Wel… rhaid dweud, mae 2013 wedi bod yn flwyddyn a hanner i gerddoriaeth Cymreig. O’r triongl anghydfod cymleth rhwng y PRS, BBC ac EOS i’r ton newydd o fandiau Cymreig yn lwyddo dros y ffîn… o ‘frethyn’ gwyl Swn, Womex a NO.6 i ‘wlân’ gigs tafarndai swnllyd a gwyliau bychain… o raglenni teledu fel Ochr 1, Stiwidio Gefn ag Acapela i raglenni Radio Cymru / Wales (…yn enwedig C2!)… o’r sylw prin ac arwynebol yn ein papurau cenedlaethol i flogs guerilla gwirfoddol, heb anghofio Selar wrth gwrs! Mae’r cyfryngau hyn yn hanfodol i gynnal unrhyw sîn gan roi chydig mwy o hygrededd i hud ein diwylliant. Ydi wir… mae’r SRG, neu ‘byd cerddorol Cymru’ (beth bynnag ydych yn ei alw) yn feicrocosm arbennig o fewn ecosystem diwylliannol ehangach y byd, aderyn prin a’i blu lliwgar yn crafu byw ar weddillion yr adar sglyfaethus, a hynny mewn anialwch o aur! Mae’n ymddangos hefyd bod modd rhoi sglein ar eich adenydd os ydych yn gallu rheoli’ch amser a llenwi ffurflenni grantiau… ond, nid pob cerddor sy’n meddianu’r sgiliau swyddfa hyn, yn ogystal, mae’r berthynas ansefydlog rhwng cyllid a chreu yn bwnc orthrychol iawn. Er yr holl glwydi, gwendidau, gwahaniaethau, dadlau, arddulliau … sdim os nac onibai bod safon cerddoriaeth Cymru yn arbennig o dda, gyda thon newydd o artistiaid hyderus yn ymddangos fel madarch hud yn ein caeau gwyrdd, fel wyn yn prancio mysg ein preiddiau profiadol. Yn wir… bydd gwanwyn 2014 yma cyn i chi allu dweud ‘tangnefedd i’r twrci’… oes gwanwyn cerddorol cystal a ’13 ar y ffordd? Pwy a wyr!? Rhoddaf y gair olaf i un o’n sêr mwyaf talentog newydd… Kizzy Crawford!
Blwyddyn Newydd Dda, a diolch o galon am ddarllen Brythonicana 2013.
Llongyfarchiadau ar yr EP mewydd ‘Temporary Zone’, swnio’n wych. Sut ymateb hyd yn hyn?
Diolch! Mae di bod yn wych hyd yn hyn ac mae copïau wedi bod yn gwerthu yn gyflym yn gorfforol ac yn ddigidol! Mae wedi bod yn gyfle gwych i fi, yn gweithio gyda Amy Wadge – un o fy arwresau! – a Gethin John. Ac wrth gwrs mae ennill y gystadleuaeth Rhondda Cynon Taf wedi agor cymaint o ddrysau i fi. Mae cynhyrchu EP yma yn rhan o fy ngwobr, ac wrth gwrs mae fy rheolaeth – See Monkey Songs wedi bod yn rhan mawr hefyd. Dwi ‘di dysgu cymaint trwy’r broses gynhyrchu gyfan a mae deall sut mae fy ysgrifennu a pherfformio yn dod yn gynnyrch y gall pobl brynu, wedi bod yn ddylanwad mawr ar ddeunydd newydd.
Mae yna atseiniau amlwg iawn o ddylanwadau soul ac ‘acoustic’ R&B… pwy wyt ti’n wrando arno rhan amlaf?
Cefais fy magu yn clywed y gerddoriaeth roedd fy mam yn chwarae – llawer o jazz , gwerin, a pethau o’r 60au / 70au fel Nick Drake , Kate Bush , Tracy Chapman , Joan Armatrading , Seal , Carpenters , Joni Mitchell , Meic Stevens , Steely Dan, Steelye Span , John Cale, 10cc a llawer o gerddoriaeth glasurol hefyd – baroc yn enwedig , a Vaughan Williams. Mae hi a fy nhad wastad wedi chwarae llawer o soul, reggae a ffync, yn ogystal â llawer o Roy Ayers , Jamiroquai , Bob Marley , Carroll Thompson , Stevie Wonder a Luther Vandross . Rwy’n gwrando ar artistiaid fel St Vincent , Andreya Triana, Snarky Puppy, Ella Fitzgerald, Gareth Bonello, Omar, Imogen Heap a Sara Tavares . Rwy’n credu gall y ddylanwadau yma cael ei glywed yn fy nghaneuon . Rwy’n tueddu i fynd am harmoni cymhleth ac mae’n bwysig iawn i fi bod geiriau yn cofiadwy ac yn cael ystyr. Dwi erioed wedi eisiau ysgrifennu’n union am deimladau fel cariad yn y ffordd mae llawer o artistiaid yn ei wneud, er yn amlwg mae fy nheimladau yn dylanwadu ar fy ysgrifennu , mae jyst well gen i ddefnyddio trosiadau. Dwi wrth fy modd yn astudio llenyddiaeth Gymraeg yn yr ysgol ac wedi ysgrifennu llawer o ganeuon sy’n cael ei ddylanwadu yn uniongyrchol gan gerddi dwi ‘di gweithio arno. Yn aml mae sefyllfaoedd teuluol neu bobl rwy’n cwrdd yn rhoi syniadau i fi ar gyfer geiriau, ac os dwi eisiau chwilio am syniadau neu deimladau, dydy cerdded lan ar y comin uwchben y tŷ byth yn methu fi…
Mae’r EP wedi ei gynhyrchu’n dda ond yn gynnil, ydi hynny’n help pan ti’n perfformio’n fyw efo loop pedal?
Mae elfennau o fy mherfformiadau byw ac effeithiau ac arbrofion fy lwp pedal wedi mynd i mewn i un neu ddau o’r traciau, fodd bynnag cafodd rhai o’r traciau eu recordio yn gynharach eleni, ac ers hynny dwin teimlo fy mod wedi datblygu yn gerddorol yn fy mherfformiad a’r ffordd rwyn arbrofi. Mae’n golygu fy mod i’n gallu datblygu llawer mwy o syniadau ar gyfer y traciau wrth i fi perfformio nhw’n fyw ac o bosibl recordio fersiynau eraill. Mae wedi bod yn broses ddysgu fawr i fi ac mae wedi helpu fi i ddatblygu fy sgiliau cynhyrchu a recordio fy hunain.
Ti wedi cael blwyddyn llwyddiannus iawn. Ennill brywdr y bandiau Maes B, cytundeb recordio / rheolaeth ac EP… wyt ti’n hapus?
Mae ‘di bod yn wych! Mae’r gystadleuaeth canu\sgwennu yr RCT enillais yn Tachwedd blwyddyn diwethaf wedi rhoi llawer o gyfleoedd i fi eleni. Dwi nawr dan rheolaeth gyda label Charlotte Church : See Monkey Songs, ac yn gweithio gyda grŵp o fenywod anhygoel ar y label sydd wedi helpu fi i gyflawni cymaint o bethau eleni. Ac wrth gwrs mae ennill brwydr y bandiau wedi rhoi cymaint o gyfleoedd yn diweddar. Mae gigs wedi bod yn mental! Mae yna gymaint o uchafbwyntiau! Cefais y cyfle i chwarae yn y gynhadledd agoriadol yn Womex, agorais gynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth i Leanne Wood, dwi ‘di cefnogi Newton Faulkner a Meic Stevens a hefyd ‘di cael y cyfle i berfformio ‘Adra’ gyda Gwyneth Glyn yn y steddfod yn Nhinbych!
Beth, yn dy farn di, ydy’r peth gorau am yr SRG (Sin Roc Gymraeg)?
Mae na cymaint o fandiau ac artistiaid anhygoel o gwmpas, fel Gildas, Swnami, Plu, Greta Isaac, Al Lewis, The Gentle Good, Gwenno, Georgia Ruth, mae llawer o roc, indie a gwerin. Dwi’n hoff iawn o’r cymysgedd o electro\pop\gwerin ni’n clywed o Gulp a Trwbador. Byddai wrth fy modd i weld mwy o jazz a soul. Byddai’n hoffi dweud fy mod i’n dod â rhywfaint o hynny i’r sin fy hun!
Beth yw dy gefndir cerddorol?
Mae rhieni fy nhad yn dod o Barbados , a symudodd nhw i Reading yn y 1950au lle cafodd fy rhieni eu geni – roedd fy nhad-cu mewn côr adnabyddus a deithiodd y West Indies. Mae gen i lawer o ddylanwadau reggae , ffync a soul o ochr fy nhad. Mae fy mam yn dod o de-ddwyrain Lloegr. Mae gen i lawer o ddylanwadau gwerin a jazz o ochr fy mam. Dwin uniaethu fel Cymraes ac wedi cael fy haddysgu yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ers i fi fod 3 , mae gennai lawer o ddylanwadau gwerin traddodiadol Cymreig hefyd. O’n i wastad yn berfformio yn yr Eisteddfod ac mae hynny’n sicr wedi helpu fi gyda fy hyder ar y llwyfan ! Dwi ‘di sgwennu pob un o traciau’r EP fyn hunan a mae rhai wedi eu hysbrydoli gan lenyddiaeth Gymraeg dwi ‘di bod yn astudio ar gyfer fy level A. Mae fy athrawes Cymraeg Sioned Jones wedi bod yn gymorth mawr ac ysbrydoliaeth i mi. O’n i hefyd eisiau i’r traciau fod ar gyfer ac amdano fenywod cryf. Dwi’n uniaethu fel ffeminist – ffeminist, du, Cymreig – a dwi am i bobl glywed a gwybod am cryfder a phŵer merched ‘ – i wrando ar ein llais , yn ogystal ag i gwerthfawrogi ein prydferthwch. Mae na rhai menywod Cymreig cryf yn fy nganeuon, o hanes ac o nawr a rwyn rhoi llais iddyn nhw. Y gobaith yw y bydd hyn yn ysbrydoli pobl eraill. Mae ‘di bod yn neges gryf a phwysig yn fy nheulu drwy gydol fy mywyd.
Dwi wastad ‘di fod yn awyddus i chwarae gitâr felly pan oeddwn i tua 13 ces i gitar crap o argos a dysgais fy hunain. Ysgrifennais fy ngân gyntaf ar ôl chwarae o gwmpas gyda chordiau a alawon am ddiwrnod neu ddau . Roeddwn yn gwrando ar lawer o Gwyneth Glyn ar y pryd. ‘Nath e dechrau o pryd hynny. Pan oeddwn yn 7, dechreuais wersi ffidil yn yr ysgol ac dwi wedi gwneud fy ngradd 7 ond bellach wedi penderfynu arbrofi i lawr y llwybr werinol. Mae dysgu gitar fy hun wedi rhoi lawer o ryddid i fi, ond ers i mi wedi dechrau arbrofi mwy gyda’r gitâr drydan , hoffwn gael ambell gwers, er mwyn cael y bysedd yn symud yn gyflymach , dwi am i feistroli y solo gitar! Dwi’m cweit yna eto!
Ti di meddwl cael band at ei gilydd? ‘Ta ti’n hapus yn solo?
Dwi wrth fy modd yn gweithio’n solo – dwi wastad ‘di bod yn solo, ac rwy’n hapus yn lle fy hunain yn perfformio gyda fy lwp pedal a gitar. Rwy’n berffeithydd pan rwy’n ysgrifennu , a phan dwi ar y llwyfan yn solo , gallai drosglwyddo popeth yn uniongyrchol at fy mherfformiad . Dwi wrth fy modd cael y rhyddid i deithio a gigio ar termau fy hunain a does dim rhaid i fi boeni am unrhyw un fod yn hwyr neu sortio unrhyw drefniadau ac arian drwy’r amser! Fel arfer jyst fi a fy cit yw e a mae’n eitha easy goin- Dwi wastad yn clywed gan eraill am y problemau mae bandiau yn cael gydag aelodau. Fel y dywedais o’r blaen, dwi wrth fy modd yn defnyddio’r lwp pedal ‘chos mae’n rhoi y cyfle i fi fod yn technegol ac arbrofol ac i symud o gwmpas ar y llwyfan ac i greu’r sŵn mawr ‘ma fy hunain, mae’n mynd lawr yn dda iawn ‘da’r gynulleidfa. Fodd bynnag, ar gyfer noson lawnsiad fy EP rhoddais band at ei gilydd gyda Guto Lloyd Davies o apps yr wythnos ar radio C2 yn chwarae bongos, Aeddan Williams yn chwarae bas dwbl a Sam Humphreys o Calan yn chwarae gitâr drydan. Roedd e’n brofiad anhygoel i gael nhw i gyd yn chwarae fy caneuon gyda fi , a wnaethom ni gelio’n syth a oedd yn gwneud y brofiad hyd yn oed yn well . Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cysylltiad cerddorol ar y llwyfan gyda nhw ac i rhannu’r cyffro o berfformio ! Methu aros i weithio gyda nhw eto ac mae gennym rai cynlluniau ar gyfer 2014 , felly watch this space!
Nadolig? Iei ta Nei?
I fod yn onest mae gallu fod yn straen i fi ar hyn o bryd, ond efallai mae e achos fi’n 17 a’r hynaf o bump. Unwaith fi’n ‘chydig yn hŷn, yn ôl pob tebyg bydd hynny’n newid! Mae’n galed i fod yn berson ifanc yn fy arddegau! Rwy’n mwynhau bod allan – gigio ac archwilio. Ond yn wir, rwy’n credu, ‘dolig yw’r amser i dreulio gyda’r teulu, i fwynhau ac i rannu ac i roi. Uchafbwynt y Nadolig yw’r ffaith ges i’r siawns i fynd ar y sbesial ‘dolig Y Stiwdio Gefn. Nes i sgwennu deuawd cariad newydd Nadoligaidd yn sbesial ar gyfer y sioe a nes i ganu fe gyda Geraint Rhys. O’n i’n bwriadu rhyddhau e fel sengl cyn y Nadolig ond oherwydd amser a pethau eraill nath e ddim gweithio mas – felly gwyliwch mas amdani Nadolig nesaf!
Cwestiwn i ti dy hun: “Fel artist dwyieithog, allet ti ddweud ychydig mwy wrthym am dy gyfansoddi?”
Mae’n bwysig iawn bod fy ngherddoriaeth yn siarad â phobl gyda’r geiriau dwin ysgrifennu a nid jyst yr alawon. Dwi wastad ‘di hoffi artistiaid ar gyfer y gerddoriaeth yn gyfartal am y geiriau, ond dim ond wrth i fi dyfu’n hŷn sylweddolais bod lawer o pobl dim rili yn gwrando ar y geiriau. Pan oeddwn yn tyfu lan, daeth yr iaith Gymraeg, i fi fel Gymraes, yn rhan bwysig iawn o fy hunaniaeth oherwydd roedd e’n ffordd ‘o’n i’n gallu ffitio mewn a bod fel pawb arall. Weithiau ‘o’n i’n teimlo’n unig ac yn wahanol yn yr ysgol a wnaeth cerddoriaeth rili helpu fi gyda’r teimladau ‘na, sgwennais gân am sut roeddwn yn teimlo ar y pryd sef ‘Skin you’re In’ sydd yn gan Saesneg. Ond yn aml dwi’n ffeindio fy mod i’n defnyddio’r Gymraeg yn fwy naturiol i fynegi meddyliau a theimladau oherwydd mae’n iaith mor farddonol. Hefyd rwy’n teimlo bod pan rwy’n ysgrifennu, yn Gymraeg neu Saesneg , bod fi’n gyfrifol am bobl ifanc yn clywed fy nghaneuon ac rwy’n ymwybodol o beth rwy’n ddweud a sut gall pobl clywed fy nghaneuon. Rhywbeth rwy’n ffeindio’n eithaf anodd i ddelio gyda yw’r ffordd bod, er fy mod i’n artist Gymreig ac yn canu ac yn ysgrifennu llawer yn y Gymraeg ac, wrth gwrs, yn perfformio dros Cymru, yw’r ffaith bydd pobl yn dod ataf i – aelodau o’r gynulleidfa neu bobl rwy’n gweithio gyda, a defnyddio Saesneg er mai Cymraeg yw’r iaith yn cael ei defnyddio gan bawb o gwmpas fi. Wedyn weithiau mae pobl yn synnu pryd fi’n ateb nol yn Gymraeg! Ac er bod ni wedyn yn mynd ‘mlaen i ddefnyddio’r Gymraeg, mae’n neud i fi meddwl tybed pam a sut mae pobl yn fy ngweld i fel siaradwr Saesneg yn unig neu efallai hyd yn oed dysgwr, er gwaethaf fy nghefndir.
2014 i Kizzy?
Dwin mynd i recordio EP neu albwm newydd, ddim yn siwr pa un eto ond bydd e’n cynnwys rhai o fy synau ffynci newydd, rhai dwi ‘di bod yn perfformio’n fyw ar fy lwp pedal yn diweddar. Byddaf yn gwneud cyfres o sioeau arbennig gyda fy mand, a byddai’n perfformio mewn llawer o wyliau yn yr haf! Dwi hefyd yn gobeithio i deithio dramor, efallai gwneud taith! Ond ar ben popeth, byddain gorffen fy lefel A! Yna mae ysgol mas a dwin rhydd!
EP Kizzy : ‘Temporary Zone’ allan rwan / nawr!
http://www.kizzymerielcrawford.com/
Lluniau / Pics: