Lle: Swyddfa wag, Yr Hen Co-op, Blaenau Ffestiniog. (swyddfa Antur Stiniog.)
Pryd?: Amser cinio, Ionawr 31, 2013
Mae Ceri C yn un o wir rocars Cymru, os nad y byd! Hawdd iawn yw dychmygu’r gwr o Stiniog yn dadla efo rhywyn fel Liam Gallagher mewn ryw far cefn, llawn hangers on. Ond, mae’r SRG (Sîn Roc Gymraeg) ychydig yn wahanol lle mae rhan fwyaf o’n arwyr yn gorfod gweithio 9 – 5 er mwyn cynnal eu creadigaethau cerddorol. Mae Ceri.C yn ennill ei fara menyn drwy weithio gyda Antur Stiniog, menter cymunedol sy’n arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored ym Mro Ffestiniog. Roedd yn aros yn eiddgar amdanom yn ei trêdmarc côt mynydda a jîns, fel petai’n barod i daclo’r mynydd uchaf! Coffi, un siwgr os gweli di’n dda…
Yr albwm diweddaraf – ‘Tydi Fama’n Madda i Neb’, mae’n cychwyn efo’r gân ‘Bwt Sêl’… sy’n swnio fel criw o gaethweison Cymraeg yn gosod rheilffordd yn y deep south UD yn yr 18oo’s, esbonia.
Arghh!! (bloedd wrth afael ar ei ben) yyyy… doedd o ddim i fod i swnio felna, ond yn licio’r esboniad yna. Ym…. dwi’m yn gwbod, nath yr ysbrydoliaeth ddod drwy cymysgedd o farddoniaeth R.S.Thomas a cerdded rownd bwt sêl Porthmadog efo’r plant.
… dy blant di?
Fy mhlant i ia, a Nyfain (ei gymer a Mam y plant) sydd ddim yn blentyn i mi… (Chwerth, yna sobri’n sydyn)
Ia, mae hanfod y gân, mae’n siwr, yn sôn am werthu’n gwerthoedd yn ormodol i’r bwystfil, that is – cyfalafiaeth a globalization.. ond mae hynny’n frwydr byd eang nid jest brwydr fel ni’n Cymry, dwi mond yn uniaethu efo ni’r Cymry gan fy mod i’n Gymro, yn amlwg!
Ers Twmffat, mae’n anodd gwahanu Ceri C y cerddor, o wleidyddiaeth. Doedd dy rôl yn Anweledig ddim mor uniongyrchol wleidyddol, pan ma’n dod i ganeuon yn enwedig…
Cytuno, dwi di cal mwy o ryddid efo Twmffat, ma’n llai o collective ella nag oedd Anweledig. Hefyd… yn lle mynd yn fwy laid back fel dwi’n mynd yn hyn…. dwi’n mynd yn mwy blin mewn ffordd; sy’n beth drwg, cos dio’m yn dod allan yn y ffordd gora, ond… ers bod yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog, yn oed gwaith felly…. ti’n sylwi lot mwy ar anghyfiawnder y byd hefyd cos pan ti’n ifanc ti jest mynd amdani dwyt? Ond, pan ti mynd yn hyn, enwedig pan ti cal plant a ballu, ti sylweddoli ….ffyc me, ma’n eitha gwallgo allan yn fana. Sut gall bobl beidio bod yn flin?…. ond ma na ffordd o bod yn flin a gneud o mewn ffordd mwy iach ella…..
(saib)
….sut ffwc dwi fod i fynd nol i ngwaith ar ôl siarad felma rwan?
(chwerth!)
Miwsig yn gyffredinol, sut ddaeth o i dy fywyd?
Yyyyy… ma dylanwada yn eang. Dylanwada drwy Anweledig yn amlwg…. does na’m un genre yn clymu fi lawr. Dwi’n cofio gwrando ar stwff Eurythmics drwy Mam a Bob Dylan drwy Dad. Dwi’n cofio Mam yn prynu hen Saab o Dinas Mawddwy gan ryw ffarmwr, oedd o jest yn ogla o dail gwarthag i gyd, ond be oedd yn y glove compartment oedd tâp Steve Eaves… aeth hwnnw’n styc yn y peiriant wedyn, cofio hwnnw’n cal effaith arnai.
Ti cofio pa dâp oedd o?
Croen Denau dwi meddwl. A…. yyyyy…. War of the Worlds hefyd am ryw reswm!
Mae Twmffat yn gymysgedd o arddulliau cerddorol, ond yn Gymreig iawn iawn yr un pryd. e.e. fysa “cofia geiria dy Daid..” ddim run peth yn Saesneg na fysa?
Na, na fysa… be sy neud petha’n Gymreig ydi cyfeillgarwch dwi meddwl. A bod y criw o gerddorion yn deall eu gilydd…. y rheswm nes i sgwennu’r lein yna oedd gan bod Phil yn ista wrth fy ochr (yn y stiwdio) a dwi gwbod faint o bwysa ma Phil yn rhoi ar hanes, ac o le ma’n dod, yn ei fiwsig. Ma siwr bod music o Mali ddim yn swnio’n iawn yn Saesneg chwaith, er bod rhai geiria yn… mae o yn dy esgyrn di a dy enaid di dwi meddwl.
Dave R Edwards, dylanwad?
Yndi, ond… cyn gymaint a ma unrhyw beat poet neu beth bynnag twbo? Kerouac a heini i gyd, bobl sy’n meddwl chydig bach tu allan i’r box. Ond, swn i’m yn deud fod o’n ddylanwad ‘all consuming’ o bell ffordd, fyswn i’n deud bod Bright Eyes neu Manu Chao yr run mor bwysig…. jest bobl sydd efo rwbath i ddeud, neu teimlo bod gennyn nhw… er bod neb yn ffycin gwrando! (chwerth!)
Ydi tirwedd neu lleoliad yn chwarae rhan pwysig yn dy gerddoriaeth?
Bendant, yn reddfol… ma’n rhan o pwy wyt ti. Mae beth bynnag ti’n deimlo yn mynd i ddod allan mewn unrhwy ffordd foed o’n tiwn, be ti sgwennu, rant meddwol… ti’n product o dy gymuned a dy dirwedd.
… ti ddim yn byw ynghanol skyscrapers ond rhwng mor a mynydd…
Exactly ia.. mae hynna’n wir. Mae’r meddwl hefyd yn ehangach… ti gwbo, ti’n dianc i rywle arallfydol e.e. mae Cwmorthin yn mynd a chdi i rwla, top mynydd…. ma skyscrapers yn mynd a chdi, fel Clash, i rwbath mwy urban, ghettos neu rwbath….
Be ma’r SRG angen i fod yn well?
Hyder, bod ni mewn sîn… hyder ynddi… be da ni newy siarad amdano – tirwedd, Cymreictod – hyder. Peidio trio efelychu ddim byd, dwi’m yn gwbod…
Sut ma gneud hynny heb edrych yn fewnol?
Ia, ia… natho ni rioed edrych yn fewnol, yn hytrach bobl eraill oedd yn edrych yn ‘fewnol’ arna ni ella…. yyy dwi’m yn gwbod, ffycinel. Os fysa ti’n ffeindio ateb i honna de… gen pawb i ddadleuon does? Rhys Mwyn ac ati… ydi’r sîn roc mewn trafferth? Ta jest esblygu me o?
Mae rhywun yn cynnig £1000 i ti ar yr amod dy fod ti’n prynu rywbeth cerddorol, be?
Yyyy, gold plated kazooo! (chwerth!) Neu wbath i ddal can o gwrw’n sownd i mic stand ar y llwyfan! Na… fyswn i’n prynu…yyy … gen i mor gymaint o tiwns yn fy mhen ond dwi rioed di darganfod y mynadd i ddysgu, ti gwbo.. dwi bron a delvio mewn i iPad a Garageband cos ma Phil a Al (aelodau Twmffat) yn neud hynny….
Cwrs meddalwedd?
Ia cwrs i ddysgu sut i ddefnyddio’r petha ma, a bo chdi’n garantid o tiwn ar y diwedd.
Pa gwestiwn fysa ti’n gofyn i chdi dy hun?
Gallai’m gofyn cwestiwn i fi’n hun, cos dwi’n gwbod be di’r ateb… hyd yn oed os dwi ofn deud yr ateb, di hynna ddim yn gneud sens o gwbl. Dwi’n gofyn lot o gwestiynau i fi’n hun… a fel Twmffat ella dyna dwi neud – gofyn lot o gwestiynau i fi’n hun a wedyn trio gal o allan ar record.. ond mae o’n twyllo braidd cos dwi ddim yn cyfleu yr ateb…. (chwerth hurt!)
Hwyrach na’r cwestiwn ydi – sut mae blaenoriaethu?
Ia hwrach… mae na ormod o gwestiynau i roi ateb onest!
Oes na brosiect newydd ar y gweill?
Oes… yyy, but it shall remain nameless for the time being. Dwi’m yn siwr os di Twmffat wedi cyrraedd pinacl i fod yn onest, dwi’m yn siwr… dwi heb siarad efo’r gweddill, ond mae na deimlad ella bod, yn sicr o’n ochr i… bod… anger is an energy… wedyn ella ai yn flin am chydig bach, dechrau chilio allan…. eniwe… ond, mae hynna’n anheg chydig bach cos da ni wedi dechra creu…. eniwe, dwi mynd off.
TWMFFAT – Hanesydd (You Tube) oddiar yr albwm diweddaraf – ‘Tydi fama’n madda i neb’ (Recordiau BOS 2012)
Gallwch ddilyn Twmffat ar Facebook