Temporary Zone’, swnio’n wych. Sut ymateb hyd yn hyn?

Diolch! Mae di bod yn wych hyd yn hyn ac mae copïau wedi bod yn gwerthu yn gyflym yn gorfforol ac yn ddigidol! Mae wedi bod yn gyfle gwych i fi, yn gweithio gyda Amy Wadge – un o fy arwresau! – a Gethin John. Ac wrth gwrs mae ennill y gystadleuaeth Rhondda Cynon Taf wedi agor cymaint o ddrysau i fi. Mae cynhyrchu EP yma yn rhan o fy ngwobr, ac wrth gwrs mae fy rheolaeth – See Monkey Songs wedi bod yn rhan mawr hefyd. Dwi ‘di dysgu cymaint trwy’r broses gynhyrchu gyfan a mae deall sut mae fy ysgrifennu a pherfformio yn dod yn gynnyrch y gall pobl brynu, wedi bod yn ddylanwad mawr ar ddeunydd newydd.

Mae yna atseiniau amlwg iawn o ddylanwadau soul ac ‘acoustic’ R&B… pwy wyt ti’n wrando arno rhan amlaf?

Cefais fy magu yn clywed y gerddoriaeth roedd fy mam yn chwarae –  llawer o jazz , gwerin, a pethau o’r 60au / 70au fel Nick Drake , Kate Bush , Tracy Chapman , Joan Armatrading , Seal , Carpenters , Joni Mitchell , Meic Stevens , Steely Dan, Steelye Span , John Cale, 10cc a llawer o gerddoriaeth glasurol hefyd – baroc yn enwedig , a Vaughan Williams. Mae hi a fy nhad wastad wedi chwarae llawer o soul, reggae a ffync, yn ogystal â llawer o Roy Ayers , Jamiroquai , Bob Marley , Carroll Thompson , Stevie Wonder a Luther Vandross . Rwy’n gwrando ar artistiaid fel St Vincent , Andreya Triana, Snarky Puppy, Ella Fitzgerald, Gareth Bonello, Omar, Imogen Heap a Sara Tavares . Rwy’n credu gall y ddylanwadau yma cael ei glywed yn fy nghaneuon . Rwy’n tueddu i fynd am harmoni cymhleth ac mae’n bwysig iawn i fi bod geiriau yn cofiadwy ac yn cael ystyr. Dwi erioed wedi eisiau ysgrifennu’n union am deimladau fel cariad yn y ffordd mae llawer o artistiaid yn ei wneud, er yn amlwg mae fy nheimladau yn dylanwadu ar fy ysgrifennu , mae jyst well gen i ddefnyddio trosiadau. Dwi wrth fy modd yn astudio llenyddiaeth Gymraeg yn yr ysgol ac wedi ysgrifennu llawer o ganeuon sy’n cael ei ddylanwadu yn uniongyrchol gan gerddi dwi ‘di gweithio arno. Yn aml mae sefyllfaoedd teuluol neu bobl rwy’n cwrdd yn rhoi syniadau i fi ar gyfer geiriau, ac os dwi eisiau chwilio am syniadau neu deimladau, dydy cerdded lan ar y comin uwchben y tŷ byth yn methu fi…

7

Mae’r EP wedi ei gynhyrchu’n dda ond yn gynnil, ydi hynny’n help pan ti’n perfformio’n fyw efo loop pedal?

Mae elfennau o fy mherfformiadau byw ac effeithiau ac arbrofion fy lwp pedal wedi mynd i mewn i un neu ddau o’r traciau, fodd bynnag cafodd rhai o’r traciau eu recordio yn gynharach eleni, ac ers hynny dwin teimlo fy mod wedi datblygu yn gerddorol yn fy mherfformiad a’r ffordd rwyn arbrofi. Mae’n golygu fy mod i’n gallu datblygu llawer mwy o syniadau ar gyfer y traciau wrth i fi perfformio nhw’n fyw ac o bosibl recordio fersiynau eraill. Mae wedi bod yn broses ddysgu fawr i fi ac mae wedi helpu fi i ddatblygu fy sgiliau cynhyrchu a recordio fy hunain.

Ti wedi cael blwyddyn llwyddiannus iawn. Ennill brywdr y bandiau Maes B, cytundeb recordio / rheolaeth ac EP… wyt ti’n hapus?

Mae ‘di bod yn wych! Mae’r gystadleuaeth canu\sgwennu yr RCT enillais yn Tachwedd blwyddyn diwethaf wedi rhoi  llawer o gyfleoedd i fi eleni. Dwi nawr dan rheolaeth gyda label Charlotte Church : See Monkey Songs, ac yn gweithio gyda grŵp o fenywod anhygoel ar y label sydd wedi helpu fi i gyflawni cymaint o bethau eleni. Ac wrth gwrs mae ennill brwydr y bandiau wedi rhoi cymaint o gyfleoedd yn diweddar. Mae gigs wedi bod yn mental! Mae yna gymaint o uchafbwyntiau! Cefais y cyfle i chwarae yn y gynhadledd agoriadol yn Womex, agorais gynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth i Leanne Wood, dwi ‘di cefnogi Newton Faulkner a Meic Stevens a hefyd ‘di cael y cyfle i berfformio ‘Adra’ gyda Gwyneth Glyn yn y steddfod yn Nhinbych!

3

Beth, yn dy farn di, ydy’r peth gorau am yr SRG (Sin Roc Gymraeg)?

Mae na cymaint o fandiau ac artistiaid anhygoel o gwmpas, fel Gildas, Swnami, Plu, Greta Isaac, Al Lewis, The Gentle Good, Gwenno, Georgia Ruth, mae llawer o roc, indie a gwerin. Dwi’n hoff iawn o’r cymysgedd o electro\pop\gwerin ni’n clywed o Gulp a Trwbador. Byddai wrth fy modd i weld mwy o jazz a soul. Byddai’n hoffi dweud fy mod i’n dod â rhywfaint o hynny i’r sin fy hun!

Beth yw dy gefndir cerddorol?

Mae rhieni fy nhad yn dod o Barbados , a symudodd nhw i Reading yn y 1950au lle cafodd fy rhieni eu geni – roedd fy nhad-cu mewn côr adnabyddus a deithiodd y West Indies. Mae gen i lawer o ddylanwadau reggae , ffync a soul o ochr fy nhad.
Mae fy mam yn dod o de-ddwyrain Lloegr. Mae gen i lawer o ddylanwadau gwerin a jazz o ochr fy mam.
Dwin uniaethu fel Cymraes ac wedi cael fy haddysgu yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ers i fi fod 3 , mae gennai lawer o ddylanwadau gwerin traddodiadol Cymreig hefyd. O’n i wastad yn berfformio yn yr Eisteddfod ac mae hynny’n sicr wedi helpu fi gyda fy hyder ar y llwyfan !
Dwi ‘di sgwennu pob un o traciau’r EP fyn hunan a mae rhai wedi eu hysbrydoli gan lenyddiaeth Gymraeg dwi ‘di bod yn astudio ar gyfer fy level A. Mae fy athrawes Cymraeg Sioned Jones wedi bod yn gymorth mawr ac ysbrydoliaeth i mi. O’n i hefyd eisiau i’r traciau fod ar gyfer ac amdano fenywod cryf. Dwi’n uniaethu fel ffeminist – ffeminist, du, Cymreig – a dwi am i bobl glywed a gwybod am cryfder a phŵer merched ‘ – i wrando ar ein llais , yn ogystal ag i gwerthfawrogi ein prydferthwch. Mae na rhai menywod Cymreig cryf yn fy nganeuon, o hanes ac o nawr a rwyn rhoi llais iddyn nhw. Y gobaith yw y bydd hyn yn ysbrydoli pobl eraill. Mae ‘di bod yn neges gryf a phwysig yn fy nheulu drwy gydol fy mywyd.

Dwi wastad ‘di fod yn awyddus i chwarae gitâr felly pan oeddwn i tua 13 ces i gitar crap o argos a dysgais fy hunain. Ysgrifennais fy ngân gyntaf ar ôl chwarae o gwmpas gyda chordiau a alawon am ddiwrnod neu ddau . Roeddwn yn gwrando ar lawer o Gwyneth Glyn ar y pryd. ‘Nath e dechrau o pryd hynny.
Pan oeddwn yn 7, dechreuais wersi ffidil yn yr ysgol ac dwi wedi gwneud fy ngradd 7 ond bellach wedi penderfynu arbrofi i lawr y llwybr werinol. Mae dysgu gitar fy hun wedi rhoi lawer o ryddid i fi, ond ers i mi wedi dechrau arbrofi mwy gyda’r gitâr drydan , hoffwn gael ambell gwers, er mwyn cael y bysedd yn symud yn gyflymach , dwi am i feistroli y solo gitar! Dwi’m cweit yna eto!

5

Ti di meddwl cael band at ei gilydd? ‘Ta ti’n hapus yn solo?

Dwi wrth fy modd yn gweithio’n solo – dwi wastad ‘di bod yn solo, ac rwy’n hapus yn lle fy hunain yn perfformio gyda fy lwp pedal a gitar. Rwy’n berffeithydd pan rwy’n ysgrifennu , a phan dwi ar y llwyfan yn solo , gallai drosglwyddo popeth yn uniongyrchol at fy mherfformiad . Dwi wrth fy modd cael y rhyddid i deithio a gigio ar termau fy hunain a does dim rhaid i fi boeni am unrhyw un fod yn hwyr neu sortio unrhyw drefniadau ac arian drwy’r amser! Fel arfer jyst fi a fy cit yw e a mae’n eitha easy goin- Dwi wastad yn clywed gan eraill am y problemau mae bandiau yn cael gydag aelodau. Fel y dywedais o’r blaen, dwi wrth fy modd yn defnyddio’r lwp pedal ‘chos mae’n rhoi y cyfle i fi fod yn technegol ac arbrofol ac i symud o gwmpas ar y llwyfan ac i greu’r sŵn mawr ‘ma fy hunain, mae’n mynd lawr yn dda iawn ‘da’r gynulleidfa. Fodd bynnag, ar gyfer noson lawnsiad fy EP rhoddais band at ei gilydd gyda Guto Lloyd Davies o apps yr wythnos ar radio C2 yn chwarae bongos, Aeddan Williams yn chwarae bas dwbl a Sam Humphreys o Calan yn chwarae gitâr drydan. Roedd e’n brofiad anhygoel i gael nhw i gyd yn chwarae fy caneuon gyda fi , a wnaethom ni gelio’n syth a oedd yn gwneud y brofiad hyd yn oed yn well . Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cysylltiad cerddorol ar y llwyfan gyda nhw ac i rhannu’r cyffro o berfformio ! Methu aros i weithio gyda nhw eto ac mae gennym rai cynlluniau ar gyfer 2014 , felly watch this space!

Nadolig? Iei ta Nei?

I fod yn onest mae gallu fod yn straen i fi ar hyn o bryd, ond efallai mae e achos fi’n 17 a’r hynaf o bump. Unwaith fi’n ‘chydig yn hŷn, yn ôl pob tebyg bydd hynny’n newid! Mae’n galed i fod yn berson ifanc yn fy arddegau! Rwy’n mwynhau bod allan – gigio ac archwilio. Ond yn wir, rwy’n credu, ‘dolig yw’r amser i dreulio gyda’r teulu, i fwynhau ac i rannu ac i roi. Uchafbwynt y Nadolig yw’r ffaith ges i’r siawns i fynd ar y sbesial ‘dolig Y Stiwdio Gefn. Nes i sgwennu deuawd cariad newydd Nadoligaidd yn sbesial ar gyfer y sioe a nes i ganu fe gyda Geraint Rhys. O’n i’n bwriadu rhyddhau e fel sengl cyn y Nadolig ond oherwydd amser a pethau eraill nath e ddim gweithio mas – felly gwyliwch mas amdani Nadolig nesaf!

4

Cwestiwn i ti dy hun: “Fel artist dwyieithog, allet ti ddweud ychydig mwy wrthym am dy gyfansoddi?”

Mae’n bwysig iawn bod fy ngherddoriaeth yn siarad â phobl gyda’r geiriau dwin ysgrifennu a nid jyst yr alawon. Dwi wastad ‘di hoffi artistiaid ar gyfer y gerddoriaeth yn gyfartal am y geiriau, ond dim ond wrth i fi dyfu’n hŷn sylweddolais bod lawer o pobl dim rili yn gwrando ar y geiriau. Pan oeddwn yn tyfu lan, daeth yr iaith Gymraeg, i fi fel Gymraes, yn rhan bwysig iawn o fy hunaniaeth oherwydd roedd e’n ffordd ‘o’n i’n gallu ffitio mewn a bod fel pawb arall. Weithiau ‘o’n i’n teimlo’n unig ac yn wahanol yn yr ysgol a wnaeth cerddoriaeth rili helpu fi gyda’r teimladau ‘na, sgwennais gân am sut roeddwn yn teimlo ar y pryd sef  ‘Skin you’re In’ sydd yn gan Saesneg. Ond yn aml dwi’n ffeindio fy mod i’n defnyddio’r Gymraeg yn fwy naturiol i fynegi meddyliau a theimladau oherwydd mae’n iaith mor farddonol. Hefyd rwy’n teimlo bod pan rwy’n ysgrifennu, yn Gymraeg neu Saesneg , bod fi’n gyfrifol am bobl ifanc yn clywed fy nghaneuon ac rwy’n ymwybodol o beth rwy’n ddweud a sut gall pobl clywed fy nghaneuon. Rhywbeth rwy’n ffeindio’n eithaf anodd i ddelio gyda yw’r ffordd bod, er fy mod i’n artist Gymreig ac yn canu ac yn ysgrifennu llawer yn y Gymraeg ac, wrth gwrs, yn perfformio dros Cymru, yw’r ffaith bydd pobl yn dod ataf i – aelodau o’r gynulleidfa neu bobl rwy’n gweithio gyda, a defnyddio Saesneg er mai Cymraeg yw’r iaith yn cael ei defnyddio gan bawb o gwmpas fi. Wedyn weithiau mae pobl yn synnu pryd fi’n ateb nol yn Gymraeg! Ac er bod ni wedyn yn mynd ‘mlaen i ddefnyddio’r Gymraeg, mae’n neud i fi meddwl tybed pam a sut mae pobl yn fy ngweld i fel siaradwr Saesneg yn unig neu efallai hyd yn oed dysgwr, er gwaethaf fy nghefndir.

2014 i Kizzy?

Dwin mynd i recordio EP neu albwm newydd, ddim yn siwr pa un eto ond bydd e’n cynnwys rhai o fy synau ffynci newydd, rhai dwi ‘di bod yn perfformio’n fyw ar fy lwp pedal yn diweddar. Byddaf yn gwneud cyfres o sioeau arbennig gyda fy mand, a byddai’n perfformio mewn llawer o wyliau yn yr haf! Dwi hefyd yn gobeithio i deithio dramor, efallai gwneud taith! Ond ar ben popeth, byddain gorffen fy lefel A! Yna mae ysgol mas a dwin rhydd!

10

EP Kizzy : ‘Temporary Zone’ allan rwan / nawr!

http://www.kizzymerielcrawford.com/

http://seemonkeydomonkey.com/

Lluniau / Pics:

http://www.newsoundwales.com/

John a Kevs / Llwybr Llaethog

IMG_9819

Lle? Grangetown, Caerdydd

Pryd? Amser cinio. dydd Sadwrn Hydref 26, 2013.

Erbyn hyn yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru, sdim llawer o fobl yn clywed y geiriau ‘Llwybr Llaethog’ ac yn meddwl am galacsi ein hunain yn y gofod. Yn hytrach, mae pobl yn meddwl am ddau foi ar lwyfan mewn cotiau gwyn tu ol i offer technegol cymleth iawn yn blastio synau arallfydol. Dau foi sydd wedi gwasanaethu, hybu a chreu cerddoriaeth amgen Cymraeg ers 28 mlynedd. Dau foi sydd wastad yn meddwl tu hwnt i’r box mewn dulliau di drais, cyfoes a chreadigol ond byth yn brin o letygarwch hen ffasiwn! Y ddau foi? John ‘Gedru’ Griffiths a Kevs Ford – Llwybr Llaethog. Roedd y gyrrwr taxi yn gwybod yn union i le’r o’n i’n mynd yn Grangetown… wrth iddo dynnu drosodd, dywedodd mewn acen Caerdydd, “cross the road… it’s the 3rd door on the right.” Atebodd John y drws, roedd Kevs allan yn nol llysiau i’r cawl. Wedi Kevs gyrraedd i baratoi’r cawl… oedd hi’n LL.LL. HQ! John ar y ffôn efo Dave R Edwards a Kevs yn trafod prosiect efo Menter Caerdydd. Ymhen chydig, dechreuodd y ddau setlo… album ‘Dub Cymraeg’ ymlaen yn y cefndir, cawl ar y bwrdd (neis iawn hefyd!). Record…

Llongyfarchiadau ar yr album newydd ‘Dub Cymraeg’, ymateb dda?

Kevs: Yeah! Da ni wedi gwerthu lot o CD’s a vinyl a gyna ni chydig o reviews reit dda, Rhys Mwyn, Golwg 360…

John: Downloads wedi gwerthu hefyd, ie ma wedi mynd yn reit dda

Mae lot o pobl yn cyfrannu ar yr album, faint mor bwysig ydi cydweithio efo pobl eraill?

K: Holl bwysig! John a fi ddim yn ganwrs, dwi ddim eniwe…

J: Wyt…  fedri di’n ganu well na fi!

K: Ia wel… dim fel Jarman, Gwenno a Ruth. Ma’n dda cael llais gwahanol ar gân gwahanol, texture. Mae na lot o bobl isio neud stwff efo ni, da ni’m yn mynd allan i chwilio am ganwrs…

J: Wel weithia, dwi yn…

K: Ie.. ond mae na lot o fobl yna sydd yn…

J: Nes i ffeindio Osian Opera. Mae na un trac ar yr album – Mwydro. Oni allan ar pnawn Sadwrn efo ffrindia i Canton, cwrdd a boi ma yn pub ac oedd o’n son… “Dwi newy symyd nol i Gymru o Lundain, oni’n Opera singer yn fana, es i’n pissed off efo’r opera scene…”, so oni’n syth fel, right… tyd draw i ty ni! Daeth o a’i ffrind draw a natho ni baratoi gwledd, bwyd a diodydd ballu… wedyn, “..ti isio warble yn y stiwido?”, twbo… meics ymlaen a ballu. Ie, freestyle session oedd hwnna mwy na’m byd. Mae Dyfrig Topper ar cwpl o tracs ar yr album ‘ma, oni gweithio efo Dyfrig tua ugain mlynedd nol, oedd o’n canu ar project ‘Da Da’ nathon ni… one off 12”. Ganddo llais uffernol o dda a mae o’n one take wonder twbo, oedd o jest digwydd bod o gwmpas a mae o wastad yn keen in neud unrhywbath cerddorol. Gwenno, mae hi’n byw jest dros ffordd a wedi gweithio efo hi tua pymtheg mlynedd… ie ma’r connections yna.

IMG_9799

Mae swn unigryw i LL.LL., dybi yn amlwg… ond yn cyffwrdd ar elfennau diwydiannol hefyd, oes cyfrinachau? Oes proses arbennig i’r cynhyrchu? Ta ydy o’n broses lobscows?

K: To a certain extent, cadw’r peth yn fudr, dim rhy lan a pur. Jest gwrando ar y sain… ma’n bwysig i rili gwrando’n iawn ar y sain. Beat lawr gynta fel arfer, drums go iawn, electronic drums neu sampl…

J: Weithia da ni dechra efo tiwn. Ma Kevs efo tiwns, dwi efo tiwns… wedyn dechra rhoi beats lawr.

K: Tyfu’n organic wedyn…

J: Efo’r album newydd, mae’r elfen cynhyrchu obfiysli’n holl bwysig yn fana cos da ni’n chwarae’r mixing desk fel offeryn twbo, dyna’n union beth oedd yn digwydd efo’r hen tracks yma, yn y studio dros penwythnos a jest gorffen pob dim. Live mix, done! Erbyn hyn efo computers ti gallu mynd dros pob dim. Ddaru ni dysgu sut i neud dub ar hen analog desks, da ni jest dod a’r un method i computers. R’un theory rili…

Da chi’n cydweithio’n dda efo’ch gilydd?

(saib….)

K: Da ni ddim yn ffraeo…. rarely! (chwerth)

Kevs

Oes yna offeryn sydd dal efo chi o’r dechrau?

K: Genai bass nes i brynu yn 1982… dwi dal i chwarae fo. Hondo 2 Pro. Swn da!

J: Roland SH101 Synth… ond mae o efo Ed Holden ar hyn o bryd. Genai gitar acwstic nesi brynu gan Kevs am £2.40 yn 1974… dwi dal i chwara fo.

Beth oedd sbardun LL.LL.?

J: Y syniad gwreiddiol oedd recordio un trac rili, Rap Cymraeg, cyn i ni wybod bod na sîn tanddearol yn digwydd.

K: Wedyn nes i symyd nol i Llan Ffestiniog tra oedd John dal i fyw yn Llundain, oedd gyna ni tracs oedda ni wedi recordio yn Llundain. Yn Blaenau oedd Dafydd Smith yn gneud few vocals ond y shout cynta cafom ni oedd gan Rhys Mwyn, “da chi isio neud EP?”…

J: Oedd Dic Ben yn byw yn Llundain ac oedd Dafydd Smith yn nabod Dic Ben ac oedd Dic Ben yn nabod Rhys Mwyn so nes i seiclo rownd i ty Dic Ben efo’r cassette ma o un trac oedda ni wedi neud. Nath Dic roi hwnna i Rhys a nath Rhys gysylltu yn ôl yn gofyn am tri trac arall i gwblhau EP, nath hwnna wedyn troi mewn i EP ‘Dull Di Drais’.

K: So ma lawr i Rhys Mwyn… kind of. A Tony Schiavone….

J: Syniad Tony Schiavone oedd o i roi sampls o Fred Fransis i ni samplo mewn gigs. Ia, so chydig o singles ar Label Anhrefn wedyn nath John Peel pigo fyny arna ni, cynnig sesiwn… a nath hynna arwain at deal efo label yn Lundain – Side Effects. Cal ei redeg gan boi o Bethesda, Brian Lustmord. Mae ei fand o dal i fynd!

IMG_9809

Wedi 28 mlynadd ar y sîn… beth, yn eich tyb chi, yw’r uchafbwynt?

K: Criw Byw, Fideo 9. Oedd o’n sioe brilliant…. mae wedi mynd lawr allt ers hynna.

J: Ia ti’n iawn. Hefyd, yn y 90’a cynnar, oedd na cwpl o gigs / raves massive…’92 neu rwbath??? Noson Claddu Reu a ballu. Cwpl o filoedd o fobl jest yn mynd yn nuts. System sain ffantastic, lasers a ballu… pretty good!

Isafbwynt?

J: Pob Steddfod?  (chwerth!!)

K: Rhaid i bobl jest trio’n cletach… “Must try harder, see me after class!” (chwerth!)

J: Mor gymaint o betha yn missing,,,

K: Angen mwy o music gwahanol, gormod o acoustic guitars.

J: Angen gwell rhwydwaith o gigs…

K: Run bandiau yn chwarae yr un llefydd trwy’r adeg. Fel arfer country folk acoustic…. (yn canu mewn llais neis) la, la, la, la, la

J: Da ni am ddechrau gwobrau ein hunain, ‘Gwobrau Cerddorol LL LL’, gwobr am rywbeth sydd wedi ysbrydoli ni. Mawrth 1af 2014. Mae na croeso i’r cyhoedd awgrymu petha, bands, caneuon a rhaglenni ayyb. Ond ni sy’n dewis!

(John yn mynd i’r gegin)

John

John, wedi clywed lot am dy goginio. Ti’n dipyn o chef?

K: Dwi’n cwcio hefyd…

J: Dim yn chef na… ond dwi’n gallu neud bwyd. Mae’r ddau ohonan ni yn gallu cwcio’n dda iawn, mae Kevs well yn neud pwdins na fi.

K: Dwi mwy keen na John, dwi’n coginio mwy na fo dwi meddwl. Oni neud casserole ddoe, heddiw dwi meddwl neud soup allan ohono… prynu chydig o veg a cario mlaen. Dwi rili hoffi bwyd… mae na o hyd bwyd yn mynd ymlaen yma, cawl in particular.

Ydi LL.LL. am wneud album sydd ddim yn defnyddio technegau ‘electro’?

(…swn meddwl)

LL.LL.: Na, im rili…

J: Ma Kevs yn perfformio mewn pythefnos yn y Chapter efo cello trwy fuzz box…

K: Da ni wedi gneud un acoustic trac, ‘Meddwl’, efo fi ar harmonium a trwmpet…

J: Mae na live drums ar yr album yma….

IMG_9801

Yda chi am gadw ar gledrau ‘electro’ tan byddech yn fyw?

K: Hmmm… never say never

Cwestiwn eu hunain: Os fysan ni’n ennill y loteri, fysa ni dal yn gneud music?

J: Wel dwi’m yn trio’r loteri… ond ie byswn i.

K: Na fi chwaith…. (chwerth). Mae cerddoriaeth yn ein enaid!

http://www.llwybrllaethog.co.uk

DUB CYMRAEG allan rwan! Vinyl – CD – Lawrlwytho

dubdub

Huw Owen / Mr Huw

IMG_9753

Lle? Lladd-dy anhysbys a dirgel…

Pryd? Bore, Medi 27, 2013

Mae Huw Owen aka Mr Huw wedi bod yn weithgar yn y sîn Gymraeg ers blynyddoedd bellach. O gael ei wahardd o Waunfawr gyda’r band Cacan Wy Experience i gigs stompllyd uchel ‘fyny i 11’ a pynci Kentucky AFC, rwan… yn un o artistaid mwyaf heriol a blaengar yn ein mysg. Yn ogystal a’i waith fel artist mae hefyd yn gynhyrchydd i fandiau cyffroes eraill ac yn fentor gweithgar i Cerdd Cymunedol Cymru. Yn ei amser sbar, mae’n hoff o focha mewn lladd-dai… cefais awgrym o leoliad y lladd-dy… es yno i’w holi!

Mae ‘Cariad Afiach’ allan ers Gorffenaf, llongyfarchiadau! Sut ymateb hyd yn hyn?

Ti gwbo be? Ma di bod yn ymateb gwych, dwi’n hollol hapus! Dwi di cal lot o ebyst posotif gan bobl sy wedi prynu’r feinyl drwy bandcamp a ballu… ymateb da a ma’r gwerthiant yn dda hefyd. Ma’n neis hefyd fod o ar feinyl hefyd… carreg milltir bach i Mr Huw

Ma’r caneuon yn classic Mr Huw… be sy’n dy ysgogi i gyfansoddi am bethau graffig ag agos i’r asgwrn?

Dwi’m yn gwbo… ma yn y fy natur i sgwennu petha fela dwi meddwl, mae gen i hiwmor tywyll. Ma’r ffilms dwi’n wylio i gyd yn dywyll a gritty… dwi’m isio canu am betha sy… twbo… neud petha fyny, canu am gariadon a bod yn ‘hapus’ a ryw lol felly twbo? Ma bywyd lot mwy tywyll na ma bobl yn neud allan i fod yndi? Waeth i ni dderbyn y ffaith ddim.

IMG_9743

Dim CD, feinyl a lawrlwythiad yn unig. Mae feinyls wedi neud cymback yn bendant… faint o Gymry ti meddwl sy’n ymddiddori yn y vinyl revival?

Dwi di cal fy siomi ar yr ochr ora o faint o bobl sy’n prynu a gwrando ar feinyl. Neithiwr oedd gen i gig yn Bala… ac oedd pobl ifanc yn eu harddega yn prynu feinyl, dwmbo… ma’n wbath ti’n gasglu yndi? Wedyn ma na lawrlwythiad am ddim fyd does… ti cael dy feinyl fatha soveneir os lici di (wrach nei di’m chwara fo…) ond ti cal yr albwm fel download hefyd. Ma’n wbath neis dwi meddwl.

Oes peryg i feinyls greu rywfath o is-ddiwylliant elitaidd yn Nghymru? Ta gwthio tuag at rywfath o ddeffroad diwylliannol?

Dwn i’m…. ym…. (saib hir)   gofyn honna eto i mi…

(Chwerth! Gofyn y cwestiwn eto…)

Mae o’n beth iach yn bendant… dio’m yn creu wbath elitist dwi’m yn meddwl nadi? Twbo be de, dwi di sylweddoli mod i’n gwerthu feinyls mewn gigs lle o blaen oni cal traffarth yn trio gwerthu CD’s. Ma’n fformat i roi music arna fo, a dyna dwi falch ohono twbo… a ma bobl yn prynu fo. Fyswn i di rhyddhau ar feinyl bob tro cyn wan swn i di cal y cyfla, yndi mae o’n fformat drytach i neud ond mae pobl sy’n brynu o yn parchu eu casgliad. Yn bersonol, ma na wbath eitha throw away am CD… ti gallu neud CD dy hun ar gyfrifiadur neu beth bynnag. Dwmbo, ella bo fi’n chydig o snob pan ma’n dod i brynu cerddoriaeth. Nai byth brynu CD, prynu ar feinyl oherwydd fod o’n wbath colectabyl.

IMG_9769

Sut fysa ti licio i ddiwylliant canu pop / roc Cymraeg ddatblygu?

Ma mynd drw gyfnoda dwi meddwl yndi? Mynd rownd mewn cylchoedd a mi ddoith na ryw ffrwydriad neu gynwrf bach arall yn fuan… ma’n dechra rwan dydi? Ma’n byrlymu. Angen pobl i fynd allan a neud gigs a ballu twbo….. da ni gyd fel cerddorion yn neud gigs a sylweddoli bod rhai ardaloedd mwy mewn i’w cerddoriaeth na ardaloedd eraill. Ia, ma angen adfywiad o bobl sy’n mynd i gigs does? Dros y dwy dair mlynadd dwytha ma petha wedi tawelu os lici di… dim gymaint o fandia yn gneud teithia bach… a does na’m gymaint o nosweithia rheolaidd. Yn enwedig o lle dwi’n dod twbo, oedd na noson reolaidd, oedd na un bob wsos. Dim jest yn lle dwi’n byw, ond mewn llefydd eraill… ma pobl jest angen dyfal barhau. Neith neb roi o i chdi na? So jest dos allan yna a chwara cyn gymaint alli di, elli di’m fforsio pobl i fynd i gig … ond gobeithio yn diwadd neith bobl sylweddoli bod petha gwerth mynd i’w weld.

Ma Cariad Afiach yn swnio’n wych… eto yn cyffwrdd ar elfennau lo-fi. Ti’n ffan o lo-fi.

Dwi yn ffan mawr o lo-fi…. ma di gal ei recordio yn hollol amrwd, dim llawer o ffrils… dwi’n un am wneud petha fy hun, mae rheolaeth y peth yn eitha llac. Twbo, dwi goro pwyso record a rhedeg tu ol i drym kit neu pwyso record a dod mewn yn y lle iawn a petha felly….. ma’n cymyd sbel i neud twbo. Dwi’n un o’r pobl na sy… os di’n swnio’n iawn i fi, ma’n iawn. Dwi’m yn licio gwraio gormod o amser yn mynd dros petha, mi oni esdalwm – yn ailneud petha, ailneud petha, ailneud petha tan oni’n hapus… ond faint o weithia elli ailneud petha? So… twbo, dwi licio’r elfen amrwd ac os lici – homemade.

IMG_9747

Er y cynhyrchiad lo-fi, ma’r gitars yn disgleirio… ac yn atsain o’r cerddoriaeth psych o’r 60’au. Cytuno?

Yndw, oni isio neud albwm efo mwy o gitars arno fo… dwi’n ffan o swn reverb ar gitar. Dwi di defnyddio mwy o effeithia ar y gitars tro twbo. Lot o reverb, chorus’s a delay’s a ballu… oni isio arbrofi mwy a cal swn mwy yn defnyddio gitars yn hytrach na llucho lot o betha ata fo, keyboards a ballu… back to basics os lici di. Ma’r cynyrch gorffenedig yn swnio fatha be nesi ddychmygu fo swnio fel pan oni’n dechra meddwl amdana fo…. hollol hapus efo fo!

Sa ti’n cal y cyfla, fysa ti’n cydweithio efo Dewi Prysor , Llwyd Owen neu Ryan Kift i sgwennu sioe gerdd arswydus i gwmni theatr? Chdi neud y score…

Sa’n brilliant sa? Sa’n wallgo. Swn i’n gneud o mor afiach a thywyll a phosib a falla teithio fo rownd ysgolion cynradd….

(chwerth!)

…addysg i blant!

(chwerth!)

huw gwn

Os fysa na hofrennydd yn gallu mynd a ti i rwla yn y byd wan…. lle?

Porn shoot mewn pwll dwr poeth yng Ngwlad yr Ia!

Cwestiwn delfrydol mewn cyfweliad: Be fysa ti’n neud sa ti ddim yn gerddor?

Drymar…    (ptang – tchssh!)

Be nesa i Mr Huw?

Ar hyn o bryd dwi ganol recordio a cynhyrchu cwpl o albyms i bobl… Tom ap Dan a Sen Segur. Dwi di bod yn sgwennu a recordio demos fy hun dros y misoedd dwytha ers rhyddhad Cariad Afiach. Dwisho mynd i recordio heina, gweithio tuag at wbath… jest angen yr amser i neud o!

IMG_9773

http://www.mrhuw.com

http://www.recordiaucaegwyn.com

Elan, Marged a Gwilym Rhys / Plu

IMG_9420

Lle? Lluniau – Y Pengwern, Llan Ffestiniog. Cyfweliad – ebost.

Pryd? Wythnos olaf Awst, 2013.

Melodiau, harmoniau a threfniadau ysgafn a phluog sydd a’r gallu i sgubo hen ddail o’ch enaid. Dyma un ffordd o ddisgrfio cerddoriaeth Plu mewn brawddeg, yn wir… mae’r triawd gwerin amgen teuluol o Fethel yn brysur mynd o nerth i nerth. Ers cychwyn nol yn haf 2012 maen’t wedi llwyddo i ymddangos ar y teledu, rhyddhau albwm, perfformio llwyth o gigs… ac i guro nhw i gyd – cyfweliad Brythonicana! Gan fod mis Awst yn fis hurt, roedd hi’n anodd iawn trefnu cyfarfod efo nhw wyneb yn wyneb dros beint ne ddau i recordio. Penderfynwyd felly cyfarfod yng ngwyl Llan Ffest (iniog) / Penllanw Pengwern ar Ddydd Sul gwyl y banc i dynnu lluniau, yna… gwneud y cyfweliad dros ebost. Pam ddim? ….. llai o waith teipio! (…ahem). Roedd eu perfformiad yn y Pengwern yn iasol dros ben, i feddwl mai nhw oedd y cyntaf ymlaen. Gan fod y llwyfan mewn marcî roedd y gynulleidfa’n sipian amrywiaeth o gwrw lleol yn yr haul tu allan, ond yn gwrando’n astud, ac yn hael iawn eu cymeradwyaeth…

Llongyfarchiadau ar yr albwm, sut ymateb hyd yn hyn?

Marged: Gwych a gwell na’r disgwyl! Cawsom ymateb anhygoel yn yr Eisteddfod, a gwerthu dipyn o CDs. Rhaid diolch i lot o bobl sydd yn plygio’r albwm fel dwnim be!

Elan: Dwi’n meddwl y rhan gora ydy cael copi caled yn dy law, yn enwedig gan ein bod ni mor hapus efo’r clawr a’r cysodi.

IMG_9379

Mae lleisiau teulu yn harmoneiddio wastad yn asio, yda chi wedi canu fel triawd erioed?

Elan: Dim yn gyhoeddus, ond yn anymwybodol o gwmpas y ty mwy na thebyg.

Pwy di’r bos?

Gwilym: Elan! …a Marged ydy’r seceratary.

Elan: Ma Gwil yn licio rhoi ei droed i lawr ar rhan fwya o faterion!

IMG_9418

Lot o werin amgen yn y sîn ar y funud, pam? Oes dylanwadau arbennig?

Gwilym: dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf mae’n niddordeb i mewn hen ganeuon gwerin wedi tyfu yn aruthrol a mae’r diddordeb hwn yn dechrau ymledu i’n chwiorydd hefyd. Mae Elan a Marged efo mwy o ddiddordeb mewn bandiau Saesneg neu ryngwladol fel The Staves a First Aid Kit (bandiau teuluol eraill!).

Marged: Mae’n anodd ateb pam bod y genre mor gryf ar y funud. Bosib bod mwy o ddiddordeb mewn cymysgu’r hen a’r newydd. Ail wampio traddodiadau drwy defnyddio hen harmoniau ac alawon mewn ffordd gwbl wahanol. Dydy pobl ddim ofn arbrofi.

Elan: Mae dylanwadau yn cael eu taflu o gwmpas y lle o fewn yr SRG, syn beth gwych dwin meddwl. Da ni bendant wedi ein dylanwadu gan artistiaid fel Cowbois Rhos Botwnnog a Lleuwen.

IMG_9383

Gwil, ti’n brysur iawn efo un o fandiau mwyaf poblogaidd yr SRG ar y funud, Y Bandana… ymateb da i’r albwm newydd?

Gwil: Ia, mi yda ni newydd ryddhau ein hail albwm: ‘Bywyd Gwyn’ ar label Copa ac mae o wedi cael ymateb da iawn hyd yma. Mae’n neis iawn i mi gael mwy nac un cyfrwng i berfformio a ryddhau fy ngherddoriaeth.

IMG_9422

…oeddet hefyd yn ran o’r prosiect gwerin ‘10 mewn bws’, sut brofiad?

Profiad gwych a bythgofiadwy. Cael teithio cymru benbaladr yn dysgu am y traddodiad cerddorol cyfoethog sydd genym a chael creu miwsig efo cerddorion anhygoel.

IMG_9387

Mae na dalent aruthrol yn yr SRG ar y funud… be sy’n y dwr?

Elan: Mae na bobol brwdfrydig iawn allan yna syn arwain y ffordd o ran trefnu gŵyliau a gigs aballu, a ma hynnyn creu amgylchedd briliant i fandiau ifanc allu cychwyn magu hyder. Cyn belled bo na bobol fel na yn bodoli, maer sîn yn mynd i fod yn grŷ dwin meddwl.

IMG_9375

Mae na ddelwedd ‘Pluog’ amdanoch (mewn ffordd ‘ysgafn’ / ‘tri blond’ / ‘heulog’ eich agwedd)… a gydag Elan yn brif leisiydd, mae Marged a Gwil fel petai nhw’n ‘adain’ cefnog pob ochr. Ydych yn meddwl am ddelwedd? Ta gadael i bethau ddigwydd yn organig?

Marged: Dim yn ymwybodol! Mae’r ffaith ein bod ni’n frawd a chwiorydd yn helpu siwr o fod gan ein bod ni’n benthyg dillad ein gilydd aballu.

Elan: da ni bendant ddim yn meddwl am ein delwedd fel grŵp, mwy o beth unigol di huna mashwr.

Be di’ch hoff jôc ar y funud?

Pam bod sam tan allan o waith?..’sam tan.

IMG_9413

Cwestiwn delfrydol mewn cyfweliad? (cwestwn i chi’ch hunan)

Elan: Beth di fy mreuddwydd cerddorol?

Cael fy seinio gan Jack White ar third man records a recordio album hefo Dylan Le Blanc. Hehe.

Be nesa?

Marged:Mae ‘na chydig o ganeuon newydd ar y gweill. Mae’n anodd ffeindio amser i ddod at ein gilydd am fwy na hanner awr i gael eu marfer! Bydda Elan yn symyd i Aberystwyth i ddysgu fis Medi, a Gwilym i astudio, a finna yn mynd nol i’r brifysgol ym Mryste yn fuan, ond mae Gwyl Gwydir penwythnos yma wedyn Swn ym mis Hydref.

Elan: swnin licio meddwl bydd ein sŵn ni yn gallu dyfnhau ac aeddfedu. Swni wrth fy modd yn arbrofi llawer mwy yn y dyfodol agos.

IMG_9408

Albwm. Plu – Plu ar gael o http://sadwrn.com

Label. http://sbrigynymborth.com

Cwmwl sonig Plu – http://soundcloud.com/pluband 

Cwmwl sonig Y Bandana – http://soundcloud.com/ybandana

Aron Elias

9

Lle? Teras Mactub Hostel, Granada, Andalusia, Sbaen

Pryd? Mañana… Mehefin 29, 2013

Wedi trafeilio ers dros wyth awr, braf oedd camu oddiar bws air-con cwmni Alsa i aer tew a phoeth Granada, Andalusia i gyfarch hen ffrind – Aron Elias, ond… doedd dim golwg ohono yn nunlla! Meddyliais am funud os mai fi oedd wedi dychmygu’r sgwrs Facebook efo’r gwr talentog o Borthmadog wedi’r cwbl! Doedd ganddo’m ffôn na cyfeiriad, a’r unig beth oni’n wybod oedd ei fod yn byw mewn ogof yng Ngranada! Roedd geiriau ei neges ddwytha yn atseinio yn fy mhen “paid poeni, ffydd!”. Wedi ‘cerveza’ bach yn yr orsaf i ymlacio, es ymlaen gyda  llond rycsac o ‘ffydd’ i ddarganfod hostel o rywfath… o leia fydd gwely mewn dormitory yn fwy cyfforddus na llawr ogof, meddyliais! Wedi oriau o gerdded, cefais hyd i hostel reit o dan yr Alhambra, gyda chwmni rhyngwladol cyfeillgar a cherddorol. Doedd run ohonynt wedi gweld nac yn adnabod yr ‘Aron’ ma… erbyn y bore roedd Aron wedi dod yn dipyn o chwedl yn yr hostel wrth i mi son amdano gymaint… ac ambell un yn meddwl bod gen i ffrind dychmygol. Yna, wrth jarjo’r ffôn… clywais blîp, neges gan Aron! Esboniais lle’r on i… a daeth yno i nghyfarch. Efo gitar gwr o Awstria, canais ‘Hen Wlad fy Nhadau’ iddo o’r balconi. Ffydd!

Sut ma bywyd yn Granada?

Ma’r steil o fywyd yma digon hawdd i ddisgyn mewn cariad efo fo. Ma’r ffordd o fyw yn mwy…… chilled, dos na’m brys mawr… dwi licio’r steil o fywyd yma. Ma’r haul yn cael lot o effaith ar hapusrwydd bobl. Sbaeneg yn dod mlaen yn iawn de…

7

Heblaw am ambell i ymddangosiad teledu gen ti, da ni heb glywed llawer ers sbel. Project ar y gweill?

Genai wastad project ar y gweill, dwi di recordio EP efo Acapela… dwi’m yn gwybod be sy digwydd efo hwnna. Ma ‘na sefyllfa lle di bobl ddim yn prynu CD’s bellach na? Downloads a ballu…. ma na dipyn o crisis yn y byd cerddoriaeth yn gyffredinol ar y funud. Ond ia, genai brojecta ar y go… dwi wedi bod yn gneud gwaith efo cwmni theatr yn fama yn Granada, yn gneud cerddoriaeth cefndir i’r perfformiada. Petha modern, ma’n uffernol o ddiddorol… yn trafod pob math o betha. – rhyw, perthasa… fel yn y sinema’s erstalwm, y silent movies pan oedd gen ti boi yn chwarae piano, wel dyna dwi neud… ond efo gitar.

Yn y gân San Diego Serenade, dyweddodd Tom Waits “I never saw the East coast, untill I moved to the West”. Gan dy fod ti dramor yn aml, wyt ti’n gweld Cymru mewn golau gwahanol, yn ddiwylliannol felly?

Ma’r quote na’n hollol gywir, pan ti allan o’r cylch diwylliannol ti yn sylwi mwy o’r tu allan. Heblaw am Meic Stevens a Nhad a Mam… Dafydd Iwan hyd yn oed… Sobin a’r Smaeliaid pan o’n i’n fach a Flamenco / Clasurol rwan… ma nylanwadau i i gyd yn dod o America. Gospel, Soul, Blues, Rock’n’Roll a Jimi Hendrix. Hein oedd y dylanwada, ac o hyn oni’n trio neud o’n Gymraeg efo Pep le Pew a Y Rei. Be dwi wedi dysgu a sylwi, o fod tu allan i’r bybl, ydi bod pobl di-Gymraeg isio gwybod be ma cerddoriaeth o niwylliant i yn swnio fel. Dwi’n bysgio cerddoriaeth clasurol y byd yma yn Granada, stwff o Paraguay, Brazil, Ffrainc, Sbaen, Eidal a’r Almaen ac ati… wedyn nes i gyfarfod rhywyn o Sbaen efo telyn Cymreig yn chwarae pethau Celtaidd… wedyn ma di gneud i mi feddwl, ia “be ydi swn a cherddoriaeth Cymraeg / Cymreig?” Ma pob dim yn dod o rwla. e.e. y bagpipes yn yr Alban wel ma na offeryn efo’r union run swn yn Galicia. Yn ol i’r pwynt, dwi meddwl dyla ni fynd ol i’n gwreiddia…. ail-ddarganfod ein gwreiddia. Ma’r sefyllfa union run peth yn fama, ti’n gwrando ar y radio a clywed offeryna a swn roc’n’roll a pop Anglo-American yn bob man ond efo iaith Sbaeneg. Pan dwi’n gwrando ar gân roc / blues efo iaith Sbaeneg…. dio’m yn swnio’n iawn gan fod o wedi ei neud yn Saesneg yn gynta.

4

Ti meddwl bod pobl di-Gymraeg yn clywed hynna wrth glywed roc / pop yn yr iaith Gymraeg?

Yndi, ond dwi’m yn lladd ar y Gymraeg… ma hyn wbath cyffredinol drwy’r byd. Yn bersonol, pan dwi dod i fama… dwisio clywed cerddoriaeth Sbaeneg, ond tydi pobl fama ddim isio clywed hyna… ma nhw’n bored ohono, ma nhw isio clywed y roc / pop… beth bynnag sy’n boblogaidd ar y pryd.

Ydi cerddoriaeth glasurol wedi agor drysau newydd i ti?

Ma wedi agor meddwl fi yn gerddorol a wedi dysgu lot i mi bod pob dim yn dod o rwla arall. Oni’n Moroco efo Jaci Williams yn gwrando ar gerddoriaeth gwerin ac oedd na ddylanwada Jimi Hendrix, hen foi yn chwarae Oud (offeryn Affricanaidd) efo pentatonic scales a ballu, “wei ma hwn yn swnio  fel Jimi Hendrix!” Ond ma Jimi Hendrix wedi bod yn Moroco yn y 60’au, a ti sicr yn clywed dylanwad Moroco yn ei waith o. Mics o blues, rock a cerddoriaeth Moroco, ond wedyn mae o wedi dylanwadu gwerinwyr Moroco gan fod o wedi bod yno… felly mae Jimi Hendrix wedi dylanwadu music gwerin modern Moroco heddiw. Pan oni’n Aifft, oedd na (canu swn bas) dyn dyn dyn dyn dyn… efo scales (canu uchel) dyn ne ne ne ne ne, Arabaidd ar ei ben o. Ond ma pob un gwerin, ma’r gwreiddyn yna yno fo… da ni’n dueddol o licio’r majors a ma nhw’n licio’r melodic neu’r harmonic minors. Twbo, ma elfennau o country music America wedi dod o Iwerddon a Prydain Celtaidd. Gospel… canu capal Cymraeg yn America oedd y Gospel efo Affricanwyr 3ydd / 4ydd cenhedlaeth yn canu caneuon capal yn eu steil nhw… a wedyn ddoth gospel. ‘Sa neb yn bia music. Ma cerddorion wastad di bod yn nomadic, yn trafeilio ac felly’n mynd i gal eu dylanwadu a codi ambell i scale ne ddau o le ma nw di bod a wedyn creu peth eu hunan, fel Flamenco…. sy’n gymysgedd o betha Arabaidd, Iddewig, Sipsi a ballu… lobsgows! Does na neb yn gallu dweud “ni bia hwnna…”, lobsgows!

1

Wrth ista yn dy ogof-dy ar y bryn yn Sacramonte, daeth ci mewn a nesdi ddeud “Hei, Guadalupe…”, a rhoi dwr iddo. Dy gi di?

(chwerth!) Na, ma cwn yn mynd ar blydi tits fi! Ci boi drws nesa dio. Dwi licio anifeiliad de ond blydi hel ma na fwy o gwn na pobl yma (gwneud swn udo ci…) Dwi’n ffrindia efo’r cwn wan felly dy nhw ddim yn cyfarth arna i ddim mwy. Ma na rywyn yn cynnig ci i mi o hyd! Ma crisis cwn yma! (chwerth) Gormod ohonyn nhw, ma nhw’n bobman.

Ma byw mewn ogof-dy yn rywbeth eitha cyffredin yn fama yndi?

Yndi. Dim twll yn y graig ydi o, mae fatha ryw hen balas bach Mwraidd efo archways a teils Morocanaidd ar y llawr, ma’ na le tân a simdda… mae o’n dŷ! Ma na ddrws a gardd a bob dim… jest fod o wedi naddu allan o bridd a cherrig y bryn yn hytrach na brics a sment. Ma mor boeth yma ma’n anodd dianc o’r gwres, ond yn yr ogof ma’r un tymheredd drwy’r flwyddyn. Ma pobl yn talu lot o bres i gal yr olygfa dwi’n deffro iddo bob bore… dwi’n edrych lawr ar yr Alhambra i fy chwith, wedyn ymhellach i’r chwith ma’r Sierra Nevada… mynyddoedd efo eira. Dinas Granada syth o mlaen i ac ar fy dde mae’r haul yn mynd lawr. Ma pobl yn talu lot o bres i ddod i weld yr haul yn mynd lawr yma yn Granada… dwi’n weld o bob nos! Dwi’n lwcus.

6

Ti’n ran o gymuned creadigol yma?

Yndw, mae na gymuned mawr creadigol yma. Dwi tua deg munud o ganol y ddinas, ond dwi nabod pawb yma yn El Albayzin a Sacramonte, pawb yn helpu’i gilydd. Dwi byw drws nesa i teulu Sipsi go iawn, ges i fwyd efo nhw wythnos dwytha a ddaru boi estyn gitar a chwarae Flamenco, fysa twrist yn talu €30 i weld rywbeth felna. A’r boi dwi’n prynu wyau gan, Kidu.. y brenin, y Gypsy King go iawn lly…. mae o’n canu. Ma’n cosmopolitan a rhyngwladol iawn, y Sipsi, ffrind o Brazil, ffrindia o Senegal… Frainc heb son am criwia lleol. Pawb yn helpu i gilydd yma… fatha bod adra, ond yn yr haul!

Yn ogystal a gwaith theatr a chymdeithasol, ti’n bysgio hefyd. Ma hynny’n grefft o fewn ei hun.

Yndi. Yn Granada ti gorfod cal leisans i ddechra, gwbod lle i fynd, pa amser a sut i ddelio efo pobl hefyd twbo sut i ddenu nhw mewn…. a dewis y lle gorau efo swn gorau, acwstics. Dwi chwarae lot wrth y cathedral, yr hen ardal.. ma jest yn ffordd da i fi bractisho y stwff clasurol ma, dwi’n mwynhau hynna. Ma’n ffordd o gal chydig o bres coffi a bwyd… weithia ma pobl yn rhoi €5 i mi am dynnu lluniau… weithia dwi’n rhoi sgarff ar fy mhen fel y llwyth ‘Bedwin’ o’r Aifft, sy’n reit controfersial ar adega! Ma’n bwysig cal music ar y stryd, ma’n rhan o’r sonic landscape… weithia dwi chwarae cerddoriaeth o fama e.e. Recuerdos de Alahambra, La Catedral …a dim ond y pobl diwylliannol sy’n deall, a ma nhw’n rhoi lot o bres i mi de. Dwi’n mwynhau y bysgio ond dwi isio mynd mwy mewn i theatr ar y funud… ma’r cymuned creadigol yma yn gret a ma na griw di dechra cwmni theatr, dwi’n rhan o hynny.

3.1

Sut mae codi hyder y byd canu Cymraeg?

Cwestiwn da, ma’r Cymry angen mwy o hyder yn gyffredinol dwi meddwl. Ma cerddoriaeth yn adlewyrchu y pobl dydi? Da ni’n genedl groen caled, di bod drwy lot o shit…da ni dal yma o hyd dydan? Dwi wedi cyfarfod pobl o dros y byd a pan dwi son am diwylliant Cymru dwi’n falch ohono fo twbo? A ma nhw’n gweld o’n anhygoel bo ni dal i siarad y iaith. Dwi’n egluro bo ni fatha’r ‘last mohicans’, ond mewn fordd ieithyddol de… oherwydd mi ydan ni. Da ni dal yn un o’r treibs olaf sy’n siarad y iaith twbo… dyla hyna roi digon o hyder i ni! Da ni dal yma ar ol yr holl rhoi lawr ac abiws seicolegol fel cenedl da ni wedi gael, mental abuse. Dyna pam ma’r Cymry go iawn, heb y diod a’r lush, yn shei… pobl y mynyddoedd da ni de? I fod yn mwy hyderus i beidio guddio be a pwy yda ni… ffwcio fo, hyn da ni de? A da ni dal yma. Fel oedd Pep Le Pew yn ddeud, onin rapio’n Gymraeg ond nes i newid o i Saesneg i bobl di-Gymraeg ddallt – “I’m a sheep shagger, I don’t give a fuck! That’s what I am, that’s where I’m from and that’s what Hip Hop is about – Who you are, what’s your point and what’s your culture about.” twbo… ‘sheep-shagger’ a ballu “yeah fucking right!” … tongue in cheek (dynwared dyn hen ffasiwn cefn gwlad) “Ia ma’n hawdd twbo, mae coesa nhw’n siap iawn…” (chwerth)

Oes digon o ddefaid i chdi yn Granada?

Na dim! Ma na ddigon o gig yma de… ond welai ru’n anifail! Welai run buwch, mochyn… mond coesau moch jamon dwi weld yma…

Nawn ni weld chdi nol yng Nghymru eleni?

Steddfod wrach! Os nai ffeindio ffor yn ol! (chwerth)

Amigo, gracias… hasta luego!

De nada, hombre. Muchos gracias!

5

Yr haul yn machlud / golygfa o’r ogof-dy! Granada

Georgia Ruth

IMG_9344

Lle? Tafarn y Fic, Llithfaen

Pryd? Wedi 4yh, Mai 13, 2013

Gan mai yma yn Ngogledd Cymru mae pencadlys Brythonicana, anaml cawn gyfle i gyfweld rhywyn sydd ddim yn Gog! Rydym yn falch felly o’r cyfweliad mis yma gyda artist sydd a dyfodol disglair o’i blaen, Georgia Ruth o Aberystwyth. Clywais ei bod yn ymarfer draw yn Nhafarn y Fic, Llithfaen gyda’i band – Cowbois Rhos Botwnnog, ac ei bod yn rhydd am sgwrs fach rhwng 4 a 5. Rhedeg yn hwyr braidd a weipars y car yn mynd ffwl pelt drwy Meirionnydd ac Eifionydd ond… wrth rhoi nhroed lawr rhwng Chwilog a’r Ffôr daeth heulwen braf i ysgafnhau gweddill y daith i Ogledd Ddwyrain Pen Llyn. Roedd hi’n awyr las wrth gyrraedd drws y Fic, Tafarn cydweithredol sydd fel arfer yn llawn cymeriadau, ond wedi cau i gwsmeriaid gan fod hi’n ddydd Llun. Ta waeth, wrth gerdded mewn i’r stafell gefn (sydd heddiw yn stafell ymarfer dros dro i Georgia a’r band) roedd y lle yn llawn cerddoriaeth hudol. Coffi gan Daf y drymar, sgwrs fach … yna aethom i’r bar gwag am chydig o ddistawrwydd (profiad od!). Wrth i Georgia a minnau setlo, dechreuodd yr hogia jamio, swn arbrofol a haniaethol yn y cefndir a barodd drwy gydol y cyfweliad…

Week of Pines, allan o’r diwedd! Llongyfarchiadau. Hapus?

Yndw, dwi mor hapus! Teimlad anisgrifiadwy o rhyddhad cos dyma’r albwm gyntaf, yn amlwg. Mae lot o bobl yn synnu o glywed hynny ond mae wedi cymeryd chwech mlynedd go hir i fi ddod i’r pwynt lle mae genai fy albwm cyntaf… ac allai bron ddim cweit dweud mod i wedi llwyddo i wneud o! Ond ydw, dwi’n hapus.

Mae’r video yn wych, ac yn gweddu’n naturiol efo’r title track ‘Week of Pines’. Delweddau a seiniau retro ‘hafaidd’, cytuno / bwriadol?

Ydw dwi yn cytuno, o ran os dio’n fwriadol neu peidio wel…  allai ddim cymeryd lot o’r clod am y fideo oherwydd gwaith meddwl a dychymyg boi o Gaerdydd, Iwan Jones Morris, ydi o. Mi waeth o wrando ar y gân a dweud, “OK, gad o efo fi, dwi am gael think…” a daeth yn ôl efo’r syniad ma o ffilm sleids. Nes i feddwl “OK, difyr”… ti gwbo, allai weld bod y gân yn ymwneud ac atgofion a’r gorffenol a trio dod a’r gorffenol i’r presenol, ia… o’n i jest mor hapus efo be oedd o wedi wneud. Mae’n gweddu i deimlad y gân mor berffeth… fel fod o wedi darllen fy meddwl i. Mae wedi bod mor sensitif i’r broses heb wthio’r peth yn ormod. Mae o reit ffyni mewn darnau hefyd, ie… dwi rili chuffed efo fo. (Gwen bodlon)

IMG_9329

Ar un adeg oedd Bob Dylan efo ‘The Band’ fel band iddo, ti efo Cowbois Rhos Botwnnog, sut deimlad?

Teimlad anhygoel o bril! Yn amlwg mae nhw’n gerddorion aml-dalentog a gwell byth yn aml-offerynog. Mae’r gwead a’r amrediad o’r offerynau da ni gallu cael i’r caneuon, o’u oherwydd nhw, yn wych. Dwi mond yn chwarae’r delyn, yr organ a chanu… allai wneud hynny, ond efo rhein (C.Rh.B) ydi… mae’n brofiad gwych i allu chwarae efo nhw.

Dave Wrench…

Dave Wrench ….cymeriad! Ac erbyn hyn ffrind rili, rili da. Dwi’m yn meddwl fyswn i’n gallu entrystio’r albwm cyntaf i neb arall ond Dave achos on’i gwybod mod i angen rhywyn oedd yn deall fi, ac oni gwybod mod i angen rhywyn oni gallu trystio. So ie, Dave Wrench, gwych o foi. Brilliant.

Cynhyrchu’r albwm, all credit to Dave?

All credit to Dave!

IMG_9339

Dylanwadau creadigol?

Ie, cwestiwn eang… dwi meddwl mai Cymru ydy o ar yr albwm yma achos, yn y bôn, albwm am ddod nôl i Gymru ydi hi, ar ôl cwpl o flynyddoedd o fyw i ffwrdd. Ie, Cymru a’r hapusrwydd o fod nôl yma oedd prif ddylanwad ar yr albwm. Wedyn tu hwnt i hynna, pan dwi’n sgwennu geiria (gan mod i wedi astudio Llenyddiaeth yn coleg) dwi wastad yn mynd at nofelau a pobl eraill sy’n sgwennu… pobl fel Kate Roberts, Frank O’Hara… dwi’n licio delweddau barddonol fel ‘na, ie cwestiwn anodd! (chwerth)

(C.Rh.B dal i jamio yn y cefndir…)

Mae’r awen yn gyfrwng anisgwyl a hudol…  ar ba adegau y mae mwyaf cynhyrchiol i ti?

Ie, mae’n dod  yn ysbeidiol… dwi ddim yn un o’r pobl proliffic ma sy’n gallu sgwennu pryd bynnag a lle bynnag, sy’n anffodus ‘cos dwi rili isio sgwennu a weithia a ‘di o jest ddim yn dod. Mae’r caneuon gorau dwi wedi sgwennu yn dod pan dwi ddim yn disgwyl nhw. Ar y tren nes i sgwennu geiriau ‘Week of Pines’ i gyd.

IMG_9335

Wrth gyfansoddi, ti’n clywed alaw yn gyntaf? Yntai delwedd / geiriau arbennig?

Mae na ryw syniad yn dod gynta, syniad rili vague ponsi mae’n siwr (chwerth) a wedyn mae’n troi yn rhywbeth mwy cadarn munud mae’r geiriau yn dechrau ffurfio. Fel arfer wneith o gychwyn efo un cymal, cymal agoriadol… a ella yn y diwedd wneith o droi i fod yn gytgan. Ond mae na wastad dwy linell… a fydd y melodi’n dod o gwmpas hwna…. mae wastad man cychwyn eitha pendant….

Wyt ti isio ymhelaethu ar hynna?

Na! (chwerth)

Os fysa na hofrenydd yn gallu mynd a ti i fwyty heno, i le fysa ti’n mynd?

O my God! Fy hoff fwyty!? Dwi rili licio’r lle Eidaleg ar Cowbridge Rd East, Caerdydd… oh be di enw fo?! Italian Way! Fana fyddai mynd fwya aml ac yn eitha cymffyrting erbyn hyn… so ie, fana siwr o fod. ‘Di o’m yn exiting, ond twbo… dwi’n licio fy mwyd Eidaleg.

Coch ta Gwyn?

Coch, pob tro!

IMG_9357

Mae na Genie yn cynnig dymunid i ti, ar yr amod fod o am gyfoethogi’r SRG. Be fysa’r dymuniad hwnnw?

Hmmm… dwi meddwwwwl – venue gwell yn Aberystwyth! Go iawn, chos nes i dyfu fyny na… lot ymlaen yn y pybs Cwps, Bae a’r Angel ayyb… ond mae wir biti i mi (dwi gwybod bod canolfan celfyddydau) bod dim venue exiting go iawn i fandiau Cymraeg yn Aberystwyth. Ti gwbo, gen ti lefydd yn Gaerdydd a clwb canol dre yn Gaernarfon … mae rili angen llwyfan yn Aber hefyd… a llefyd eraill… ie venues gwell!

Dy gwestiwn delfrydol mewn cyfweliad?

“Pryd wyt ti hapusaf?” Rheswm ydi.. mae na lot o gyfweliadau lle, dwi meddwl am fy hun rwan ar y radio lle dwi’n cyfweld pobl eraill… yr amseroedd lle gai gyfweliadau gorau a mwyaf gonest ydi pan ti’n trio peidio gofyn gormod am y gerddoriaeth a gofyn mwy am y person ei hun. Ti’n ffeindio bod y person yn ymlacio a mae nhw’n gallu son am e.e. lle mae nhw wedi tyfu fyny…  a phan dwi’n gofyn i rywyn be sy’n gneud nhw’n hapus, fedran nhw’m peidio deud be sy’n gneud nhw’n hapus. Ti’n dysgu gymaint am berson felna, ac yn rywbeth braf i sonamdano, dim pressure.

IMG_9322

Be sy’n gneud chdi’n hapus?

(chwerth) yyym… cwn! Dwi rili licio cwn! Mae nhw’n gneud fi’n rili hapus. Cwn o pob siap a phob sut! Hefyd, jest gallu gneud cerddoriaeth am fywoliaeth rili… mae’n swnio rili naff ond mae o’n uffern o beth neis. Genai gymaint o ffrindiau sy’n feddygon ac yn athrawon… dwi jest yn meddwl – fyswn i ddim yn newid hyn am ddim byd. Dwi’n rili hapus.

Beth sydd nesa i Georgia Ruth?

Taith fach i gydfynd a’r albwm newydd. Braf gallu gwneud, edrych ymlaen!

IMG_9352

Label Gwymon http://www.sainwales.com   @gwymon

http://www.georgiaruthmusic.co.uk  @georgiaruth

http://www.crhb.net

http://www.tafarnyfic.com/home.htm

Cai O’Marah / Radio Rhydd

IMG_9298

Lle? Gestiana, Porthmadog

Pryd? Tua 4.15. Ebrill 19, 2013

Mae Radio Rhydd yn fand cyffroes a di-flewyn ar dafod i ddweud y lleiaf! Gyda’i mix o pync, roc a hip hop maen’t yn brysur teithio’r wlad yn deffro pobl o’u ‘confensiynau pob dydd’. Oes mwy iddyn nhw na jest roc a rol pur? Cawsom sgwrs efo Cai O’Marah (y prif leisydd) i ddarganfod yn union hynny. Roedd Cai ar y ffordd adref i Fethesda o Aberystwyth ar y bws, ond yn barod i ddod i ffwrdd ym Mhorthmadog i sganio recordiau yn Cob Records a peint yn yr hen Australia, neu Gestiana fel y gelwir dyddiau yma. Diwrnod braf o Wanwyn!  

Llongyfarchiadau ar ‘Trapped in the Game’ (Recordiau AFIACH 2013), albwm cynta fel Radio Rhydd, hapus?

Ia, da ni’n meddwl bod yr albwm yn gyffredinol yn grêt. Be oeddan ni isio gal allan o’r albwm oedd dal yr egni da ni’n greu wrth chwarae’n fyw. Dyna be oeddan ni isio fel albwm cynta, onwards and upwards wan. ‘Da ni newy’ neud sengl dwy gân efo Gwyn Maffia, yn gerddorol mae hwnnw yn mwy ‘focused’ a mwy ‘together’ tra ma stwff yr albwm yn mwy roar a mwy pynci a stripped down, ond dyna yn union oeddan ni’n trio gal mewn ffordd

Pwy feddyliodd am enw’r band? Enw gwych!

Ym… dwi cofio Ant (gitarydd Radio Rhydd) a fi yn eistedd lawr ar diwrnod braf fel hwn lawr yn Ogwen bank, Bethesda. Ddaru ni feddwl am ddechra stesion radio hollol annibynnol a hollol autonomous…. yn y diwedd ddaru’r band jest bloomio o hynny.

IMG_8718

Ma Radio Rhydd i gyd o ardal Bethesda, oes rywbeth am yr ardal sydd wedi sbarduno’r athroniaeth anarchaidd? Yntai o rwla arall?

Ym… na dwi’m yn meddwl fod o’n gysylltiedig efo Bethesda, mewn ffordd mae Bethesda yn dref traddodiadol dosbarth gweithiol a fyswn i’n dadla na ddim hynny nath sbarduno’r athroniaeth anarchiaeth sydd tu ol i’r band. Nath o ddatblygu dros cyfnod o amser, dwi cofio gwrando ar gerddoriaeth pync Prydeinig fatha Clash a Sex Pistols, ac ar y pryd oedd fi a fy ffrind, Rhys Cross, oeddan ni efo’r syniad ma o fod yn anarchwyr a chwythu pethau fyny! Wedyn, dwi cofio gneud cylchgrawn yn 6ed dosbarth efo’r athro cemeg, Dewi Gwyn o’r Anhrefn, a nath o esbonio i ni “Na, nid dyna ydi Anarchiaeth…” aeth o mlaen i ddeud mai syniad ydy o bod bobl efo cyn gymaint o barch at eu gilydd fel bo ni’m angen deddfau, dim angen llywodraeth a dim heddlu. Mae hyna wedi bod yn rhan ohonai ers hynny, engrained yn fy mhen i!

Lle es di i’r ysgol?

Dyffryn Ogwen…

Felly mae’r athroniaeth wedi dod o Bethesda mewn ffordd…?

Ia, mewn ffordd… ond mae wedi datblygu dros amser ers hynny. Mynd i bartis yn Gaerdydd a ballu… hefyd, es i deithio haf dwytha a mynd i weithio a byw mewn squats efo anarchwyr yn Copenhagen.

IMG_9291

Dylanwadau creadigol?

Ma dylanwad Rage Against the Machine (RAM) yn ofnadwy o amlwg… yn gerddorol, lyrical ac athronyddol …ac efo ffyrntmanship fi hefyd. Oni’n gwrando ar llwyth o Hip Hop ar y pryd…stwff Prydeinig fel Low Key a stwff Americanaidd fel Immortal Technique a wedyn llwyth o stwff Cymraeg, Pep le Pew a Tystion, mae gwrando ar albwm ‘Hen Gelwydd Prydain Newydd’ gan y Tystion wedi bod yn profound influence, dwi’m yn meddwl fysa na Radio Rhydd heblaw am yr albwm yna.

Ma Steffan Cravos yn rhan o set up Afiach (label recordiau)…

Yndi, Cravos nath y gwaith celf i’r albwm hefyd, sy’n gret… brilliant!

IMG_9304

Os fysa’r Toris yn cynnig £10,000 i Radio Rhydd chwarae mewn confrence, fysa chi neud o?

FFOCOFF!!!  (Chwerth!)

Oes rywbeth yn mynd ar dy nerfa di am yr SRG?

Oes, yn bendant! Mae na clique o fobl sy’n rheoli’r cyfryngau, sy’n rheoli’r playlists Cymraeg, sy’n rheoli’r sin Gymraeg… a mae nhw gyd efo monopoli dros be sy’n cael ei chwarae a be sy’n cael ei ddweud… ma hynny’n mynd ar fy nerfa i!

Hoff ffrwyth?

….yyyy, yyyyy…. dwi licio petha exotic fel Mangos a petha….

Pam?

Mae nhw’n ‘ffrwyth’loni fi!  (Chwerth!)

IMG_9314

Cwestiwn iddo’i hun: Yn wleidyddol, be ti feddwl o Gymru yn y byd sydd ohoni?

Mae sefyllfa Cymru o fewn Prydain yn mynd i newid lot dros y blynyddoedd nesa ma, yn enwedig os di’r Alban yn cael annibyniaeth. Fydd na lobi eithaf cryf wedyn, gobeithio, o fewn Cymru sydd yn gofyn am annibyniaeth. Os bydd yr Alban yn ennill annibyniaeth mae rhaid ailffurfio y syniad o Brydain fel unit gwleidyddol, a gobeithio (mae na chance go lew neith hyn ddigwydd) y bydd o’n achosi y break-up o Brydain yn gyfan gwbl. Mae hyna’n mynd i fod yn ddiddorol i sefyllfa Cymru yn rhyngwladol. Ond, mae rhaid i ni weithio i ail-sbarduno diwylliant Cymru… mae cerddoriaeth yn mynd i chwarae rol enfawr…. jest angen bobl i ddechra bandiau lot mwy ffycin diddorol na be sy ar y sin ar y funud!

Ydi anarchiaeth a gwleidyddiaeth ffurfiol yn gallu plethu?

Os ti’n sbio ar y Zapatistiaid yn Chiapas, Mexico er enghraifft, mae nhw’n trio gneud be allyn nhw o’r sefyllfa mae nhw ynddo, ond yn dal i ddioddef o dlodi anferthol. Os ydy’r byd yn mynd i newid, os ydy cymunedau yn ffynnu ac os ydy cymunedau di-gyfalafol yn ffynnu… mae’n anodd iawn i hynny ddigwydd pan ma na fôr o wladwriaethau a corporations o’u gwmpas nhw yn trio ymestyn eu dylanwad. Rhaid i’r byd gyd-ymffurfio a chwilio am solutions gwell efo’r gilydd. Ma Cymru yn wlad mor fach, fel Chiapas (sy’n ranbarth fach yn Mexico)… i weithredu fel cymunedau mae cynhyrchu petha yn lleol yn ofnadwy o bwysig. Diolch i Thatcher, mwy ne lai, ma pob dim wedi cael ei breifateiddio… mae’r cwmniau yn dod o dramor… sdim llawer o ddim yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ddim mwy, na Cymru. Ond, os da ni’n edrych ar system sy’n cynhyrchu  yn lleol, dyna di’r ffordd ymlaen… fatha’r Zapatistiaid. Mae nhw’n cynhyrchu bwyd eu hunan, coffi a dosbarthu i’r byd cyfan… ma’n hollol fair trade gan fod y bobl yn defnyddio’r pres i ariannu’r autonomous region, sef Chiapas…. mae rhaid i ni sbio ar hwnna fel enghraifft da.

IMG_9309

Be sydd nesa i Radio Rhydd?

Dwi’n gobeithio bydd lot o gigs yn digwydd. Ma be dwi isio allan o’r band yn eitha ambitious yn yr ystyr mod i isio cyfleu neges nid i gynulleidfaoedd  yng Nghymru yn unig, ond much further afield hefyd. Ar y funud ma’r sefyllfa’n eitha anodd, Rhys newy gael swydd, a Callum yn 16. Ond, ma Ant a fi yn llawn egni a’r ddau ohonom yn gorffen addysg blwyddyn yma, gyna ni llwyth o amser ar ein dwylo a da ni isio neud wbath efo fo, anodd ar hyn o bryd… ond watch this space, gobeithio am ddyfodol mawr.

SOUNDCLOUD RADIO RHYDD  @RadioRhydd

RECORDIAU AFIACH    @Afiach_DIY

Osian a Branwen Williams / Siddi

IMG_9144

LLe?  Oakley Arms, Maentwrog.

Pryd? Amser cinio. Mawrth 26, 2013

Ydi wir, mae Recordiau I Ka Ching wedi ein breibio efo llond trol o wyau pasg i gynnwys un o’i hartistiaid nhw eto, ail fis yn olynol rwan! Yr artistiaid sy’n cael eu cyfweld mis yma ydy’r deuawd gwerin cyfoes o Lanuwchllyn ger y Bala, sydd hefyd yn frawd a chwaer, Osian a Branwen Williams – Siddi. Mae’r ddau yn brysur iawn yn perfformio gyda bandiau eraill hefyd, yn eu mysg mae Cowbois Rhos Botwnnog, Candelas a Jessops a’r Sgweiri. Yn Ionawr eleni, cawsom gyfle i glywed ‘Un Tro’ yn ei gyfanrwydd, albwm cyntaf Siddi. Mae’r albwm wedi llwyddo i fynd a ni i gyffuniau hudolus, swynol ac anghyfforddus (ar adegau) y byd gwerin. Wedi wythnosau o geisio trefnu dyddiad rhyngddom, o’r diwedd cawsom gyfle i gwrdd, nid yn Llanuwchllyn, ond yng ngwesty clyd yr Oakley Arms, Maentwrog. O leia ein bod o fewn yr un hen sir Feirionnydd! Eira mawr ar y mynyddoedd, ond yn heulog braf yma ar lefel y môr ar lan afon Dwyryd, mewn i’r gwesty a fano oedd y ddau yn gynnes a chlyd yng nghornel y bar bach.

Llongyfarchiadau ar Un Tro, sinematig iawn! Sut ymateb da chi wedi gael hyd yn hyn?

O: Popeth di mynd yn bosotif dwi meddwl do? (yn edrych ar Branwen)…. hyd yn hyn…

(chwerth)

B: Do… pobl yn ffeind ofnadwy. Roedd o’n gyfnod anodd oherwydd anghydfod Eos / BBC. Roedden ni wedi rhyddhau’r albwm yn mis Ionawr a’r anghydfod yn amlwg yr un adeg… oedd o’n anodd peidio clywed y caneuon ar y radio tasa nhw wedi dewis chwarae’r caneuon, cyfnod rhyfedd. Ond dwi’m yn gwbod os da ni wedi cael mwy o genfogaeth oherwydd hyna, twbo… bobl yn llawer mwy parod i fynd allan i brynu’r albwm. Mae’r gefnogaeth lleol di bod yn…(saib) e.e. da ni wedi gwerth 30 albwm yn Awen Meirion (Siop Lyfrau y Bala) yn unig, sy’n rhywbeth anghyffredin iawn yn ôl Gwyn Sion Ifan (y perchennog). Ma jest meddwl bo chdi’n cal cefnogaeth felna yn werth y byd.

Esboniwch y cysyniad.

O: Tair mlynedd yn ôl, aeth Branwen i Gaerdydd i wneud MA mewn astudiaethau gwerin, a wedyn dyma fi’n cael galwad ffôn ryw bnawn, Branwen cafodd y syniad i gyd mewn ffordd. Ar y pryd doedden i ddim mewn band efo’n gilydd, a dyma’i jest yn dweud wrthai, “…na ni, da ni am gychwyn band o’r enw Siddi, a da ni mynd i wneud albwm ar y stori yma..” ia? Gei di ddweud y stori…

B: Ia, dylai pawb brynu’r llyfr ‘ma, dim syniad os ydi o dal mewn print ond ‘Straeon Tylwyth Teg’ ydi enw’r llyfr gan rhywyn o’r enw Hugh Evans. Ma’n llawn straeon tylwyth teg, a mae o’n sgwennu fo o berspecif  fod o’n credu yn y tylwyth teg ‘ma, sy’n gneud o lot mwy difyr de… mae o ofn nhw chydig bach. Eniwe.. ma na lwyth o straeon, nid yn unig o Lanuwchllyn ond o gwm llai byth tu ol i ty ni yn yng Nghwm Cynllwyd. Ond i jest yn meddwl fod hyn yn rhyfedd twbo? …a bod o di casglu nhw felma. Ddaru ni ddewis un, panio hi allan chydig bach a’i ddefnyddio fel cefnlen bras i albwm. Alli di’m gweithio’r stori allan o’r caneuon yn berffaith, ma’r caneuon i fod fatha microscope ar y stori a’r themau, profiad.

IMG_9167_2

Sut aethoch ati i gynhyrchu? Swn amrwd iawn.

O: Ia oedd hyne yn rywbeth ddaru ni ddeud o’r cychwyn hefyd… fatha, dau offeryn gyno ni de… fi ar y gitar a Branwen ar y piano a dau lais, felly… ddaru ni benderfyny o’r cychwyn ein bod ni ddim am adio ddim byd arall. Ia, cadw fo’n reit amrwd hwrach, isio’r swn agored oeraidd na, felly natho ni recordio rhan fwyaf ohono yn hen ysgoldy, ryw hen gapel, yng nghanol Llanuwchllwyn… a gorffen y canu adre, ynde?

B: Ia, ac os oedd yr adeilad yn penderfyny gwneud swn, ti gwbo ma adeiladau yn gwneud swn tydi? Oedd y petha ma’n aros mewn, achos dyna oedd y profiad. Ac ar rai rhannau o’r albwm ti fod i deimlo chydig bach yn anghyfforddus, fatha… ma’r gitar yn creekian dydi? “Ma hwnna’n aros mewn de!”

Chi gynhyrchod o?

O: Ia, neud o’n hunen. Oedd o mor syml o ran y broses recordio…. (saib) natho ni gal broblem do? Piano y capel chydig bach allan o diwn… oedda ni bron a rhoi o mewn, neu defnyddio electric piano de… ond oedd hyne hyd yn oed, bod o o chydig bach allan o diwn, eto yn adio ato fo. Nes i feicio’r piano, meicio’r amp gitâr a wedyn sticio un meicroffon ynghanol stafell i godi pob dim i fyny. Ia, cynhyrchu fo i gyd ein hunen.

Ar adegau, mae Un Tro yn swnio fel deuawd ‘Eisteddfodol’… ond mewn ffordd amgen / indie. Gosod trend newydd?

(chwerth!)

Dwi meddwl ma na ryw stigma weithia yn erbyn canu, ddim yn Eisteddfodol, ond canu chydig bach yn ‘gywir’. Os na ti gallu deall yr enganu a geiria cân, does na’m point dwi’n yn meddwl, yn enwedig efo hwn oherwydd mae o mor fregus, a’r geiria yn ran mor allweddol o’r profiad o wrando ar hwn (yr albwm)…dwi’n gobeithio. Dwi’m di gneud ymdrech uniongyrchol i enganu’n gywir ond mae o’n rywbeth naturiol i ni tydi?

Gynnoch chi hanes o Steddfota?

B: O gosh oes, sgen ti’m dewis yn Llanuwchllyn! Dwi meddwl bod trend perfformio ac enganu yn ddiog ar hyn o bryd yn y sîn a wedi bod ers ryw 5 i 6 mlynedd fyswn i ddeud. Tydi o’m yn cwl nadi? I sefyll yna fel bod ti isio bod yna…

Da chi’n gneud rywfath o ddatganiad?

B: Yyyyymmm….  fyswn i meddwl mod i’n datgan – mod i isio bod yno, hwrach. A mod i isio cydnabod y gynulleidfa a trio creu perthynas efo nhw, yndw. A s’dim byd yn bod efo hynna. Sgenai ddim problem efo’r holl stigma de, dwi’m gwbod fysa rhai pobl yn ei weld o fel problem yn eu gyfra cerddorol falla. Oedden ni’n gorfod cystadlu mewn 4 steddfod leol bob blwyddyn, heb son am yr Urdd a’r Genedlaethol. Ti jest yn gneud o… oedd y celfyddydau mor bwysig yn ysgol gynradd de, oeddet ti’n gneud llun i pob stori er enghraifft de….

IMG_9158

Dylanwadau?

B: Canu gwerin. Da ni’n rhannu’r un cariad tuag ato yn dydan?

O: Ynden, a di bod erioed dwi meddwl do?

B: A ffeindio caneuon newydd, variations, pennillion gwahanol… ma’n fyd mor diddorol. Dwi siwr fod hwna’n fan cychwyn…

O le ddaeth hynny?

B: Dim syniad. Cwpl o lyfrau rownd y ty. Dwi wedi clywed sawl un arall yn dweud bod y tâp ‘Canu Gwerin i Blant’ gan Plethyn wedi dylanwadu ac yn ran o blentyndod rhywyn, dwi siwr fod hwna’n fan cychwyn hefyd. Ond wedyn os gen ti ddiddordeb, ti’n cymeryd camau dy hun wedyn dwyt unwaith ti’n chwilio a dechra gwrando.

Unrhywbeth cyfoes?

O: Fyswn i deud mod i’n gwrando ar bethau trymach na ti dydw? Pob math i ddweud y gwir. Yn y Gymraeg rwan, o ran bandiau roc, mae fatha bod y gerddoriaeth i gyd yno ond sgen ti ddim… (saib) dwi jest sbio nôl a cofio Big Leaves de. Yn amlwg oedden nhw’n fand da oedd, ond oedden nhw i gyd mor cwl ar y llwyfan doedden? Ac oedd gen ti ffrynt man, oedd yn bod yn ffrynt man! Fel oeddet ti’n sôn cynt, dwnim be ydi o, dio ddim yn cwl bod felna rwan.

Showmanship felly?

O: Showmanship ia! Ma’na ryw craze ar y funud i fynd yn erbyn hynny, mae’n siwtio rhai tydi… ond ar y funud, yn y Gymraeg, dwi’m yn meddwl fod gen ti’m cweit yr elfen Big Leaves ‘na… er bod lot o fandie, o ran cerddoriaeth, yn brilliant.

B: Dwi licio geiriau da de, ma rhai bobl dy nhw’m yn gwrando ar eiria weitia ond dwi yn.

IMG_9156

Mae ‘Un Tro’ ar adegau yn swnio fel bod o’n ran o sîn indie – gwerin America / Canada. Oes na ddylanwadau o fana? Ta ydio’n hollol organig?

B: Roedd o’n cefn ein penna bod ni isio cadw’n gwrandawr ar flaenau’i traed o ran bod nhw ddim yn hollol gyffordus yn gwrando arno. Falla bod twtchis bach o Bon Iver… ond ma’n mish mash enfawr o wahanol bobl.

Ma’r ddau ohonoch mewn bandia eraill, sut mae cydbwyso?

O: Nath hi gymeryd dwy flynedd dda i wneud yr albwm ma de, natho ni gal y syniad 3 – 4 mlynedd yn ôl. Dwy flynedd yn ormod!

B: Ond dyna fo, ma Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog, felna mai. Ti’n diolch am y llwyddiant ti’n gael efo heini. Ma Cowbois wedi gneud 88 gig llynedd, sy’n anhygoel o beth i fod yn rhan o hynna.

Ydi o’n anodd / straen ar adegau? Yntai mwynhau pob eiliad?

B: Mae’n straen oherwydd mae’n raid i mi weithio llawn amser, allai ddim neud o fel cerddor llawn amser….dwi’n yn meddwl. Mae Cowbois yn trio neud o, dwi’m yn gwbod faint mor hawdd ydy iddyn nhw… ond ma nhw’n trio. Dwi’m yn meddwl allai wneud hi… bysa’n dda gallu gwneud cos sa’r albwm yma a llwyth o gynnyrch arall wedi dodd allan tair mlynedd yn ôl! Dwi’m yn cweit yn barod eto i gymeryd y risg o beidio gweithio, sy’n drist.

Osian, ti’n aelod o Candelas, Jessop a’r Sgweiri, Cowbois Rh.B. a Siddi… 4 band. Gen ti ddull arbennig o weithio efo pob un band, ta dio’n plethu?

O: Ar y funud, dwi’n sdiwdant yndw!

(chwerth!)

Mae pob band ar ben ei hun, mae gen i feddylfryd gwahanol i pob un mewn ffordd. Ia, pan dwi sgwennu cân… mae pobl wastad yn gofyn “Sut ti’n penderfyny pwy bia’r gân?”… ond dwi’n gwybod o’r cychwyn, unwaith dwi’n eistedd lawr i gyfansoddi mae’r cerddoriaeth mor wahanol i pob un. Dwi’n gallu gwahaniaethu reit hawdd.

IMG_9160

Be mae’r SRG angen i fod yn well?

B: Ma sawl person wedi dweud wrthai, a dwi’n cytuno, bod safon y cerddorion ar ei uchaf erioed, y gallu cerddorol a gafael sgen pobl ar eu offerynau. Hefyd, dwi cael llond bol o’r bad press sy’n dod gan bobl dwi ‘rioed wedi gweld mewn gig dros y tair mlynedd dwytha, a sgyno nhw’m clem am be ma nhw’n siarad! Wedi cal llond bol, cos dy nhw’n amlwg ddim yn rhan o’r sîn dwi rhan ohono yn de. Da ni hefyd yn trefnu gigs nôl adre yn Bala ers dwy flynedd a mae nhw’n anhygoel, a’r diddordeb yn anhygoel…. felly cael gwared o’r bad press swn i licio. Mae gyno ni fand ifanc lleol yn ysgol Y Berwyn rwan sy’n dod i’r aelwyd atom ni yndi? Hefyd mae na fand yn yr ysgol gynradd rwan fyd sy’n gwylio’r Cledrau a gwylio Candelas, twbo… maga di hynna’n lleol fydd na’m problem de.

O: Son am wbath hollol wahanol, fyswn i’n deud bod angen balls yn y sîn roc Gymraeg! Hynny’n un peth sydd ar goll. (saib) Jets yn y music roc yn amlwg…  dim jest Siddi twbo? (chwerth!)

Mae rhywun yn cynnig £1000 i chi ar yr amod dy fod ti’n prynu rywbeth cerddorol, be?

B: Ti gwbod yn iawn Osh, prynu keyboard llai i mi! Ma’r un presenol yn anferthol 88 nodyn, lot rhy fawr i feddwl be dwi’n ddefnyddio ohono!

Mae na keyboard mat ar gael does?

B: Dyna ni, dyna dwi gael… keyboard mat i mi! Be fysa ti’n gael Osh?

O: Wel da ni di wario fo i gyd rwan do! (chwerth!)

Cwestiwn eich hunan.

B: Os fyswn i’n cael ymuno efo un band am ddiwrnod, pwy fysa nhw? Dwi’n dewis Fleet Foxes. Mae gyna nhw ddau biano ar llwyfan, pianos iawn – upright…. a’r harmonis!

O: Dryms ydi fy offeryn cynta fi, hyna dwi’n fwynhau ora. Mynd i ddrymio i Artic Monkeys a bod yn hollol roc a rol am noson!

IMG_9175_2

Da ni am glywed mwy gan Siddi?

O: Da ni isio does? Da ni isio mynd ymlaen i wneud rywbeth newydd. Be sy’n braf ydi bod yr albwm yma wedi bod yn albwm gysyniadol, mewn ffordd sa ni gallu mynd i unrhywle yn y byd o ran cyfeiriad gwahanol rwan achos mae Un Tro wedi ei greu ac i gyd efo’i gilydd fel package. So sa ni gallu gwneud rywbeth heavy metal neu rywbeth!! (chwerth!)

‘Da chi ddim am gydymffurfio i un genre felly?

B + O: Na!

O: Dwi ar fin cymysgu albwm cynta Candelas hefyd, dwi deud hyn de ond gobeithio gal o’n barod o fewn y mis!

B: Ti’n mynd i Iwerddon  mewn pythefnos!

O: Oh ia! O ran Jessop a’r Sgweiri, da ni mynd i’r wyl Ban Geltaidd ar ol ennill Cân i Gymru. D ani dal heb fwcio’r fferi! Gwych! (chwerth!)

Siddi / Bandcamp

@siddiband / Twitter

Prynwch ‘Un Tro’ gan Siddi yma – Recordiau I KA Ching