Lle? Lladd-dy anhysbys a dirgel…
Pryd? Bore, Medi 27, 2013
Mae Huw Owen aka Mr Huw wedi bod yn weithgar yn y sîn Gymraeg ers blynyddoedd bellach. O gael ei wahardd o Waunfawr gyda’r band Cacan Wy Experience i gigs stompllyd uchel ‘fyny i 11’ a pynci Kentucky AFC, rwan… yn un o artistaid mwyaf heriol a blaengar yn ein mysg. Yn ogystal a’i waith fel artist mae hefyd yn gynhyrchydd i fandiau cyffroes eraill ac yn fentor gweithgar i Cerdd Cymunedol Cymru. Yn ei amser sbar, mae’n hoff o focha mewn lladd-dai… cefais awgrym o leoliad y lladd-dy… es yno i’w holi!
Mae ‘Cariad Afiach’ allan ers Gorffenaf, llongyfarchiadau! Sut ymateb hyd yn hyn?
Ti gwbo be? Ma di bod yn ymateb gwych, dwi’n hollol hapus! Dwi di cal lot o ebyst posotif gan bobl sy wedi prynu’r feinyl drwy bandcamp a ballu… ymateb da a ma’r gwerthiant yn dda hefyd. Ma’n neis hefyd fod o ar feinyl hefyd… carreg milltir bach i Mr Huw
Ma’r caneuon yn classic Mr Huw… be sy’n dy ysgogi i gyfansoddi am bethau graffig ag agos i’r asgwrn?
Dwi’m yn gwbo… ma yn y fy natur i sgwennu petha fela dwi meddwl, mae gen i hiwmor tywyll. Ma’r ffilms dwi’n wylio i gyd yn dywyll a gritty… dwi’m isio canu am betha sy… twbo… neud petha fyny, canu am gariadon a bod yn ‘hapus’ a ryw lol felly twbo? Ma bywyd lot mwy tywyll na ma bobl yn neud allan i fod yndi? Waeth i ni dderbyn y ffaith ddim.
Dim CD, feinyl a lawrlwythiad yn unig. Mae feinyls wedi neud cymback yn bendant… faint o Gymry ti meddwl sy’n ymddiddori yn y vinyl revival?
Dwi di cal fy siomi ar yr ochr ora o faint o bobl sy’n prynu a gwrando ar feinyl. Neithiwr oedd gen i gig yn Bala… ac oedd pobl ifanc yn eu harddega yn prynu feinyl, dwmbo… ma’n wbath ti’n gasglu yndi? Wedyn ma na lawrlwythiad am ddim fyd does… ti cael dy feinyl fatha soveneir os lici di (wrach nei di’m chwara fo…) ond ti cal yr albwm fel download hefyd. Ma’n wbath neis dwi meddwl.
Oes peryg i feinyls greu rywfath o is-ddiwylliant elitaidd yn Nghymru? Ta gwthio tuag at rywfath o ddeffroad diwylliannol?
Dwn i’m…. ym…. (saib hir) gofyn honna eto i mi…
(Chwerth! Gofyn y cwestiwn eto…)
Mae o’n beth iach yn bendant… dio’m yn creu wbath elitist dwi’m yn meddwl nadi? Twbo be de, dwi di sylweddoli mod i’n gwerthu feinyls mewn gigs lle o blaen oni cal traffarth yn trio gwerthu CD’s. Ma’n fformat i roi music arna fo, a dyna dwi falch ohono twbo… a ma bobl yn prynu fo. Fyswn i di rhyddhau ar feinyl bob tro cyn wan swn i di cal y cyfla, yndi mae o’n fformat drytach i neud ond mae pobl sy’n brynu o yn parchu eu casgliad. Yn bersonol, ma na wbath eitha throw away am CD… ti gallu neud CD dy hun ar gyfrifiadur neu beth bynnag. Dwmbo, ella bo fi’n chydig o snob pan ma’n dod i brynu cerddoriaeth. Nai byth brynu CD, prynu ar feinyl oherwydd fod o’n wbath colectabyl.
Sut fysa ti licio i ddiwylliant canu pop / roc Cymraeg ddatblygu?
Ma mynd drw gyfnoda dwi meddwl yndi? Mynd rownd mewn cylchoedd a mi ddoith na ryw ffrwydriad neu gynwrf bach arall yn fuan… ma’n dechra rwan dydi? Ma’n byrlymu. Angen pobl i fynd allan a neud gigs a ballu twbo….. da ni gyd fel cerddorion yn neud gigs a sylweddoli bod rhai ardaloedd mwy mewn i’w cerddoriaeth na ardaloedd eraill. Ia, ma angen adfywiad o bobl sy’n mynd i gigs does? Dros y dwy dair mlynadd dwytha ma petha wedi tawelu os lici di… dim gymaint o fandia yn gneud teithia bach… a does na’m gymaint o nosweithia rheolaidd. Yn enwedig o lle dwi’n dod twbo, oedd na noson reolaidd, oedd na un bob wsos. Dim jest yn lle dwi’n byw, ond mewn llefydd eraill… ma pobl jest angen dyfal barhau. Neith neb roi o i chdi na? So jest dos allan yna a chwara cyn gymaint alli di, elli di’m fforsio pobl i fynd i gig … ond gobeithio yn diwadd neith bobl sylweddoli bod petha gwerth mynd i’w weld.
Ma Cariad Afiach yn swnio’n wych… eto yn cyffwrdd ar elfennau lo-fi. Ti’n ffan o lo-fi.
Dwi yn ffan mawr o lo-fi…. ma di gal ei recordio yn hollol amrwd, dim llawer o ffrils… dwi’n un am wneud petha fy hun, mae rheolaeth y peth yn eitha llac. Twbo, dwi goro pwyso record a rhedeg tu ol i drym kit neu pwyso record a dod mewn yn y lle iawn a petha felly….. ma’n cymyd sbel i neud twbo. Dwi’n un o’r pobl na sy… os di’n swnio’n iawn i fi, ma’n iawn. Dwi’m yn licio gwraio gormod o amser yn mynd dros petha, mi oni esdalwm – yn ailneud petha, ailneud petha, ailneud petha tan oni’n hapus… ond faint o weithia elli ailneud petha? So… twbo, dwi licio’r elfen amrwd ac os lici – homemade.
Er y cynhyrchiad lo-fi, ma’r gitars yn disgleirio… ac yn atsain o’r cerddoriaeth psych o’r 60’au. Cytuno?
Yndw, oni isio neud albwm efo mwy o gitars arno fo… dwi’n ffan o swn reverb ar gitar. Dwi di defnyddio mwy o effeithia ar y gitars tro twbo. Lot o reverb, chorus’s a delay’s a ballu… oni isio arbrofi mwy a cal swn mwy yn defnyddio gitars yn hytrach na llucho lot o betha ata fo, keyboards a ballu… back to basics os lici di. Ma’r cynyrch gorffenedig yn swnio fatha be nesi ddychmygu fo swnio fel pan oni’n dechra meddwl amdana fo…. hollol hapus efo fo!
Sa ti’n cal y cyfla, fysa ti’n cydweithio efo Dewi Prysor , Llwyd Owen neu Ryan Kift i sgwennu sioe gerdd arswydus i gwmni theatr? Chdi neud y score…
Sa’n brilliant sa? Sa’n wallgo. Swn i’n gneud o mor afiach a thywyll a phosib a falla teithio fo rownd ysgolion cynradd….
(chwerth!)
…addysg i blant!
(chwerth!)
Os fysa na hofrennydd yn gallu mynd a ti i rwla yn y byd wan…. lle?
Porn shoot mewn pwll dwr poeth yng Ngwlad yr Ia!
Cwestiwn delfrydol mewn cyfweliad: Be fysa ti’n neud sa ti ddim yn gerddor?
Drymar… (ptang – tchssh!)
Be nesa i Mr Huw?
Ar hyn o bryd dwi ganol recordio a cynhyrchu cwpl o albyms i bobl… Tom ap Dan a Sen Segur. Dwi di bod yn sgwennu a recordio demos fy hun dros y misoedd dwytha ers rhyddhad Cariad Afiach. Dwisho mynd i recordio heina, gweithio tuag at wbath… jest angen yr amser i neud o!