Lle? Siop y Foel, (Cartref Ben) Penmachno
Pryd? Tua 1.30pm, Chwefror 27, 2013.
Mae Sen Segur yn un o fandiau mwyaf unigryw yr SRG ar hyn o bryd ac wrthi’n dathlu rhyddhad eu ail EP – Sudd Sudd Sudd (Recordiau I Ka Ching). Er eu bod yn swnio’n melfedaidd, seicadelig a haniaethol i’r glust, nid ydynt yn brin o gymeriad ac agwedd o gwbl. Y man cwrdd oedd yr hen Machno Inn, Penmachno… naid i’r car ac y fyny’r Foel tuag at gartref teulu Ben, Siop y Foel. Awyrgylch braf iawn yn yr hen dy a George yn cynnig paned o Earl Gray i ni, fel petai’n byw yno… awgrym o hen ffrindiau! Steddodd Ben a dechra ymbalfalu efo paced o rizla…
Llongyfarchiadau ar yr EP ‘Sudd Sudd Sudd’, swnio’n dda! Sut ymateb ydach chi wedi gael hyd yn hyn?
BE: Brilliant o ymateb actwali, ma di bod yn andros o bosotif. Mae o wedi cael ni i rhif 1 yn y siartiau C2 BBC… sy’n brilliant; am yr ail wythnos rwan dweud y gwir… sy’n dda iawn, doedda ni’m yn disgwyl hynna o gwbl….
GA: Pan ‘da ni recordio deunydd newydd da ni byth yn disgwyl cael ymateb.
Ydych wedi cael mwy o ymateb i Sudd Sudd Sudd na deunydd y gorffennol?
BE: Do oedd y ddau arall, y sengl a’r EP cynta, jest fatha… gadal i bobl wybod bo ni yma ia. Doedd bobl ddim yn cymeryd llawer o sylw o hynna… da ni di codi lefal arall efo hon rywsut.
Pob un ar I Ka Ching?
BE: Oedd y sengl caset Sarah / Nofa Scosia ar I Ka Ching a’r EP Pen Rhydd ar Recordiau Cae Gwyn. Mae Gwion, Gruff a Dan fel angylion, ma nhw ‘di neud popeth i ni… ‘da ni mor ddiolchgar!
Ymateb da yn fyw?
BE: Do, brilliant… mae na cwpl o ganeuon o’r EP newydd sydd weithia mor abstract…. ‘di bobl ddim yn siwr os dy nhw fod i glapio neu beidio (yn actio gig punter ansicr..)
Mae wastad teitlau a geiria haniaethol a diddorol i ganeuon SS, bron yn ‘Fabinogaidd’ ar adegau. Cytuno?
BE: Cytuno’n llwyr…
GA: Da ni ddim isio fo swnio fel ein bod ni’n airy fairy na’m byd. Ma penna ni yn y gwynt braidd weithia… so ella bod hynna’n dod drosodd yn y lyrics pan ‘da ni’n sgwennu am bethau od…
BE: Ia… ond rhan fwyaf o’r amser, da ni’m yn actwali gwybod be mae’r geiria’n feddwl tan ar ol i ni sgwennu geiriau, a da ni’n sylweddoli… oh “…yli be da wedi sgwennu, ma reit cwl actwali.”
Mae gwrando ar Sen Segur fel profiad sy’n golchi drostat, yn hytrach na rywbeth ti’n ddarllen mewn iddo yn ormodol… ydi hyn yn fwriadol?
BE: Dwi’n meddwl fod o, yn bersonol.. dim yn siwr am yr ‘ogia. Yn lle bod bobl yn ffigro allan be ma’n feddwl, dwisho nhw deimlo fo…. a cymeryd o on board fel bod y music a’r person sy’n gwrando yn un.
Mae rywbeth am eich swn sy’n cyffwrdd seicadelia obscure y 70’au, ydi pawb yn y band yn rhannu’r un angerdd?
GA: Erbyn hyn yndan. Da ni’n gwrando ar groestroiad eitha eang o fiwsig rili. Er engrhaifft, ti’n cerdded mewn i stafell Ben weithia a ma gwrando ar Hip Hop….
BE: Dwi lyfio Hip Hop… oh my God! (edrych i’r nefoedd efo gwynab dod!)
GA: Neu ma Daf sy chwara gitar efo ni, mae o’n obsessed efo metal…
BE: Mi oedd o…
GA: Mi oedd o…
BE: Dim gymaint dim mwy, mae mwy mewn i…. os dio ddim yn gwrando i seicadelia, fel arfer ma’n jazz fusion…. riffs…
GA: Da ni wrth ein bodda efo bandia megis Caravan, ar y funud da ni’n gwrando ar band o’r enw Tame Impala
BE: (wrth sibrwd) Oh brilliant!
GA: Wooden Shjips…
BE: Animal Collective…. a petha amlwg fel My Bloody Valentine, Brian Jonestown Massacre.
Mae’n siwr sa ti gofyn i’r bandia yna am ddylanwadau, fysa nhw’n edrych nol i’r 60’au / 70’au. Oes na fand o’r cyfnod yna’n sefyll allan?
BE: Pink Floyd, straight up ia…. Pink Floyd!
GA: Ges i epiphany wrth wrando ar Dark Side of the Moon…. heb droi nol!
Rydych wedi bod yn gweithio efo Huw Owen (Mr Huw). Sut brofiad oedd hynny?
BE: Ffycin brilliant. Roedd o’n gwbod yn union be oeddan ni’n edrych amdano, heb i ni orfod deud….. oedd o’n gwbod yn union be oeddan ni isio heb hyd yn oed esbonio. Oedd o’n deud “be os da ni neud hyn?” … ac oedd o’n swnio’n dda…
Cynhyrchu oedd o?
BE: Ia, oedd o’n helpu ni efo’r instrumentation a be oedd o meddwl dylsa mynd mewn iddo, ond dim gymaint fel bod o’n cymeryd drosodd… jest gadal i neud be oeddan ni isio. Lot o hwyl…. one of the lads ia.
GA: Deoddan ni ddim isio’r swn y recordings bod yn rhy wahanol i’r swn yn fyw, mae Huw wedi dal hynna.
Be ydi’ch cof cerddorol cyntaf?
BE: Rumours gan Fleetwood Mac, nes i dyfu fyny efo’r album yna pan oni’n byw yn Padog cyn symyd i fama. Mam yn gwrando ar y vinyl yna’n solid…. a Bryan Adams… don i’m gymint mewn i Bryan Adams ond nath Fleetwood Mac aros yn y cof…. swn gwahanol ia. Seicadelia di bod yna erioed…
GA: Dwi meddwl pan oni’n tyfu fyny yn Cae Gwyn oedd stafell fi reit wrth ymyl stafell Dan (ei frawd), so oni’n tyfu fyny’n clwad y stwff oedd o’n chwarae… so er bo fi ddim yn massive ffan ohonyn nhw dwi’n nabod y back catalogue i gyd – bandia fel… Crowded House, Supergrass, SFA… pethau felna. Subconciously wedi tyfu fyny yn gwrando ar heina…
BE: A Metallica!
Dwi am enwi ffrwyth…. wedyn, dwi isio chi ymateb iddo’n syth! Gall yr ymateb fod yn air, swn, ystum, siap corff…. unrywbeth! – TANGERINE.
BE: Oh what!!???
(chwerthin nerfus rhwng y ddau)
Ydi hyn yn ymateb???
Ydi, y syniad ydi mod i’n disgrifio’r ymateb wedyn…
BE: Satsuma…. (chwerth) what do you think of that then?
(chwerthin)
Be mae’r SRG angen i fod yn well?
GA: Mae na mor gymaint o musicians da…. (saib) ond dwi meddwl bod na ddiffyg bandia tanddearol does?
BE: Heb enwi neb, cos dwi’m isio offendio neb cos mae lot ohonyn nhw yn ffrindia gora efo ni…. (saib) ond mae na mor gymaint o musicians ffycin amazing yn yr SRG ond ma nhw’n chwarae’r music anghywir, dim ‘anghywir’… cos dyna be mae nhw’n enjoio. Ond, mae angen rywbeth gwahanol dwi meddwl gan fod na ormod o fands yn chwara rhythm’n’blues neu indie… neu pop, punk neu acwstic… mae angen rwbath hollol wahanol er mwyn cal y generations nesa… cael yr ymwybyddiaeth fyny ia.
So ydi’r genre’s yna yn beth drwg? e.e. mae ‘Indie’ yn gae mawr o ardulliau cerddorol…
BE: Na, dim yn dweud fod o’n beth drwg o gwbl… jest deud fod na ormod o hynna’n mynd ymlaen ia, dos na’m digon o wahaniaeth rhwng bandiau. e.e. allai wrando ar un band ar y radio a meddwl na band arall ydyn nhw.
Be ydi ‘tanddearol’ i chi?
GA: Dwi meddwl dylsa bobl teimlo mwy o ryddid…
BE: Peidio trio swnio fel rhywyn arall…
GA: Gneud rywbeth mwy atyniadol… rywbeth sy’n (saib) …gall hyn swnio’n cliché; ond meddwl tu allan i’r bocs!
Mae rhywun yn cynnig £1,000 i Sen Segur ar yr amod eich bod yn prynu rywbeth cerddorol, be?
BE: Studio time a….. (saib) flange pedal! (chwerth)
Pa gwestiwn fyse chi’n gofyn i chi’n hunan?
Y CWESTIWN: Pa fobl o’r SRG fysa chi’n licio yn eich ffantasi band?
GA: Na’i ddewis y rhythm section, gei di ddewis y lead section.
BE: Ok
GA: Ar y dryms, fyswn i’n licio Robin o Bandana….ma’n anhygoel. Ar bass fyswn i’n lico…. (saib hir)…… meddwl di am y lead section….
BE: Ok.. yyymm… faint o guitarists da ni’n gael? Un ta dau? OK ar lead guitar fyswn i’n cael Llyr Tom Tom, Llyr Parri (Jen Jeniro / Cowbois) everytime! Daf Eitha Tal ar rhythm….
GA: Bass, fyswn i’n rhoi boi Cresion Hud…
BE: Vocals? (Ben yn gneud swn meddwl rhyfedd…. chwerth!) Fyswn i’n licio deud Pearl. Ond ma Llyr a Daf a Pearl wedi bod mewn band arall efo’i gilydd yn barod… so basically fysa fo’n Jen Jeniro reunion ond efo dau aelod arall.
Pwy ydi Pearl?
Eryl Jones (canwr Jen Jeniro) , nath o joinio’r tim peldroed pan oedd o’n ifanc a doedd y coach methu deud Eryl, so oedd pawb yn galw fo’n Earl… ac aru nhw jest adio ‘P’ ar ei flaen o… so ma pawb yn galw fo’n Pearl, ers blynyddoedd wan!
(chwerth!)
BE: Keyboards?
GA: Gruff y Niwl!
Be di cynlluniau Sen Segur am weddill 2013?
GA: Mwy o gigs…
BE: Lot mwy o gigs gobeithio, sa fo brilliant cal shit loads o offers! Ond ma’n anodd cal hynna i ddod i ti sa ti gneud wbath amdano ia?
GA: Gorffen sgwennu album
BE: Ia… gorffen sgwennu album o ganeuon newydd. A sneak peak i chi… ma mynd i fod ar vinyl!
Vinyl yw’r dyfodol…
BE: The past, present and future! (mewn acen Americanaidd)
Prynwch Sudd Sudd Sudd gan Sen Segur o’ch siopau lleol / iTunes | Recordiau I Ka Ching
Dolenni eraill: