Lle? Teras Mactub Hostel, Granada, Andalusia, Sbaen
Pryd? Mañana… Mehefin 29, 2013
Wedi trafeilio ers dros wyth awr, braf oedd camu oddiar bws air-con cwmni Alsa i aer tew a phoeth Granada, Andalusia i gyfarch hen ffrind – Aron Elias, ond… doedd dim golwg ohono yn nunlla! Meddyliais am funud os mai fi oedd wedi dychmygu’r sgwrs Facebook efo’r gwr talentog o Borthmadog wedi’r cwbl! Doedd ganddo’m ffôn na cyfeiriad, a’r unig beth oni’n wybod oedd ei fod yn byw mewn ogof yng Ngranada! Roedd geiriau ei neges ddwytha yn atseinio yn fy mhen “paid poeni, ffydd!”. Wedi ‘cerveza’ bach yn yr orsaf i ymlacio, es ymlaen gyda llond rycsac o ‘ffydd’ i ddarganfod hostel o rywfath… o leia fydd gwely mewn dormitory yn fwy cyfforddus na llawr ogof, meddyliais! Wedi oriau o gerdded, cefais hyd i hostel reit o dan yr Alhambra, gyda chwmni rhyngwladol cyfeillgar a cherddorol. Doedd run ohonynt wedi gweld nac yn adnabod yr ‘Aron’ ma… erbyn y bore roedd Aron wedi dod yn dipyn o chwedl yn yr hostel wrth i mi son amdano gymaint… ac ambell un yn meddwl bod gen i ffrind dychmygol. Yna, wrth jarjo’r ffôn… clywais blîp, neges gan Aron! Esboniais lle’r on i… a daeth yno i nghyfarch. Efo gitar gwr o Awstria, canais ‘Hen Wlad fy Nhadau’ iddo o’r balconi. Ffydd!
Sut ma bywyd yn Granada?
Ma’r steil o fywyd yma digon hawdd i ddisgyn mewn cariad efo fo. Ma’r ffordd o fyw yn mwy…… chilled, dos na’m brys mawr… dwi licio’r steil o fywyd yma. Ma’r haul yn cael lot o effaith ar hapusrwydd bobl. Sbaeneg yn dod mlaen yn iawn de…
Heblaw am ambell i ymddangosiad teledu gen ti, da ni heb glywed llawer ers sbel. Project ar y gweill?
Genai wastad project ar y gweill, dwi di recordio EP efo Acapela… dwi’m yn gwybod be sy digwydd efo hwnna. Ma ‘na sefyllfa lle di bobl ddim yn prynu CD’s bellach na? Downloads a ballu…. ma na dipyn o crisis yn y byd cerddoriaeth yn gyffredinol ar y funud. Ond ia, genai brojecta ar y go… dwi wedi bod yn gneud gwaith efo cwmni theatr yn fama yn Granada, yn gneud cerddoriaeth cefndir i’r perfformiada. Petha modern, ma’n uffernol o ddiddorol… yn trafod pob math o betha. – rhyw, perthasa… fel yn y sinema’s erstalwm, y silent movies pan oedd gen ti boi yn chwarae piano, wel dyna dwi neud… ond efo gitar.
Yn y gân San Diego Serenade, dyweddodd Tom Waits “I never saw the East coast, untill I moved to the West”. Gan dy fod ti dramor yn aml, wyt ti’n gweld Cymru mewn golau gwahanol, yn ddiwylliannol felly?
Ma’r quote na’n hollol gywir, pan ti allan o’r cylch diwylliannol ti yn sylwi mwy o’r tu allan. Heblaw am Meic Stevens a Nhad a Mam… Dafydd Iwan hyd yn oed… Sobin a’r Smaeliaid pan o’n i’n fach a Flamenco / Clasurol rwan… ma nylanwadau i i gyd yn dod o America. Gospel, Soul, Blues, Rock’n’Roll a Jimi Hendrix. Hein oedd y dylanwada, ac o hyn oni’n trio neud o’n Gymraeg efo Pep le Pew a Y Rei. Be dwi wedi dysgu a sylwi, o fod tu allan i’r bybl, ydi bod pobl di-Gymraeg isio gwybod be ma cerddoriaeth o niwylliant i yn swnio fel. Dwi’n bysgio cerddoriaeth clasurol y byd yma yn Granada, stwff o Paraguay, Brazil, Ffrainc, Sbaen, Eidal a’r Almaen ac ati… wedyn nes i gyfarfod rhywyn o Sbaen efo telyn Cymreig yn chwarae pethau Celtaidd… wedyn ma di gneud i mi feddwl, ia “be ydi swn a cherddoriaeth Cymraeg / Cymreig?” Ma pob dim yn dod o rwla. e.e. y bagpipes yn yr Alban wel ma na offeryn efo’r union run swn yn Galicia. Yn ol i’r pwynt, dwi meddwl dyla ni fynd ol i’n gwreiddia…. ail-ddarganfod ein gwreiddia. Ma’r sefyllfa union run peth yn fama, ti’n gwrando ar y radio a clywed offeryna a swn roc’n’roll a pop Anglo-American yn bob man ond efo iaith Sbaeneg. Pan dwi’n gwrando ar gân roc / blues efo iaith Sbaeneg…. dio’m yn swnio’n iawn gan fod o wedi ei neud yn Saesneg yn gynta.
Ti meddwl bod pobl di-Gymraeg yn clywed hynna wrth glywed roc / pop yn yr iaith Gymraeg?
Yndi, ond dwi’m yn lladd ar y Gymraeg… ma hyn wbath cyffredinol drwy’r byd. Yn bersonol, pan dwi dod i fama… dwisio clywed cerddoriaeth Sbaeneg, ond tydi pobl fama ddim isio clywed hyna… ma nhw’n bored ohono, ma nhw isio clywed y roc / pop… beth bynnag sy’n boblogaidd ar y pryd.
Ydi cerddoriaeth glasurol wedi agor drysau newydd i ti?
Ma wedi agor meddwl fi yn gerddorol a wedi dysgu lot i mi bod pob dim yn dod o rwla arall. Oni’n Moroco efo Jaci Williams yn gwrando ar gerddoriaeth gwerin ac oedd na ddylanwada Jimi Hendrix, hen foi yn chwarae Oud (offeryn Affricanaidd) efo pentatonic scales a ballu, “wei ma hwn yn swnio fel Jimi Hendrix!” Ond ma Jimi Hendrix wedi bod yn Moroco yn y 60’au, a ti sicr yn clywed dylanwad Moroco yn ei waith o. Mics o blues, rock a cerddoriaeth Moroco, ond wedyn mae o wedi dylanwadu gwerinwyr Moroco gan fod o wedi bod yno… felly mae Jimi Hendrix wedi dylanwadu music gwerin modern Moroco heddiw. Pan oni’n Aifft, oedd na (canu swn bas) dyn dyn dyn dyn dyn… efo scales (canu uchel) dyn ne ne ne ne ne, Arabaidd ar ei ben o. Ond ma pob un gwerin, ma’r gwreiddyn yna yno fo… da ni’n dueddol o licio’r majors a ma nhw’n licio’r melodic neu’r harmonic minors. Twbo, ma elfennau o country music America wedi dod o Iwerddon a Prydain Celtaidd. Gospel… canu capal Cymraeg yn America oedd y Gospel efo Affricanwyr 3ydd / 4ydd cenhedlaeth yn canu caneuon capal yn eu steil nhw… a wedyn ddoth gospel. ‘Sa neb yn bia music. Ma cerddorion wastad di bod yn nomadic, yn trafeilio ac felly’n mynd i gal eu dylanwadu a codi ambell i scale ne ddau o le ma nw di bod a wedyn creu peth eu hunan, fel Flamenco…. sy’n gymysgedd o betha Arabaidd, Iddewig, Sipsi a ballu… lobsgows! Does na neb yn gallu dweud “ni bia hwnna…”, lobsgows!
Wrth ista yn dy ogof-dy ar y bryn yn Sacramonte, daeth ci mewn a nesdi ddeud “Hei, Guadalupe…”, a rhoi dwr iddo. Dy gi di?
(chwerth!) Na, ma cwn yn mynd ar blydi tits fi! Ci boi drws nesa dio. Dwi licio anifeiliad de ond blydi hel ma na fwy o gwn na pobl yma (gwneud swn udo ci…) Dwi’n ffrindia efo’r cwn wan felly dy nhw ddim yn cyfarth arna i ddim mwy. Ma na rywyn yn cynnig ci i mi o hyd! Ma crisis cwn yma! (chwerth) Gormod ohonyn nhw, ma nhw’n bobman.
Ma byw mewn ogof-dy yn rywbeth eitha cyffredin yn fama yndi?
Yndi. Dim twll yn y graig ydi o, mae fatha ryw hen balas bach Mwraidd efo archways a teils Morocanaidd ar y llawr, ma’ na le tân a simdda… mae o’n dŷ! Ma na ddrws a gardd a bob dim… jest fod o wedi naddu allan o bridd a cherrig y bryn yn hytrach na brics a sment. Ma mor boeth yma ma’n anodd dianc o’r gwres, ond yn yr ogof ma’r un tymheredd drwy’r flwyddyn. Ma pobl yn talu lot o bres i gal yr olygfa dwi’n deffro iddo bob bore… dwi’n edrych lawr ar yr Alhambra i fy chwith, wedyn ymhellach i’r chwith ma’r Sierra Nevada… mynyddoedd efo eira. Dinas Granada syth o mlaen i ac ar fy dde mae’r haul yn mynd lawr. Ma pobl yn talu lot o bres i ddod i weld yr haul yn mynd lawr yma yn Granada… dwi’n weld o bob nos! Dwi’n lwcus.
Ti’n ran o gymuned creadigol yma?
Yndw, mae na gymuned mawr creadigol yma. Dwi tua deg munud o ganol y ddinas, ond dwi nabod pawb yma yn El Albayzin a Sacramonte, pawb yn helpu’i gilydd. Dwi byw drws nesa i teulu Sipsi go iawn, ges i fwyd efo nhw wythnos dwytha a ddaru boi estyn gitar a chwarae Flamenco, fysa twrist yn talu €30 i weld rywbeth felna. A’r boi dwi’n prynu wyau gan, Kidu.. y brenin, y Gypsy King go iawn lly…. mae o’n canu. Ma’n cosmopolitan a rhyngwladol iawn, y Sipsi, ffrind o Brazil, ffrindia o Senegal… Frainc heb son am criwia lleol. Pawb yn helpu i gilydd yma… fatha bod adra, ond yn yr haul!
Yn ogystal a gwaith theatr a chymdeithasol, ti’n bysgio hefyd. Ma hynny’n grefft o fewn ei hun.
Yndi. Yn Granada ti gorfod cal leisans i ddechra, gwbod lle i fynd, pa amser a sut i ddelio efo pobl hefyd twbo sut i ddenu nhw mewn…. a dewis y lle gorau efo swn gorau, acwstics. Dwi chwarae lot wrth y cathedral, yr hen ardal.. ma jest yn ffordd da i fi bractisho y stwff clasurol ma, dwi’n mwynhau hynna. Ma’n ffordd o gal chydig o bres coffi a bwyd… weithia ma pobl yn rhoi €5 i mi am dynnu lluniau… weithia dwi’n rhoi sgarff ar fy mhen fel y llwyth ‘Bedwin’ o’r Aifft, sy’n reit controfersial ar adega! Ma’n bwysig cal music ar y stryd, ma’n rhan o’r sonic landscape… weithia dwi chwarae cerddoriaeth o fama e.e. Recuerdos de Alahambra, La Catedral …a dim ond y pobl diwylliannol sy’n deall, a ma nhw’n rhoi lot o bres i mi de. Dwi’n mwynhau y bysgio ond dwi isio mynd mwy mewn i theatr ar y funud… ma’r cymuned creadigol yma yn gret a ma na griw di dechra cwmni theatr, dwi’n rhan o hynny.
Sut mae codi hyder y byd canu Cymraeg?
Cwestiwn da, ma’r Cymry angen mwy o hyder yn gyffredinol dwi meddwl. Ma cerddoriaeth yn adlewyrchu y pobl dydi? Da ni’n genedl groen caled, di bod drwy lot o shit…da ni dal yma o hyd dydan? Dwi wedi cyfarfod pobl o dros y byd a pan dwi son am diwylliant Cymru dwi’n falch ohono fo twbo? A ma nhw’n gweld o’n anhygoel bo ni dal i siarad y iaith. Dwi’n egluro bo ni fatha’r ‘last mohicans’, ond mewn fordd ieithyddol de… oherwydd mi ydan ni. Da ni dal yn un o’r treibs olaf sy’n siarad y iaith twbo… dyla hyna roi digon o hyder i ni! Da ni dal yma ar ol yr holl rhoi lawr ac abiws seicolegol fel cenedl da ni wedi gael, mental abuse. Dyna pam ma’r Cymry go iawn, heb y diod a’r lush, yn shei… pobl y mynyddoedd da ni de? I fod yn mwy hyderus i beidio guddio be a pwy yda ni… ffwcio fo, hyn da ni de? A da ni dal yma. Fel oedd Pep Le Pew yn ddeud, onin rapio’n Gymraeg ond nes i newid o i Saesneg i bobl di-Gymraeg ddallt – “I’m a sheep shagger, I don’t give a fuck! That’s what I am, that’s where I’m from and that’s what Hip Hop is about – Who you are, what’s your point and what’s your culture about.” twbo… ‘sheep-shagger’ a ballu “yeah fucking right!” … tongue in cheek (dynwared dyn hen ffasiwn cefn gwlad) “Ia ma’n hawdd twbo, mae coesa nhw’n siap iawn…” (chwerth)
Oes digon o ddefaid i chdi yn Granada?
Na dim! Ma na ddigon o gig yma de… ond welai ru’n anifail! Welai run buwch, mochyn… mond coesau moch jamon dwi weld yma…
Nawn ni weld chdi nol yng Nghymru eleni?
Steddfod wrach! Os nai ffeindio ffor yn ol! (chwerth)
Amigo, gracias… hasta luego!
De nada, hombre. Muchos gracias!