Osian a Branwen Williams / Siddi

IMG_9144

LLe?  Oakley Arms, Maentwrog.

Pryd? Amser cinio. Mawrth 26, 2013

Ydi wir, mae Recordiau I Ka Ching wedi ein breibio efo llond trol o wyau pasg i gynnwys un o’i hartistiaid nhw eto, ail fis yn olynol rwan! Yr artistiaid sy’n cael eu cyfweld mis yma ydy’r deuawd gwerin cyfoes o Lanuwchllyn ger y Bala, sydd hefyd yn frawd a chwaer, Osian a Branwen Williams – Siddi. Mae’r ddau yn brysur iawn yn perfformio gyda bandiau eraill hefyd, yn eu mysg mae Cowbois Rhos Botwnnog, Candelas a Jessops a’r Sgweiri. Yn Ionawr eleni, cawsom gyfle i glywed ‘Un Tro’ yn ei gyfanrwydd, albwm cyntaf Siddi. Mae’r albwm wedi llwyddo i fynd a ni i gyffuniau hudolus, swynol ac anghyfforddus (ar adegau) y byd gwerin. Wedi wythnosau o geisio trefnu dyddiad rhyngddom, o’r diwedd cawsom gyfle i gwrdd, nid yn Llanuwchllyn, ond yng ngwesty clyd yr Oakley Arms, Maentwrog. O leia ein bod o fewn yr un hen sir Feirionnydd! Eira mawr ar y mynyddoedd, ond yn heulog braf yma ar lefel y môr ar lan afon Dwyryd, mewn i’r gwesty a fano oedd y ddau yn gynnes a chlyd yng nghornel y bar bach.

Llongyfarchiadau ar Un Tro, sinematig iawn! Sut ymateb da chi wedi gael hyd yn hyn?

O: Popeth di mynd yn bosotif dwi meddwl do? (yn edrych ar Branwen)…. hyd yn hyn…

(chwerth)

B: Do… pobl yn ffeind ofnadwy. Roedd o’n gyfnod anodd oherwydd anghydfod Eos / BBC. Roedden ni wedi rhyddhau’r albwm yn mis Ionawr a’r anghydfod yn amlwg yr un adeg… oedd o’n anodd peidio clywed y caneuon ar y radio tasa nhw wedi dewis chwarae’r caneuon, cyfnod rhyfedd. Ond dwi’m yn gwbod os da ni wedi cael mwy o genfogaeth oherwydd hyna, twbo… bobl yn llawer mwy parod i fynd allan i brynu’r albwm. Mae’r gefnogaeth lleol di bod yn…(saib) e.e. da ni wedi gwerth 30 albwm yn Awen Meirion (Siop Lyfrau y Bala) yn unig, sy’n rhywbeth anghyffredin iawn yn ôl Gwyn Sion Ifan (y perchennog). Ma jest meddwl bo chdi’n cal cefnogaeth felna yn werth y byd.

Esboniwch y cysyniad.

O: Tair mlynedd yn ôl, aeth Branwen i Gaerdydd i wneud MA mewn astudiaethau gwerin, a wedyn dyma fi’n cael galwad ffôn ryw bnawn, Branwen cafodd y syniad i gyd mewn ffordd. Ar y pryd doedden i ddim mewn band efo’n gilydd, a dyma’i jest yn dweud wrthai, “…na ni, da ni am gychwyn band o’r enw Siddi, a da ni mynd i wneud albwm ar y stori yma..” ia? Gei di ddweud y stori…

B: Ia, dylai pawb brynu’r llyfr ‘ma, dim syniad os ydi o dal mewn print ond ‘Straeon Tylwyth Teg’ ydi enw’r llyfr gan rhywyn o’r enw Hugh Evans. Ma’n llawn straeon tylwyth teg, a mae o’n sgwennu fo o berspecif  fod o’n credu yn y tylwyth teg ‘ma, sy’n gneud o lot mwy difyr de… mae o ofn nhw chydig bach. Eniwe.. ma na lwyth o straeon, nid yn unig o Lanuwchllyn ond o gwm llai byth tu ol i ty ni yn yng Nghwm Cynllwyd. Ond i jest yn meddwl fod hyn yn rhyfedd twbo? …a bod o di casglu nhw felma. Ddaru ni ddewis un, panio hi allan chydig bach a’i ddefnyddio fel cefnlen bras i albwm. Alli di’m gweithio’r stori allan o’r caneuon yn berffaith, ma’r caneuon i fod fatha microscope ar y stori a’r themau, profiad.

IMG_9167_2

Sut aethoch ati i gynhyrchu? Swn amrwd iawn.

O: Ia oedd hyne yn rywbeth ddaru ni ddeud o’r cychwyn hefyd… fatha, dau offeryn gyno ni de… fi ar y gitar a Branwen ar y piano a dau lais, felly… ddaru ni benderfyny o’r cychwyn ein bod ni ddim am adio ddim byd arall. Ia, cadw fo’n reit amrwd hwrach, isio’r swn agored oeraidd na, felly natho ni recordio rhan fwyaf ohono yn hen ysgoldy, ryw hen gapel, yng nghanol Llanuwchllwyn… a gorffen y canu adre, ynde?

B: Ia, ac os oedd yr adeilad yn penderfyny gwneud swn, ti gwbo ma adeiladau yn gwneud swn tydi? Oedd y petha ma’n aros mewn, achos dyna oedd y profiad. Ac ar rai rhannau o’r albwm ti fod i deimlo chydig bach yn anghyfforddus, fatha… ma’r gitar yn creekian dydi? “Ma hwnna’n aros mewn de!”

Chi gynhyrchod o?

O: Ia, neud o’n hunen. Oedd o mor syml o ran y broses recordio…. (saib) natho ni gal broblem do? Piano y capel chydig bach allan o diwn… oedda ni bron a rhoi o mewn, neu defnyddio electric piano de… ond oedd hyne hyd yn oed, bod o o chydig bach allan o diwn, eto yn adio ato fo. Nes i feicio’r piano, meicio’r amp gitâr a wedyn sticio un meicroffon ynghanol stafell i godi pob dim i fyny. Ia, cynhyrchu fo i gyd ein hunen.

Ar adegau, mae Un Tro yn swnio fel deuawd ‘Eisteddfodol’… ond mewn ffordd amgen / indie. Gosod trend newydd?

(chwerth!)

Dwi meddwl ma na ryw stigma weithia yn erbyn canu, ddim yn Eisteddfodol, ond canu chydig bach yn ‘gywir’. Os na ti gallu deall yr enganu a geiria cân, does na’m point dwi’n yn meddwl, yn enwedig efo hwn oherwydd mae o mor fregus, a’r geiria yn ran mor allweddol o’r profiad o wrando ar hwn (yr albwm)…dwi’n gobeithio. Dwi’m di gneud ymdrech uniongyrchol i enganu’n gywir ond mae o’n rywbeth naturiol i ni tydi?

Gynnoch chi hanes o Steddfota?

B: O gosh oes, sgen ti’m dewis yn Llanuwchllyn! Dwi meddwl bod trend perfformio ac enganu yn ddiog ar hyn o bryd yn y sîn a wedi bod ers ryw 5 i 6 mlynedd fyswn i ddeud. Tydi o’m yn cwl nadi? I sefyll yna fel bod ti isio bod yna…

Da chi’n gneud rywfath o ddatganiad?

B: Yyyyymmm….  fyswn i meddwl mod i’n datgan – mod i isio bod yno, hwrach. A mod i isio cydnabod y gynulleidfa a trio creu perthynas efo nhw, yndw. A s’dim byd yn bod efo hynna. Sgenai ddim problem efo’r holl stigma de, dwi’m gwbod fysa rhai pobl yn ei weld o fel problem yn eu gyfra cerddorol falla. Oedden ni’n gorfod cystadlu mewn 4 steddfod leol bob blwyddyn, heb son am yr Urdd a’r Genedlaethol. Ti jest yn gneud o… oedd y celfyddydau mor bwysig yn ysgol gynradd de, oeddet ti’n gneud llun i pob stori er enghraifft de….

IMG_9158

Dylanwadau?

B: Canu gwerin. Da ni’n rhannu’r un cariad tuag ato yn dydan?

O: Ynden, a di bod erioed dwi meddwl do?

B: A ffeindio caneuon newydd, variations, pennillion gwahanol… ma’n fyd mor diddorol. Dwi siwr fod hwna’n fan cychwyn…

O le ddaeth hynny?

B: Dim syniad. Cwpl o lyfrau rownd y ty. Dwi wedi clywed sawl un arall yn dweud bod y tâp ‘Canu Gwerin i Blant’ gan Plethyn wedi dylanwadu ac yn ran o blentyndod rhywyn, dwi siwr fod hwna’n fan cychwyn hefyd. Ond wedyn os gen ti ddiddordeb, ti’n cymeryd camau dy hun wedyn dwyt unwaith ti’n chwilio a dechra gwrando.

Unrhywbeth cyfoes?

O: Fyswn i deud mod i’n gwrando ar bethau trymach na ti dydw? Pob math i ddweud y gwir. Yn y Gymraeg rwan, o ran bandiau roc, mae fatha bod y gerddoriaeth i gyd yno ond sgen ti ddim… (saib) dwi jest sbio nôl a cofio Big Leaves de. Yn amlwg oedden nhw’n fand da oedd, ond oedden nhw i gyd mor cwl ar y llwyfan doedden? Ac oedd gen ti ffrynt man, oedd yn bod yn ffrynt man! Fel oeddet ti’n sôn cynt, dwnim be ydi o, dio ddim yn cwl bod felna rwan.

Showmanship felly?

O: Showmanship ia! Ma’na ryw craze ar y funud i fynd yn erbyn hynny, mae’n siwtio rhai tydi… ond ar y funud, yn y Gymraeg, dwi’m yn meddwl fod gen ti’m cweit yr elfen Big Leaves ‘na… er bod lot o fandie, o ran cerddoriaeth, yn brilliant.

B: Dwi licio geiriau da de, ma rhai bobl dy nhw’m yn gwrando ar eiria weitia ond dwi yn.

IMG_9156

Mae ‘Un Tro’ ar adegau yn swnio fel bod o’n ran o sîn indie – gwerin America / Canada. Oes na ddylanwadau o fana? Ta ydio’n hollol organig?

B: Roedd o’n cefn ein penna bod ni isio cadw’n gwrandawr ar flaenau’i traed o ran bod nhw ddim yn hollol gyffordus yn gwrando arno. Falla bod twtchis bach o Bon Iver… ond ma’n mish mash enfawr o wahanol bobl.

Ma’r ddau ohonoch mewn bandia eraill, sut mae cydbwyso?

O: Nath hi gymeryd dwy flynedd dda i wneud yr albwm ma de, natho ni gal y syniad 3 – 4 mlynedd yn ôl. Dwy flynedd yn ormod!

B: Ond dyna fo, ma Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog, felna mai. Ti’n diolch am y llwyddiant ti’n gael efo heini. Ma Cowbois wedi gneud 88 gig llynedd, sy’n anhygoel o beth i fod yn rhan o hynna.

Ydi o’n anodd / straen ar adegau? Yntai mwynhau pob eiliad?

B: Mae’n straen oherwydd mae’n raid i mi weithio llawn amser, allai ddim neud o fel cerddor llawn amser….dwi’n yn meddwl. Mae Cowbois yn trio neud o, dwi’m yn gwbod faint mor hawdd ydy iddyn nhw… ond ma nhw’n trio. Dwi’m yn meddwl allai wneud hi… bysa’n dda gallu gwneud cos sa’r albwm yma a llwyth o gynnyrch arall wedi dodd allan tair mlynedd yn ôl! Dwi’m yn cweit yn barod eto i gymeryd y risg o beidio gweithio, sy’n drist.

Osian, ti’n aelod o Candelas, Jessop a’r Sgweiri, Cowbois Rh.B. a Siddi… 4 band. Gen ti ddull arbennig o weithio efo pob un band, ta dio’n plethu?

O: Ar y funud, dwi’n sdiwdant yndw!

(chwerth!)

Mae pob band ar ben ei hun, mae gen i feddylfryd gwahanol i pob un mewn ffordd. Ia, pan dwi sgwennu cân… mae pobl wastad yn gofyn “Sut ti’n penderfyny pwy bia’r gân?”… ond dwi’n gwybod o’r cychwyn, unwaith dwi’n eistedd lawr i gyfansoddi mae’r cerddoriaeth mor wahanol i pob un. Dwi’n gallu gwahaniaethu reit hawdd.

IMG_9160

Be mae’r SRG angen i fod yn well?

B: Ma sawl person wedi dweud wrthai, a dwi’n cytuno, bod safon y cerddorion ar ei uchaf erioed, y gallu cerddorol a gafael sgen pobl ar eu offerynau. Hefyd, dwi cael llond bol o’r bad press sy’n dod gan bobl dwi ‘rioed wedi gweld mewn gig dros y tair mlynedd dwytha, a sgyno nhw’m clem am be ma nhw’n siarad! Wedi cal llond bol, cos dy nhw’n amlwg ddim yn rhan o’r sîn dwi rhan ohono yn de. Da ni hefyd yn trefnu gigs nôl adre yn Bala ers dwy flynedd a mae nhw’n anhygoel, a’r diddordeb yn anhygoel…. felly cael gwared o’r bad press swn i licio. Mae gyno ni fand ifanc lleol yn ysgol Y Berwyn rwan sy’n dod i’r aelwyd atom ni yndi? Hefyd mae na fand yn yr ysgol gynradd rwan fyd sy’n gwylio’r Cledrau a gwylio Candelas, twbo… maga di hynna’n lleol fydd na’m problem de.

O: Son am wbath hollol wahanol, fyswn i’n deud bod angen balls yn y sîn roc Gymraeg! Hynny’n un peth sydd ar goll. (saib) Jets yn y music roc yn amlwg…  dim jest Siddi twbo? (chwerth!)

Mae rhywun yn cynnig £1000 i chi ar yr amod dy fod ti’n prynu rywbeth cerddorol, be?

B: Ti gwbod yn iawn Osh, prynu keyboard llai i mi! Ma’r un presenol yn anferthol 88 nodyn, lot rhy fawr i feddwl be dwi’n ddefnyddio ohono!

Mae na keyboard mat ar gael does?

B: Dyna ni, dyna dwi gael… keyboard mat i mi! Be fysa ti’n gael Osh?

O: Wel da ni di wario fo i gyd rwan do! (chwerth!)

Cwestiwn eich hunan.

B: Os fyswn i’n cael ymuno efo un band am ddiwrnod, pwy fysa nhw? Dwi’n dewis Fleet Foxes. Mae gyna nhw ddau biano ar llwyfan, pianos iawn – upright…. a’r harmonis!

O: Dryms ydi fy offeryn cynta fi, hyna dwi’n fwynhau ora. Mynd i ddrymio i Artic Monkeys a bod yn hollol roc a rol am noson!

IMG_9175_2

Da ni am glywed mwy gan Siddi?

O: Da ni isio does? Da ni isio mynd ymlaen i wneud rywbeth newydd. Be sy’n braf ydi bod yr albwm yma wedi bod yn albwm gysyniadol, mewn ffordd sa ni gallu mynd i unrhywle yn y byd o ran cyfeiriad gwahanol rwan achos mae Un Tro wedi ei greu ac i gyd efo’i gilydd fel package. So sa ni gallu gwneud rywbeth heavy metal neu rywbeth!! (chwerth!)

‘Da chi ddim am gydymffurfio i un genre felly?

B + O: Na!

O: Dwi ar fin cymysgu albwm cynta Candelas hefyd, dwi deud hyn de ond gobeithio gal o’n barod o fewn y mis!

B: Ti’n mynd i Iwerddon  mewn pythefnos!

O: Oh ia! O ran Jessop a’r Sgweiri, da ni mynd i’r wyl Ban Geltaidd ar ol ennill Cân i Gymru. D ani dal heb fwcio’r fferi! Gwych! (chwerth!)

Siddi / Bandcamp

@siddiband / Twitter

Prynwch ‘Un Tro’ gan Siddi yma – Recordiau I KA Ching