Cai O’Marah / Radio Rhydd

IMG_9298

Lle? Gestiana, Porthmadog

Pryd? Tua 4.15. Ebrill 19, 2013

Mae Radio Rhydd yn fand cyffroes a di-flewyn ar dafod i ddweud y lleiaf! Gyda’i mix o pync, roc a hip hop maen’t yn brysur teithio’r wlad yn deffro pobl o’u ‘confensiynau pob dydd’. Oes mwy iddyn nhw na jest roc a rol pur? Cawsom sgwrs efo Cai O’Marah (y prif leisydd) i ddarganfod yn union hynny. Roedd Cai ar y ffordd adref i Fethesda o Aberystwyth ar y bws, ond yn barod i ddod i ffwrdd ym Mhorthmadog i sganio recordiau yn Cob Records a peint yn yr hen Australia, neu Gestiana fel y gelwir dyddiau yma. Diwrnod braf o Wanwyn!  

Llongyfarchiadau ar ‘Trapped in the Game’ (Recordiau AFIACH 2013), albwm cynta fel Radio Rhydd, hapus?

Ia, da ni’n meddwl bod yr albwm yn gyffredinol yn grêt. Be oeddan ni isio gal allan o’r albwm oedd dal yr egni da ni’n greu wrth chwarae’n fyw. Dyna be oeddan ni isio fel albwm cynta, onwards and upwards wan. ‘Da ni newy’ neud sengl dwy gân efo Gwyn Maffia, yn gerddorol mae hwnnw yn mwy ‘focused’ a mwy ‘together’ tra ma stwff yr albwm yn mwy roar a mwy pynci a stripped down, ond dyna yn union oeddan ni’n trio gal mewn ffordd

Pwy feddyliodd am enw’r band? Enw gwych!

Ym… dwi cofio Ant (gitarydd Radio Rhydd) a fi yn eistedd lawr ar diwrnod braf fel hwn lawr yn Ogwen bank, Bethesda. Ddaru ni feddwl am ddechra stesion radio hollol annibynnol a hollol autonomous…. yn y diwedd ddaru’r band jest bloomio o hynny.

IMG_8718

Ma Radio Rhydd i gyd o ardal Bethesda, oes rywbeth am yr ardal sydd wedi sbarduno’r athroniaeth anarchaidd? Yntai o rwla arall?

Ym… na dwi’m yn meddwl fod o’n gysylltiedig efo Bethesda, mewn ffordd mae Bethesda yn dref traddodiadol dosbarth gweithiol a fyswn i’n dadla na ddim hynny nath sbarduno’r athroniaeth anarchiaeth sydd tu ol i’r band. Nath o ddatblygu dros cyfnod o amser, dwi cofio gwrando ar gerddoriaeth pync Prydeinig fatha Clash a Sex Pistols, ac ar y pryd oedd fi a fy ffrind, Rhys Cross, oeddan ni efo’r syniad ma o fod yn anarchwyr a chwythu pethau fyny! Wedyn, dwi cofio gneud cylchgrawn yn 6ed dosbarth efo’r athro cemeg, Dewi Gwyn o’r Anhrefn, a nath o esbonio i ni “Na, nid dyna ydi Anarchiaeth…” aeth o mlaen i ddeud mai syniad ydy o bod bobl efo cyn gymaint o barch at eu gilydd fel bo ni’m angen deddfau, dim angen llywodraeth a dim heddlu. Mae hyna wedi bod yn rhan ohonai ers hynny, engrained yn fy mhen i!

Lle es di i’r ysgol?

Dyffryn Ogwen…

Felly mae’r athroniaeth wedi dod o Bethesda mewn ffordd…?

Ia, mewn ffordd… ond mae wedi datblygu dros amser ers hynny. Mynd i bartis yn Gaerdydd a ballu… hefyd, es i deithio haf dwytha a mynd i weithio a byw mewn squats efo anarchwyr yn Copenhagen.

IMG_9291

Dylanwadau creadigol?

Ma dylanwad Rage Against the Machine (RAM) yn ofnadwy o amlwg… yn gerddorol, lyrical ac athronyddol …ac efo ffyrntmanship fi hefyd. Oni’n gwrando ar llwyth o Hip Hop ar y pryd…stwff Prydeinig fel Low Key a stwff Americanaidd fel Immortal Technique a wedyn llwyth o stwff Cymraeg, Pep le Pew a Tystion, mae gwrando ar albwm ‘Hen Gelwydd Prydain Newydd’ gan y Tystion wedi bod yn profound influence, dwi’m yn meddwl fysa na Radio Rhydd heblaw am yr albwm yna.

Ma Steffan Cravos yn rhan o set up Afiach (label recordiau)…

Yndi, Cravos nath y gwaith celf i’r albwm hefyd, sy’n gret… brilliant!

IMG_9304

Os fysa’r Toris yn cynnig £10,000 i Radio Rhydd chwarae mewn confrence, fysa chi neud o?

FFOCOFF!!!  (Chwerth!)

Oes rywbeth yn mynd ar dy nerfa di am yr SRG?

Oes, yn bendant! Mae na clique o fobl sy’n rheoli’r cyfryngau, sy’n rheoli’r playlists Cymraeg, sy’n rheoli’r sin Gymraeg… a mae nhw gyd efo monopoli dros be sy’n cael ei chwarae a be sy’n cael ei ddweud… ma hynny’n mynd ar fy nerfa i!

Hoff ffrwyth?

….yyyy, yyyyy…. dwi licio petha exotic fel Mangos a petha….

Pam?

Mae nhw’n ‘ffrwyth’loni fi!  (Chwerth!)

IMG_9314

Cwestiwn iddo’i hun: Yn wleidyddol, be ti feddwl o Gymru yn y byd sydd ohoni?

Mae sefyllfa Cymru o fewn Prydain yn mynd i newid lot dros y blynyddoedd nesa ma, yn enwedig os di’r Alban yn cael annibyniaeth. Fydd na lobi eithaf cryf wedyn, gobeithio, o fewn Cymru sydd yn gofyn am annibyniaeth. Os bydd yr Alban yn ennill annibyniaeth mae rhaid ailffurfio y syniad o Brydain fel unit gwleidyddol, a gobeithio (mae na chance go lew neith hyn ddigwydd) y bydd o’n achosi y break-up o Brydain yn gyfan gwbl. Mae hyna’n mynd i fod yn ddiddorol i sefyllfa Cymru yn rhyngwladol. Ond, mae rhaid i ni weithio i ail-sbarduno diwylliant Cymru… mae cerddoriaeth yn mynd i chwarae rol enfawr…. jest angen bobl i ddechra bandiau lot mwy ffycin diddorol na be sy ar y sin ar y funud!

Ydi anarchiaeth a gwleidyddiaeth ffurfiol yn gallu plethu?

Os ti’n sbio ar y Zapatistiaid yn Chiapas, Mexico er enghraifft, mae nhw’n trio gneud be allyn nhw o’r sefyllfa mae nhw ynddo, ond yn dal i ddioddef o dlodi anferthol. Os ydy’r byd yn mynd i newid, os ydy cymunedau yn ffynnu ac os ydy cymunedau di-gyfalafol yn ffynnu… mae’n anodd iawn i hynny ddigwydd pan ma na fôr o wladwriaethau a corporations o’u gwmpas nhw yn trio ymestyn eu dylanwad. Rhaid i’r byd gyd-ymffurfio a chwilio am solutions gwell efo’r gilydd. Ma Cymru yn wlad mor fach, fel Chiapas (sy’n ranbarth fach yn Mexico)… i weithredu fel cymunedau mae cynhyrchu petha yn lleol yn ofnadwy o bwysig. Diolch i Thatcher, mwy ne lai, ma pob dim wedi cael ei breifateiddio… mae’r cwmniau yn dod o dramor… sdim llawer o ddim yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ddim mwy, na Cymru. Ond, os da ni’n edrych ar system sy’n cynhyrchu  yn lleol, dyna di’r ffordd ymlaen… fatha’r Zapatistiaid. Mae nhw’n cynhyrchu bwyd eu hunan, coffi a dosbarthu i’r byd cyfan… ma’n hollol fair trade gan fod y bobl yn defnyddio’r pres i ariannu’r autonomous region, sef Chiapas…. mae rhaid i ni sbio ar hwnna fel enghraifft da.

IMG_9309

Be sydd nesa i Radio Rhydd?

Dwi’n gobeithio bydd lot o gigs yn digwydd. Ma be dwi isio allan o’r band yn eitha ambitious yn yr ystyr mod i isio cyfleu neges nid i gynulleidfaoedd  yng Nghymru yn unig, ond much further afield hefyd. Ar y funud ma’r sefyllfa’n eitha anodd, Rhys newy gael swydd, a Callum yn 16. Ond, ma Ant a fi yn llawn egni a’r ddau ohonom yn gorffen addysg blwyddyn yma, gyna ni llwyth o amser ar ein dwylo a da ni isio neud wbath efo fo, anodd ar hyn o bryd… ond watch this space, gobeithio am ddyfodol mawr.

SOUNDCLOUD RADIO RHYDD  @RadioRhydd

RECORDIAU AFIACH    @Afiach_DIY