Lle? Tafarn y Fic, Llithfaen
Pryd? Wedi 4yh, Mai 13, 2013
Gan mai yma yn Ngogledd Cymru mae pencadlys Brythonicana, anaml cawn gyfle i gyfweld rhywyn sydd ddim yn Gog! Rydym yn falch felly o’r cyfweliad mis yma gyda artist sydd a dyfodol disglair o’i blaen, Georgia Ruth o Aberystwyth. Clywais ei bod yn ymarfer draw yn Nhafarn y Fic, Llithfaen gyda’i band – Cowbois Rhos Botwnnog, ac ei bod yn rhydd am sgwrs fach rhwng 4 a 5. Rhedeg yn hwyr braidd a weipars y car yn mynd ffwl pelt drwy Meirionnydd ac Eifionydd ond… wrth rhoi nhroed lawr rhwng Chwilog a’r Ffôr daeth heulwen braf i ysgafnhau gweddill y daith i Ogledd Ddwyrain Pen Llyn. Roedd hi’n awyr las wrth gyrraedd drws y Fic, Tafarn cydweithredol sydd fel arfer yn llawn cymeriadau, ond wedi cau i gwsmeriaid gan fod hi’n ddydd Llun. Ta waeth, wrth gerdded mewn i’r stafell gefn (sydd heddiw yn stafell ymarfer dros dro i Georgia a’r band) roedd y lle yn llawn cerddoriaeth hudol. Coffi gan Daf y drymar, sgwrs fach … yna aethom i’r bar gwag am chydig o ddistawrwydd (profiad od!). Wrth i Georgia a minnau setlo, dechreuodd yr hogia jamio, swn arbrofol a haniaethol yn y cefndir a barodd drwy gydol y cyfweliad…
Week of Pines, allan o’r diwedd! Llongyfarchiadau. Hapus?
Yndw, dwi mor hapus! Teimlad anisgrifiadwy o rhyddhad cos dyma’r albwm gyntaf, yn amlwg. Mae lot o bobl yn synnu o glywed hynny ond mae wedi cymeryd chwech mlynedd go hir i fi ddod i’r pwynt lle mae genai fy albwm cyntaf… ac allai bron ddim cweit dweud mod i wedi llwyddo i wneud o! Ond ydw, dwi’n hapus.
Mae’r video yn wych, ac yn gweddu’n naturiol efo’r title track ‘Week of Pines’. Delweddau a seiniau retro ‘hafaidd’, cytuno / bwriadol?
Ydw dwi yn cytuno, o ran os dio’n fwriadol neu peidio wel… allai ddim cymeryd lot o’r clod am y fideo oherwydd gwaith meddwl a dychymyg boi o Gaerdydd, Iwan Jones Morris, ydi o. Mi waeth o wrando ar y gân a dweud, “OK, gad o efo fi, dwi am gael think…” a daeth yn ôl efo’r syniad ma o ffilm sleids. Nes i feddwl “OK, difyr”… ti gwbo, allai weld bod y gân yn ymwneud ac atgofion a’r gorffenol a trio dod a’r gorffenol i’r presenol, ia… o’n i jest mor hapus efo be oedd o wedi wneud. Mae’n gweddu i deimlad y gân mor berffeth… fel fod o wedi darllen fy meddwl i. Mae wedi bod mor sensitif i’r broses heb wthio’r peth yn ormod. Mae o reit ffyni mewn darnau hefyd, ie… dwi rili chuffed efo fo. (Gwen bodlon)
Ar un adeg oedd Bob Dylan efo ‘The Band’ fel band iddo, ti efo Cowbois Rhos Botwnnog, sut deimlad?
Teimlad anhygoel o bril! Yn amlwg mae nhw’n gerddorion aml-dalentog a gwell byth yn aml-offerynog. Mae’r gwead a’r amrediad o’r offerynau da ni gallu cael i’r caneuon, o’u oherwydd nhw, yn wych. Dwi mond yn chwarae’r delyn, yr organ a chanu… allai wneud hynny, ond efo rhein (C.Rh.B) ydi… mae’n brofiad gwych i allu chwarae efo nhw.
Dave Wrench…
Dave Wrench ….cymeriad! Ac erbyn hyn ffrind rili, rili da. Dwi’m yn meddwl fyswn i’n gallu entrystio’r albwm cyntaf i neb arall ond Dave achos on’i gwybod mod i angen rhywyn oedd yn deall fi, ac oni gwybod mod i angen rhywyn oni gallu trystio. So ie, Dave Wrench, gwych o foi. Brilliant.
Cynhyrchu’r albwm, all credit to Dave?
All credit to Dave!
Dylanwadau creadigol?
Ie, cwestiwn eang… dwi meddwl mai Cymru ydy o ar yr albwm yma achos, yn y bôn, albwm am ddod nôl i Gymru ydi hi, ar ôl cwpl o flynyddoedd o fyw i ffwrdd. Ie, Cymru a’r hapusrwydd o fod nôl yma oedd prif ddylanwad ar yr albwm. Wedyn tu hwnt i hynna, pan dwi’n sgwennu geiria (gan mod i wedi astudio Llenyddiaeth yn coleg) dwi wastad yn mynd at nofelau a pobl eraill sy’n sgwennu… pobl fel Kate Roberts, Frank O’Hara… dwi’n licio delweddau barddonol fel ‘na, ie cwestiwn anodd! (chwerth)
(C.Rh.B dal i jamio yn y cefndir…)
Mae’r awen yn gyfrwng anisgwyl a hudol… ar ba adegau y mae mwyaf cynhyrchiol i ti?
Ie, mae’n dod yn ysbeidiol… dwi ddim yn un o’r pobl proliffic ma sy’n gallu sgwennu pryd bynnag a lle bynnag, sy’n anffodus ‘cos dwi rili isio sgwennu a weithia a ‘di o jest ddim yn dod. Mae’r caneuon gorau dwi wedi sgwennu yn dod pan dwi ddim yn disgwyl nhw. Ar y tren nes i sgwennu geiriau ‘Week of Pines’ i gyd.
Wrth gyfansoddi, ti’n clywed alaw yn gyntaf? Yntai delwedd / geiriau arbennig?
Mae na ryw syniad yn dod gynta, syniad rili vague ponsi mae’n siwr (chwerth) a wedyn mae’n troi yn rhywbeth mwy cadarn munud mae’r geiriau yn dechrau ffurfio. Fel arfer wneith o gychwyn efo un cymal, cymal agoriadol… a ella yn y diwedd wneith o droi i fod yn gytgan. Ond mae na wastad dwy linell… a fydd y melodi’n dod o gwmpas hwna…. mae wastad man cychwyn eitha pendant….
Wyt ti isio ymhelaethu ar hynna?
Na! (chwerth)
Os fysa na hofrenydd yn gallu mynd a ti i fwyty heno, i le fysa ti’n mynd?
O my God! Fy hoff fwyty!? Dwi rili licio’r lle Eidaleg ar Cowbridge Rd East, Caerdydd… oh be di enw fo?! Italian Way! Fana fyddai mynd fwya aml ac yn eitha cymffyrting erbyn hyn… so ie, fana siwr o fod. ‘Di o’m yn exiting, ond twbo… dwi’n licio fy mwyd Eidaleg.
Coch ta Gwyn?
Coch, pob tro!
Mae na Genie yn cynnig dymunid i ti, ar yr amod fod o am gyfoethogi’r SRG. Be fysa’r dymuniad hwnnw?
Hmmm… dwi meddwwwwl – venue gwell yn Aberystwyth! Go iawn, chos nes i dyfu fyny na… lot ymlaen yn y pybs Cwps, Bae a’r Angel ayyb… ond mae wir biti i mi (dwi gwybod bod canolfan celfyddydau) bod dim venue exiting go iawn i fandiau Cymraeg yn Aberystwyth. Ti gwbo, gen ti lefydd yn Gaerdydd a clwb canol dre yn Gaernarfon … mae rili angen llwyfan yn Aber hefyd… a llefyd eraill… ie venues gwell!
Dy gwestiwn delfrydol mewn cyfweliad?
“Pryd wyt ti hapusaf?” Rheswm ydi.. mae na lot o gyfweliadau lle, dwi meddwl am fy hun rwan ar y radio lle dwi’n cyfweld pobl eraill… yr amseroedd lle gai gyfweliadau gorau a mwyaf gonest ydi pan ti’n trio peidio gofyn gormod am y gerddoriaeth a gofyn mwy am y person ei hun. Ti’n ffeindio bod y person yn ymlacio a mae nhw’n gallu son am e.e. lle mae nhw wedi tyfu fyny… a phan dwi’n gofyn i rywyn be sy’n gneud nhw’n hapus, fedran nhw’m peidio deud be sy’n gneud nhw’n hapus. Ti’n dysgu gymaint am berson felna, ac yn rywbeth braf i sonamdano, dim pressure.
Be sy’n gneud chdi’n hapus?
(chwerth) yyym… cwn! Dwi rili licio cwn! Mae nhw’n gneud fi’n rili hapus. Cwn o pob siap a phob sut! Hefyd, jest gallu gneud cerddoriaeth am fywoliaeth rili… mae’n swnio rili naff ond mae o’n uffern o beth neis. Genai gymaint o ffrindiau sy’n feddygon ac yn athrawon… dwi jest yn meddwl – fyswn i ddim yn newid hyn am ddim byd. Dwi’n rili hapus.
Beth sydd nesa i Georgia Ruth?
Taith fach i gydfynd a’r albwm newydd. Braf gallu gwneud, edrych ymlaen!
Label Gwymon http://www.sainwales.com @gwymon
http://www.georgiaruthmusic.co.uk @georgiaruth